Manylion y penderfyniad
Investment and Funding Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Nododd Mrs Fielder y pwyntiau allweddol canlynol ar yr eitem hon ar y rhaglen:
- Mae tudalennau 187 a 188 yn amlygu cerrig milltir allweddol y Gronfa a’r lefelau ariannu hanesyddol ers 1989.
- Gwnaeth y Gronfa dri buddsoddiad newydd yn y portffolio Marchnadoedd Preifat, yn unol â gofynion y Gronfa ar gyfer marchnadoedd preifat cynaliadwy.
- O fewn buddsoddiadau effaith a lleol, y ddwy gronfa a gytunwyd arnynt oedd Foresight Regional Fund III a Bridges Property Fund V. Mae’r Gronfa wedi buddsoddi yn Bridges Property Fund IV yn y gorffennol.
- Ar gyfer y portffolio Ecwiti Preifat, cymeradwyodd y Gronfa FSN Fund VI a gafodd ei hargymell gan Mercer.Mae gan y buddsoddiad hwn fanylion ESG rhagorol a nodau cynaliadwy, sy'n beth da ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.
- Mae’r dadansoddiad llif arian ar dudalen 184 yn amlinellu fod y cyfraniadau/buddion net wedi aros yn gymharol sefydlog yn ystod 2020/21.Fodd bynnag, mae incwm o farchnadoedd preifat wedi rhagori ar y gostyngiadau, sydd wedi helpu’r Gronfa i symud i sefyllfa lif arian iachach.Felly, gall fod gan y Gronfa fwy o arian i’w ddyrannu i fuddsoddiadau cynaliadwy.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn nodi’r adroddiad, yn cynnwys y diweddariad ar gyfer cyfrifoldebau dirprwyedig.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 15/09/2021
Dyddiad y penderfyniad: 09/06/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/06/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Dogfennau Atodol: