Manylion y penderfyniad

Looked After Children in Flintshire

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the provision for Looked After Children.

Penderfyniadau:

            Rhoes yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) fraslun o’r uchafbwyntiau yn y cyfnodau allweddol a’r cysylltiadau â gofal cymdeithasol.   Nodwyd y ganran o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn y garfan dan sylw, ynghyd â nifer y disgyblion â Chynlluniau Datblygu Unigol yr oedd yr awdurdod yn gyfrifol amdanynt, a oedd wedi newid yn ddiweddar.    Roedd y Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) â chyfrifoldeb am blant sy’n derbyn gofal wedi creu map ac amserlen ar gyfer y plant hynny er mwyn sicrhau fod yr awdurdod yn asesu eu hanghenion yn unol â’r ddeddfwriaeth newydd.   Soniodd am swyddogaethau’r Cydlynydd Dysgwyr Agored i Niwed a’r Rheolwr Gwasanaeth a oedd yn gweithio â phlant sy’n derbyn gofal, ysgolion a gofalwyr maeth er mwyn sicrhau fod y plant yn cael eu haddysg.  Roedd y rhan helaeth o blant sy’n derbyn gofal yn cael eu haddysg mewn ysgolion prif ffrwd yn Sir y Fflint a dim ond mwyafrif bychan ag angen darpariaeth fwy arbenigol.   

 

Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am goladu data canlyniadau’r plant hynny oedd wedi gadael yr ysgol y llynedd, ond cofnodwyd data pen y daith, a rhoes wybodaeth yngl?n â hynny.   Manylodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) ynghylch y Gr?p Llywio a’r cyllid oedd ar gael i gefnogi’r plant dan sylw, yn ogystal â’r dull ysgol rithiol yr oedd Llywodraeth Cymru wrthi’n ei ystyried. 

 

Soniodd y Cadeirydd am effaith darparu cyllid yn uniongyrchol i blant sy’n derbyn gofal wrth iddynt adael gofal, fel yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi, a holodd a oedd y swyddogion o’r farn y byddai hyn yn newid er gwell, ynteu a gredant y byddai’n cael effaith andwyol ar bobl ifanc.  Awgrymodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) bod y Cydbwyllgor yn derbyn adroddiad ymhen 12 mis yngl?n â’r heriau a’r agweddau cadarnhaol ar y cynllun peilot, a’r modd y cefnogid pobl ifanc.   

           

Holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â’r ganran o blant sy’n derbyn gofal ag anghenion addysgol arbennig, a dywedodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) ei bod yn anodd barnu a oedd hi’n ofynnol i blant dderbyn gofal oherwydd eu hanghenion arbennig ynteu a oeddent yn datblygu anghenion arbennig oherwydd eu bod yn derbyn gofal, ac yn ôl pob tebyg ei bod yn gymysgedd o’r ddau.  Cytunodd y byddai’n siarad â chydweithwyr yn y Gwasanaeth Seicoleg Addysg a allai wybod am waith ymchwil perthnasol.  Rhoes sicrwydd fod yno lawer o wasanaethau addysg a gofal cymdeithasol yn cynorthwyo plant a bod y gefnogaeth yn amrywio o un plentyn i’r llall.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd David Mackie ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Bill Crease y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod yr Aelodau’n ymroi i fod yn Rhieni Corfforaethol i Blant sy'n Derbyn Gofal, gan hybu ymwybyddiaeth a herio’r ddarpariaeth yn sefydliadau addysgol Sir y Fflint; a

 

(b)      Bod yr Aelodau’n mynd ati i annog yr holl staff addysgol i hyrwyddo lles addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal yn sefydliadau Sir y Fflint ar ‘lefel ysgol gyfan’.

 

Awdur yr adroddiad: Jeanette Rock

Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 30/06/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/06/2022 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: