Manylion y penderfyniad
Annual Audit Summary for Flintshire County Council 2019/20
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To receive the Annual Audit Summary from the
Auditor General for Wales and note the Council’s
response.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac esboniodd fod y Crynodeb Archwilio Blynyddol yn cymryd lle'r Adroddiad Gwella Blynyddol a’r Llythyr Archwilio Blynyddol. Mae’r adroddiad yn crynhoi’r gwaith archwilio a rheoleiddio sydd wedi ei wneud yn y Cyngor gan Archwilio Cymru ers i’r adroddiad diwethaf gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2019.
Ar y cyfan, daeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i gasgliad cadarnhaol:“Ardystiodd yr Archwilydd Cyffredinol fod y Cyngor wedi diwallu ei ddyletswyddau cyfreithiol ar gyfer cynllunio gwelliannau ac adrodd ar welliannau a chredir ei bod yn debygol y bydd yn diwallu gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn ystod 2020/21”.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr na wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn.
Roedd nifer o gynigion newydd ar gyfer gwelliannau a chynigion datblygu'n codi o'r adolygiadau a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru. Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn ddiamod, gwir a theg ar ddatganiadau ariannol y Cyngor ar 14 Medi 2020, yn unol â’r terfyn amser statudol.
Cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Pwyllgor Archwilio ac ni wnaed unrhyw sylwadau penodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell pam nad oedd sylw yn yr adroddiad am leoliadau y Tu Allan i’r Sir gan nad yw hon yn sefyllfa ariannol gynaliadwy. Soniwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol y gellid helpu i godi’r materion a wynebir gyda Llywodraeth Cymru. Esboniodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar strategaeth ariannol dechnegol. Mae Archwilio Cymru yn ymwybodol o’r pwysau sy’n gysylltiedig â lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a byddai’n gwneud ymholiadau ynghylch beth sydd ar eu cynllun gwaith i'r dyfodol i gael eu hystyried yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Rhoi sicrwydd i’r Cabinet ynghylch Adroddiad Cryno Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2019/20.
Awdur yr adroddiad: Jay Davies
Dyddiad cyhoeddi: 01/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 16/02/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/02/2021
Dogfennau Atodol: