Manylion y penderfyniad

Period Dignity Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with an update on the Council’s support for Period Dignity.

Penderfyniadau:

                Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu’r adroddiad, a oedd yn egluro sut y defnyddid cyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau y gallai’r holl ddisgyblion gael gafael ar y nwyddau angenrheidiol.   Rhoes fraslun o Gynllun Gweithredu Strategol Pum Mlynedd Llywodraeth Cymru a gyhoeddid cyn hir. 

 

Rhoddwyd braslun o’r grantiau a ddarperid i awdurdodau lleol ac ysgolion a gwybodaeth am sut y dosberthid y nwyddau.  Roedd y cyllid wedi cynyddu ac roedd gofyn bellach bod 50% o’r nwyddau’n rhai ecogyfeillgar, a darparwyd gwybodaeth hefyd am y contract a’r nwyddau a gyflenwyd.

 

            Rhoes yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu wybodaeth am y contract “Hey Girls” a gomisiynwyd i ddarparu nwyddau’r oedd disgyblion yn eu dethol ac a gâi eu hanfon i’w cartrefi.  Gosodwyd mwy na 2,000 o archebion ac roedd yr adroddiad yn cynnwys braslun o’r nwyddau dan sylw a’r grwpiau blwyddyn a dderbyniai gefnogaeth.  Eglurodd fod nwyddau ecogyfeillgar ar gael a bod Llywodraeth Cymru’n mynnu fod 90% o’r holl nwyddau’n rhai ecogyfeillgar.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o hyblygrwydd eleni fel y gellid defnyddio’r cyllid i hyfforddi athrawon mewn ysgolion yngl?n â’r glasoed ac oedrannau addas.  Byddai’r Cod ar gyfer perthnasoedd a rhywedd yn dod i rym ym mis Medi mewn ysgolion a threfnwyd nifer o weithdai i sicrhau fod yr athrawon yn barod.  Rhoddwyd braslun o’r cyllid ar gyfer eleni gan gynnwys y cynlluniau i ymestyn y gwaith gyda “Hey Girls”.  Roedd gwell darpariaeth hefyd ar gyfer clybiau ieuenctid, banciau bwyd, ffoaduriaid a chanolfannau cymunedol, ac roedd modd i blant a phobl ifanc 8 - 18 oed archebu ar-lein.

 

            Rhoes y Cynghorydd Paul Cunningham ganmoliaeth i’r adroddiad a dywedodd y dylid rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i hyn er mwyn cefnogi disgyblion hynny na fedrent fforddio prynu’r nwyddau. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Teresa Carberry ei fod yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a bod mwy o drafodaeth agored am y mislif mewn ysgolion wrth addysgu pynciau mewn grwpiau cymysg eu rhyw.  Roedd hi’n falch bod staff yn cael hyfforddiant i ddarparu hyn a dywedodd ei bod yn fendigedig bod y nwyddau ar gael yn yr ysgolion.

 

            Rhoes y Cynghorydd Carolyn Preece ganmoliaeth i’r adroddiad ac roedd hi’n croesawu defnyddio nwyddau ecogyfeillgar.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Teresa Carberry y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cydbwyllgor yn fodlon y gwariwyd y grant yn briodol a’i fod wedi helpu i fodloni anghenion y rhai hynny yr anelwyd cynllun Llywodraeth Cymru atynt.

 

Awdur yr adroddiad: Claire Sinnott

Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 30/06/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/06/2022 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: