Manylion y penderfyniad

Recovery Strategy (Streetscene and Transportation Portfolio)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide oversight on the recovery planning for the Committee’s respective portfolio(s) and to rebuild the forward work programme for the remainder of the 2020/21 Council year with a specific focus on recovery planning.

Penderfyniadau:

Rhoddodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) gyflwyniad oedd yn rhoi cefndir yngl?n â risgiau a nodwyd. Gyda’r Uwch Dîm Rheoli, roedden nhw wedi nodi 47 risg gwahanol ar draws Cyllid, Gweithlu, Asedau Eiddo, Llywodraethu/Cyfreithiol, Rheoliadau Allanol, TGCh a Systemau, Cyflenwi Gwasanaeth, Polisi Priffyrdd, Fflyd, Strategaeth Gwastraff a Pharcio a Gorfodi, ac roedd 2 o’r rhain wedi eu cau ond yn cael eu hadolygu’n wythnosol. Wrth symud i fisoedd y gaeaf roedd risgiau newydd yn dod i’r amlwg a byddent yn parhau i gael eu monitro. 

 

Rhoddodd fwy o wybodaeth yngl?n â’r meysydd penodol canlynol:

Cyllid

ST09 - Marchnad ar gyfer ailwerthu deunydd eildro yn hynod anwadal. Adroddodd fod newid mawr yn y prisiau maen nhw’n eu derbyn am blastig, papur a gwydr ayyb ac yn anffodus mae’r rhan fwyaf ohonynt yn llithro gan osod pwysau sylweddol ar fusnesau ond yn creu problemau hefyd i staff sy'n ceisio dod o hyd i farchnadoedd parod ar gyfer y deunydd. 

 

 ST10a – Gwastraff cyffredinol y codi rhwng 10 - 20% yn rhanno oherwydd nifer y bobl sy’n gweithio o gartref, yn treulio mwy o amser yn y cartref a heb deithio ar wyliau gan arwain at gadw’r gwastraff yn yr ardal hon. Mae nifer y tunelli ar gynnydd sy’n achosi pwysau o ran ffi glwyd ychwanegol ond mwy o waith i staff hefyd wrth gasglu gwastraff o ochr y ffordd.

 

Gweithlu

ST12 – Gostyngiad yn nifer y gweithwyr a’r contractwyr rheng flaen i gyflawni gwasanaethau yn ddiogel oherwydd lefelau uwch o salwch.

 

ST17a – Cynnydd yn y perygl o ddioddef oherwydd iechyd a lles meddyliol, materion personol ac/neu deuluol.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i'r Gwasanaethau Stryd am ddychwelyd i sefyllfa fwy arferol yn enwedig o ran torri gwair yn ei ardal ef. Rhoddodd wybod fod y Goruchwyliwr Dros Dro wedi bod mewn cysylltiad gydag Aelodau Cei Connah er mwyn cynnig yr ardaloedd oedd angen eu glanhau’n ddifrifol, yn debyg i’r un ddigwyddodd yn Shotton.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Carolyn Thomas wybod am Ymgyrch Ailgylchu yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei lansio, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol o’r enw ymgyrch ‘Bydd Wych, Ailgylcha’.Ychwanegodd y byddai llawer o gyhoeddusrwydd yngl?n â hyn er mwyn annog pobl i ailgylchu a chodi’r cyfraddau unwaith eto, fyddai hefyd yn atal gollwng sbwriel hefyd gobeithio.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd gwestiwn yngl?n â’r ail argymhelliad. Holodd beth fyddai’n digwydd i bopeth arall fyddai wedi bod yn rhan o’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.    Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wybod fod aelod o’i dîm wedi bod yn nodi eitemau oedd yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol o’r cyn Bwyllgorau Trosolwg ac Archwilio'r Amgylchedd a Chymuned a Menter, o ran eitemau parhaus fyddai’n cael eu bwydo i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor. Byddai pwyslais ar eitemau adfer, ond byddai’r rhaglen gwaith i’r dyfodol hefyd yn cydnabod fod angen dod ag eitemau rheolaidd o flaen y Pwyllgor ac hefyd materion yn ymdrin â swyddogaethau rheolaethol.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod angen meddwl am y risgiau yr oedd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wedi tynnu sylw atynt gan eu bod yn rhan o’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol agos efallai, mewn ffordd na fyddai wedi digwydd o’r blaen. Hefyd, gan edrych ar y risgiau presennol, roedd angen edrych ar barhad busnes ar gyfer y gaeaf gan y gallai fod yn aeaf caled i ddod. Efallai y bydd yn rhaid i rai gwasanaethau gymryd cam yn ôl er mwyn cyflawni’n rhannol.

 

Rhoddodd wybod fod cyfarfodydd arbennig yn cael eu trefnu ar gyfer mis Tachwedd er mwyn ymdrin â’r gyllideb.

 

            Cynigwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Shotton a’u heilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cytuno ar y set llawn o flaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adferiad y portffolio fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghyd â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru ar gyfer y rhai presennol a’r rhai sydd wedi’u cynllunio; a

 

 (b)      Bod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn cael ei hail-lunio ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda chynllunio adferiad yn ganolbwynt iddi.

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 25/11/2020

Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: