Manylion y penderfyniad

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y Cyd) mewn perthynas â gwybodaeth ar dystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yr ymgeisydd yn ymwneud â rhybudd rai blynyddoedd yn ôl.  Roedd yr ymgeisydd i ddechrau wedi methu â datgelu’r wybodaeth ar ei ffurflen gais, gofynnwyd iddo ddarparu datganiadau ysgrifenedig ar y mater a oedd wedi eu cynnwys ym mhecyn y rhaglen.  Roedd yr adroddiad yn amlygu adrannau perthnasol o ganllawiau mabwysiedig y Cyngor ar drin collfarnau, rhybuddion a sancsiynau eraill a gofnodwyd i alluogi’r panel i benderfynu a oedd y gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

Pan ofynnwyd iddo, cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn copi o’r rhaglen.  Yna cafodd ei wahodd gan y Cadeirydd i siarad ar gynnwys yr adroddiad.

 

Ymddiheurodd yr ymgeisydd am groesi adran 5 allan o’r cais (rhestru unrhyw gollfarnau neu rybuddion) a’i fod wedi gwneud hynny heb sylweddoli fod y rhybudd yn parhau ar ei dystysgrif GDG ar ôl cymaint o amser.  I gefnogi ei gais nododd ei fod yn unigolyn da sy’n gweithio’n galed a oedd yn dymuno cefnogi ei deulu.  Ar ôl ceisio cyngor cyfreithiol yn gyntaf dros y ffôn gyda chyfreithiwr lleol roedd wedi bod yn fodlon gwneud ei sylwadau ei hun yn y gwrandawiad er mwyn egluro’r sefyllfa yn llawn.

 

Yna gwahoddwyd Cyfreithiwr y Cyngor i siarad â’r ymgeisydd.  Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod, gyda chymorth, wedi cwblhau’r ffurflen ei hun.  Gwahoddwyd ef i ddarllen ei ddatganiad ysgrifenedig lle roedd yn dweud ei fod yn y broses o ymgeisio i ddiddymu’r rhybudd o’i dystysgrif GDG o ganlyniad i’r cyfnod o amser oedd wedi mynd heibio.  Hefyd rhoddodd gefndir i’r digwyddiadau a arweiniodd at y rhybudd ac ar y ddau drosedd oryrru yr oedd wedi cyfeirio atynt yn ei ddatganiad ysgrifenedig.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y panel, rhannodd yr ymgeisydd fanylion yn ymwneud â’i gyflogaeth bresennol a blaenorol gan gynnwys rolau amrywiol a chyfrifoldebau lle’r oedd parch mawr iddo.  Sicrhaodd y panel nad oedd y ffaith iddo fethu â chwblhau’r ffurflen yn llawn yn weithred o dwyll a bod ei ymddygiad wedi bod yn dda ers hynny.  Dywedodd fod cwmni tacsi a oedd yn ymwybodol o’i sefyllfa wedi dangos eu parodrwydd i’w gyflogi, yn ddibynnol ar roi’r drwydded, ac roedd yn teimlo fod hynny yn dangos ffydd ynddo fel gweithiwr.  Pan nodwyd nad oedd y cwmni wedi arwyddo’r ffurflen gais i ddatgan hyn, eglurodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu yr ymdrinnir â hyn pe byddai’r drwydded yn cael ei rhoi.  Yn ystod y cyfarfod, rhannwyd dogfennaeth ysgrifenedig gan y cwmni tacsi i gadarnhau’r cynnig o gyflogaeth i’r ymgeisydd.

 

Pan ofynnwyd a oedd yn dymuno gwneud unrhyw sylwadau pellach, ymddiheurodd yr ymgeisydd eto am hepgor adran 5 o’r ffurflen gais.  Cyfeiriodd eto at ei amgylchiadau personol a sicrhaodd y panel nad oedd yn unrhyw berygl i unrhyw un a’i fod yn awyddus i brofi hyn.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a Rheolwr y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod i alluogi’r Is-bwyllgor i ddod i benderfyniad. 

 

4.1       Penderfyniad ar y Cais

 

Wrth ddod i benderfyniad ar y cais, ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig a llafar yr ymgeisydd ynghyd â Chanllawiau’r Cyngor ar Drin Collfarnau, Rhybuddion, Cyhuddiadau Troseddol neu sancsiynau eraill a gofnodwyd.

 

Tra rhoddodd yr Is-bwyllgor sylw dyledus i ddifrifoldeb y rhybudd, hefyd ystyriwyd y ffaith na aed â’r mater ymhellach, yr eglurhad manwl a roddwyd gan yr ymgeisydd a’r amser a oedd wedi mynd heibio.  Ar sail hynny, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon - at ei gilydd - fod y gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd Rheolwr y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

4.2       Penderfyniad

 

Darllenodd y Cyfreithiwr benderfyniad yr Is-bwyllgor (isod) a chyn cau’r cyfarfod, cadarnhaodd y Cadeirydd hawl yr ymgeisydd i apelio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth berthnasol yn ofalus, mae’r Is-bwyllgor wedi penderfynu y dylai’r ymgeisydd gael trwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) am gyfnod o dair blynedd, ar yr amod fod gwiriad uwch pellach gyda’r GDG yn cael ei gynnal ar ôl 12 mis ar gost yr ymgeisydd.

 

Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried difrifoldeb y drosedd, ond hefyd yr eglurhad a roddwyd gan yr ymgeisydd, ei ddiddymu er mwyn bod yn ofalus a’r cyfnod sylweddol o amser a oedd wedi mynd heibio ers y digwyddiadau a thystiolaeth yr ymgeisydd o’i enw da yn dilyn hynny.

 

At ei gilydd mae’r Is-bwyllgor yn fodlon fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2022

Dyddiad y penderfyniad: 24/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/02/2022 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •