Manylion y penderfyniad

Forward Work Programme and Action Tracking (Env)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Forward Work Programme of the Environment & Economy Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol a’r Camau Gweithredu i’w Holrhain, er mwyn eu hystyried, a rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ddiweddariadau cryno ar rai o’r eitemau.

 

Mewn ymateb i geisiadau gan Gynghorwyr, fe wnaeth yr Hwylusydd Craffu gadarnhau y byddai adroddiadau ar y Strategaeth Trafnidiaeth Integredig a Newid Hinsawdd yn cael eu dwyn gerbron y Pwyllgor pan geir unrhyw wybodaeth berthnasol bellach i’w chyflwyno, a chadarnhaodd y gellid ychwanegu Gorfodaeth Cynllunio. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y gellid sefydlu cyfarfod rhithwir gyda’r Tîm Rheoli a Rheolwr y Prosiect o Barc Adfer, oherwydd bod yr ymweliad safle wedi’i ohirio yn y flwyddyn newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen Thomas, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant), fod yna gynlluniau am lwybr beicio o Rydymwyn i’r Wyddgrug a oedd wedi’u cyflwyno, ac roedd Swyddogion yn edrych ar y llwybr gyda’r opsiwn i ddefnyddio tir yr hen reilffordd segur, ond yn anffodus, nid oedd llawer o’r tir hwnnw ym mherchnogaeth y Cyngor. Byddai angen ei hysbysebu fel rhan o Fap Rhwydwaith, a fyddai yna’n disgyn i’r broses ymgeisio ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd y byddai hynny ychydig o flynyddoedd i ffwrdd gan fod llawer o waith ynghlwm wrth gaffael y tir a chael cefnogaeth i’r llwybr gan Lywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Evans beth oedd yr amserlen ar gyfer llwybr beiciau yr Wyddgrug i Frychdyn. Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybod fod yna gyfres lawn o gynlluniau ar gyfer y llwybr nawr, a’i fod wedi bod yn sgwrsio gyda Llywodraeth Cymru am y cyllid posibl yr oeddent yn fodlon ei roi ar gyfer darnau o’r Wyddgrug i Fwcle a Sandycroft i Airbus, yn hytrach na’r hyd i gyd, a byddai’n rhannu’r cynlluniau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Roedd gan y Cynghorydd Hutchinson ddiddordeb mewn gwybod a oedd llwybr gwreiddiol llwybr beiciau yr Wyddgrug i Frychdyn a Chaer yn bwriadu bod ar hyd Dyffryn Alun drwy Long a Phenyffordd.Teimlai y byddai’r llwybr hwn yn gwneud beicwyr yn amharod i fynd arno am iddynt orfod beicio i fyny Warren Hill, neu a fyddai’n dilyn y rheilffordd ar hyd Dyffryn Alun, sydd fwy neu lai yn wastad i Frychdyn a thu hwnt, i Saltney a Chaer.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wybod mai dyma fyddai’r llwybr a ffefrir, ond yn anffodus nid yw’r tir bellach ym mherchnogaeth y Cyngor. Roedd trafodaethau’n digwydd gyda’r perchennog tir i ddefnyddio darnau o’r rheilffordd wrth iddi ddod allan o’r Wyddgrug drwy Wylfa, lle mae gennym broblemau yn cael lôn feiciau benodol.Cyfeiriodd at lwybr arall sy’n defnyddio’r ymylon, heibio Gwaith Sment Padeswood, hyd at Dobshill. Byddai hon yn lôn feiciau benodol ac nid yn lôn feiciau ar ffordd, felly byddai’n gallu dilyn y rheilffordd am ei hyd i gyd. Byddai manylion yn cael eu rhannu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bithell bod yna gyfres o ymgynghoriadau i fod i ddigwydd ym Mawrth, ond cawsant eu terfynu oherwydd y sefyllfa o argyfwng mewn perthynas â llwybr beiciau yr Wyddgrug i Frychdyn. Cafodd cyfran o’r hen reilffordd ar hyd llwybr beiciau Rhydymwyn i’r Wyddgrug ei gwerthu nifer o flynyddoedd yn ôl i gr?p rheilffordd ysgafn, nad oedd bellach yn cael ei redeg. Ychwanegodd y gallai cyfle godi i gael trafodaethau gyda nhw i gael y tir yn ôl ym mherchnogaeth y cyhoedd a chael y ffordd feiciau ar hyd y llwybr hwnnw.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd David Evans.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft a chymeradwyo/newid fel bo’r angen;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill.

 

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 18/12/2020

Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: