Manylion y penderfyniad

Forward Work Programme and Action Tracking

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Forward Work Programme of the Education Youth & Culture Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu'r adroddiad a chadarnhau’r newidiadau a wnaethpwyd i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Gan fod nifer o eitemau wedi’u rhestru ar gyfer cyfarfod mis Chwefror, roedd y diweddariad Moderneiddio Ysgolion wedi’i symud i gyfarfod mis Mehefin. Ychwanegodd yr Hwylusydd efallai bydd angen gwneud newidiadau ychwanegol i’r Rhaglen gwaith i’r Dyfodol oherwydd yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai. Bydd yn cysylltu â Chadeirydd a Phrif Swyddog yngl?n â hyn a bydd yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

 

Gan gyfeirio at Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd bod y Gweithdy ar ‘#Be Kind Pledge a Chyfryngau Cymdeithasol’ yn cael ei drefnu ac ar ôl cadarnhau, bydd y dyddiad yn cael ei ddosbarthu i bob Aelod. Cadarnhaodd yr Hwylusydd bod y mwyafrif o gamau gweithredu a amlinellwyd wedi’u cwblhau, gyda llythyrau yn cael eu hanfon at Mr Jeremy Miles AC, Gweinidog Addysg, ar Addysg Ddewisol Yn Y Cartref a’r Rhaglenni Gwella Ysgol, a bydd copi o’r rhain yn cael eu dosbarthu i’r Aelodau er gwybodaeth. 

 

Mewn perthynas ag un cam gweithredu sydd heb ei gwblhau, cadarnhaodd yr Hwylusydd bod yr Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion wedi darparu’r wybodaeth a geisiwyd i’r Cynghorydd Dave Mackie, felly mae’r cam gweithredu hwn wedi’i gwblhau yn awr.

 

Roedd yr argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd David Mackie a’r Cynghorydd Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)   Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

 (b)   Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)   Bod y cynnydd a wnaed gyda’r camau gweithredu heb eu cwblhau yn cael ei nodi.

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 11/02/2022

Dyddiad y penderfyniad: 02/12/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: