Manylion y penderfyniad
Budget 2021/22 - Stage 1
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
That the Committee review and comment on the Education & Youth cost pressures and overall budget strategy. And advises on any areas of cost efficiency it would like to see explored further.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad am gam cyntaf y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.
Roedd adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref wedi rhoi diweddariad am y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flynedd ariannol ar ôl hynny. Roedd adolygiad llawn o’r rhagolwg wedi cael ei gynnal i ddatblygu gwaelodlin cywir a chadarn o bwysau costau y bydd angen eu hariannu. Roedd yr adolygiad wedi cymryd i ystyriaeth effeithiau parhaus y sefyllfa argyfyngus gan gynnwys cyflymder adferiad incwm yn erbyn targedau a osodwyd.
Roedd yr adroddiad hwn yn nodi’r datrysiadau cyfyngedig a oedd ar gael i ariannu’r pwysau costau tra bo’r strategaeth ariannu yn hynod ddibynnol ar gyllid cenedlaethol digonol i lywodraeth leol. Roedd manylion y pwysau costau i Addysg ac Ieuenctid yn gynwysedig yn yr adroddiad.
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-
- Y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22;
- Y Dyfodol – Beth a ddywedom yn ôl ym mis Chwefror;
- Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau Costau;
- Datrysiadau Tair Rhan a Chymryd Risg;
- Sefyllfa a Chyllid Cenedlaethol;
- Senarios Ariannu Posibl;
- Amserlen y Gyllideb;
- Cefnogi a Herio Heddiw
Cafodd manylion ychwanegol am bwysau costau penodol i Addysg ac Ieuenctid eu darparu gan y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Cyfrifeg a Chyllid Ysgolion) fel rhan o'r cyflwyniad.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn cefnogi’r pwysau costau a ddangosir ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim a chyflwyno Cynghorwr Cynradd. Soniodd am y pwysau costau a ddangosir ar gyfer Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen a gofynnodd a ddylai’r rhain fod yn gyllid cyfalaf yn hytrach na refeniw gan ei fod yn gysylltiedig ag adeilad newydd. Esboniodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Cyfrifeg a Chyllid Ysgolion) bod y pwysau costau a ddangosir ar gyfer cynnydd mewn capasiti yn ymwneud a chostau staffio ychwanegol a'r costau refeniw sy'n gysylltiedig â thaliadau Ardrethi Annomestig Cenedlaethol a oedd yn llawer uwch ar gyfer adeilad newydd a hefyd costau cynnal a chadw tiroedd ychwanegol.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad ac a amlinellir yn y cyflwyniad, sydd i gyd yn cael eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r strategaeth gyllideb yn gyffredinol;
(b) Bod y Pwyllgor yn ailddatgan sefyllfa’r Cyngor o ran polisi trethu lleol;
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi disgwyliadau’r Cyngor o Lywodraethau, fel yr amlinellir yn y cyflwyniad a ddarparwyd; a
(d) Nad yw'r Pwyllgor yn cynnig unrhyw feysydd arbed costau pellach i’w harchwilio ymhellach.
Awdur yr adroddiad: Amanda Davidson
Dyddiad cyhoeddi: 11/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 05/11/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: