Manylion y penderfyniad

Medium Term Financial Strategy: Council Fund Revenue Budget 2020/21

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To advise members of the latest budget position for 2020/21 and any specific proposals for the Portfolio

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg a Systemau Strategol) adroddiad i ddarparu’r sefyllfa cyllid diweddaraf ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion penodol ar gyfer y Portffolio.  Dywedodd bod yr adroddiad yn nodi'r rhagolwg ariannol cyfredol a’r ‘bwlch’ a rhagwelir yng ngofyniad cyllideb y Cyngor ar gyfer 2020/21. Mae’r bwlch llawn o flaen datrysiadau cyllideb wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad, a chyn Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21, yn £16.2m ar hyn o bryd. Roedd crynodeb o’r rhagolygon a’r newidiadau i sefyllfa’r rhagolygon a adroddwyd yn flaenorol wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

Parhaodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg a Systemau Strategol) bod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa genedlaethol a strategaeth y Cyngor i gyflawni cyllideb gytbwys a diogel ar gyfer 2020/21. Roedd Llywodraeth Cymru angen Setliad cyllid gwell, ac roedd Sir y Fflint yn ddibynnol ar ymgodiad sylweddol ar ei gyfraniad Grant Cynnal Refeniw blynyddol petai mewn sefyllfa i osod cyllideb gytbwys gyfreithiol a diogel. Cyflwynodd yr adroddiad yr holl arbedion effeithlonrwydd cyllideb arfaethedig a’r pwysau o ran costau i’w cynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020/21/ Amlygodd yr adroddiad yr arbedion effeithlonrwydd penodol a’r pwysau o ran costau i Wasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor eu hystyried fel rhan o’i gyfrifoldebau portffolio. Roedd hwn yn adroddiad terfynu cyllideb dros dro yn aros am waith parhaus gael ei gwblhau ar opsiynau cyllid corfforaethol a datrysiad o gyllideb Llywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Cyfrifeg a Systemau Stratgeol at y brif ystyriaethau, fel y nodir yn yr adroddiad, a tynnwyd sylw penodol at yr wybodaeth a ddarparwyd ar bwysau’r Gofal Cymdeithasol ac arbedion effeithlonrwydd Gofal Cymdeithasol. 

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet Cyllid ddiolch i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i Dîm am eu gwaith a’r diweddariad manwl cyn cyhoeddiad Cyllideb Llywodraeth Cymru 2020/21.

 

Gan gyfeirio at bwysau’r Gofal Cymdeithasol, codwyd cwestiynau gan yr Aelodau ynghylch y gost o leoliadau y tu allan i’r sir. Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey pa gyfraniadau ariannol a dderbyniwyd gan y Bwrdd Iechyd. Eglurodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu bod monitro manwl yn cael ei gynnal ar gyfraniadau ariannol a dderbynir gan y Bwrdd Iechyd.

 

Mewn ymateb i'r cwestiwn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin ynghylch y gyllideb ranedig rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Addysg ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir, cadarnhawyd ei fod yn £1.860 miliwn i Wasanaethau Cymdeithasol, a £638,000 ar gyfer Gwasanaethau Addysg.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Carol Ellis yr angen i amlygu’r pwysau ar leoliadau y tu allan i’r sir fel maes o bryder. Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Cyfrifeg a Systemau Strategol bod y sefyllfa gyllideb lleoliadau y tu allan i’r sir yn cael eu monitro bob mis gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin ac eiliwyd gan y Cynghorydd David Wisinger. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn ardystio cynigion effeithlonrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2020/21; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn ardystio pwysau costau’r Gwasanaethau Cymdeithasol a argymhellir ar gyfer ei gynnwys yng nghyllideb ar gyfer 2020/21. 

 

 

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2020

Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: