Manylion y penderfyniad
Corporate Recovery Risk Profile
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Adfer
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad am y Gofrestr Risg Adferiad Corfforaethol a Mesurau Lliniaru a oedd yn dangos bod risgiau’n parhau i gael eu rheoli’n dda trwy gydol y sefyllfa frys.
Roedd yr wyth risg a oedd yn cynyddu o ran tueddiadau risg yn ymwneud yn bennaf ag absenoldebau staff a galw ychwanegol ar wasanaethau, a oedd yn adlewyrchu cam presennol y pandemig. Yn dilyn sylwadau’r Cadeirydd ar argaeledd gweithwyr allweddol a throsiant y gweithlu, cydnabu'r Prif Weithredwr effaith y pandemig ar ddewisiadau bywyd unigolion, nad oedd yn unigryw i Sir y Fflint. Cyfeiriodd at y fframwaith mwy a oedd wedi’i roi ar waith i gefnogi gweithwyr.
Cynigiodd y Cadeirydd argymhelliad ychwanegol, sef bod gohebiaeth yn cael ei hanfon at bob gweithiwr i fynegi gwerthfawrogiad am eu gwaith ar draws y sefydliad a’r effaith gadarnhaol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r gofrestr risg ddiweddaraf a chamau lliniaru risg o fewn y portffolios corfforaethol; a
(b) Bod gohebiaeth yn cael ei hanfon at bob gweithiwr i ddiolch iddynt am eu gwaith caled yn ystod y pandemig ac i amlinellu pa mor werthfawr yw eu swyddi i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnal.
Awdur yr adroddiad: Jay Davies
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2022
Dyddiad y penderfyniad: 06/01/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/01/2022 - Pwyllgor Adfer
Dogfennau Atodol: