Manylion y penderfyniad

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Forward Work Programme of the Education Youth & Culture Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, sef Atodiad 2 i’r adroddiad, ac eglurodd fod y ddogfen wedi’i diwygio ers y sesiwn briffio a gynhaliwyd yn y cyfarfod diwethaf.  Rhoddwyd disgrifiad byr o’r eitemau ar y rhestr ar gyfer Medi, Hydref, Rhagfyr 2022 a Chwefror 2023.  Cadarnhaodd yr Hwylusydd y cyflawnwyd yr holl gamau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol fel y nodwyd yn Atodiad 2 i’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. 

 

Holodd y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n ag ansawdd cysylltiadau rhyngrwyd mewn ysgolion a’r prydau ysgol a ddarperid, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) eu bod yn ymwybodol o’r anawsterau â’r rhyngrwyd a ddeilliai o Raglen Seilwaith Cenedlaethol  Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.  Cadarnhaodd fod adran TG y Cyngor wrthi’n ceisio datrys y problemau ond dywedodd nad Sir y Fflint yn unig oedd yn eu cael.  Rhoes y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wybodaeth yngl?n â’r newidiadau yn null gweithredu busnes NEWydd ar gyfer prydau bwyd, a’r gegin gynhyrchu ganolog yn Neuadd y Sir.  Cytunodd y byddai’n gofyn i Reolwr Gyfarwyddwr NEWydd lunio adroddiad yn sôn am y problemau recriwtio’r oeddent yn eu cael, a’r newidiadau yn narpariaeth y prydau ysgol, gan gynnwys gwybodaeth yngl?n â chyflwyno prydau bwyd am ddim i’r holl blant mewn dosbarthiadau babanod.  Gofynnodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a ellid cynnwys yr Adroddiad ar Falansau Ysgolion yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer cyfarfod mis Medi.

 

 Holodd y Cynghorydd Gladys Healey yngl?n â fêpio mewn ysgolion a soniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am drafodaethau a gafwyd yng nghyfarfodydd diweddar Ffederasiwn y Penaethiaid a’r Pwyllgor Ymgynghori Addysg.  Roedd gwaith yn mynd yn ei flaen i ddarparu canllawiau polisi gwerth chweil i gynorthwyo athrawon i reoli’r sefyllfa mewn ysgolion, gan nad oedd dealltwriaeth gyflawn o’r goblygiadau i iechyd plant.  Roedd y gwasanaeth Safonau Masnach yn rhan o hynny hefyd gan ei bod yn anghyfreithlon gwerthu nwyddau fêpio i blant dan ddeunaw oed, ac eglurodd y gweithdrefnau a gâi eu sefydlu i’r ysgolion gysylltu â Safonau Masnach i godi pryderon neu rannu gwybodaeth.  Roedd hyn yn fater o bwys ac awgrymodd y gellid rhoi sylw iddo yn y gwanwyn fel rhan o’r cynllun Ysgolion Iach.  Rhoes sicrwydd i’r Aelodau y cedwid llygad barcud ar hyn.

 

Holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst a ganiateid fêpio ar dir ysgol, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) na chaniateid hynny.   Eid i’r afael â hyn ym mholisïau’r ysgolion ac roedd dan reolaeth ar hyn o bryd, ond mater ydoedd o ddeall y ddeddfwriaeth yngl?n â’r hyn oedd yn dderbyniol ar dir ysgol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham ddilyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)          Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

(c)     Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd heb eu cwblhau.

 

 

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 16/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 14/07/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: