Manylion y penderfyniad

Work of the Coroner’s Office

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive a presentation from John Gittins on the work of the Coroner’s Office.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad am waith Crwner Gogledd Cymru (Dwyrain a’r Canol) a'r gwaith a wnaed ar ran Cynghorau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint.

 

Roedd Mr. John Gittins, Uwch GrwnerUwch Grwner dros Ogledd Cymru - Dwyrain a’r Canol, yn bresennol i roi cyflwyniad oedd yn cynnwys:

 

·         Gorchymyn Gogledd Cymru (Dwyrain a’r Canol) (Rhanbarth Crwner)

·         Swyddog Barnwrol Annibynnol

·         Ystadegau

·         Cefnogaeth

·         Y Gyfraith

·         Y ‘Groesffordd’

·         Ymchwiliad

·         Y Cwest

·         Pwerau’r Crwner – Atodlen 5 / Goblygiadau

·         Atal marwolaethau yn y dyfodol

·         Pethau cadarnhaol...ac amseru damweiniol

·         Swyddi a chyfrifoldebau eraill

·          “Lle mae’n gorffen?”

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at yr ystod eang o bwerau deddfwriaethol a chyfrifoldebau sydd gan y Crwner a oedd yn swydd hanesyddol sy’n cael ei hariannu gan awdurdod lleol ar sail statudol.  Rhannwyd gwybodaeth hefyd am bwerau’r Crwner i gyhoeddi adroddiadau o dan Rheoliad 28 Rheoliadau (Ymchwiliadau) Crwneriaid 2013 oedd yn gofyn i sefydliadau, yn cynnwys awdurdodau lleol i weithredu er mwyn lleihau’r risg o farwolaethau yn y dyfodol. Cyfeiriwyd hefyd at waith y Prif Weithredwr yn cefnogi swyddfa’r Crwner yn ystod sefyllfa o argyfwng.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i Mr. Gittins am ei gyflwyniad ac am y modd y mae’n ymgymryd â’i swydd.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan Aelodau, fe eglurodd Mr. Gittins sgôp ei gyfrifoldebau cyfreithiol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’r argymhelliad bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau blynyddol gan y Crwner yn y dyfodol yn gyfle i ystyried perfformiad a’r pwysau sydd yn y gwasanaeth.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i Mr.Gittins am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth a gafodd ei groesawu.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn diolch i’r Crwner am ei waith ac yn cael rhagor o adroddiadau yn flynyddol.

Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew

Dyddiad cyhoeddi: 23/11/2021

Dyddiad y penderfyniad: 14/10/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: