Manylion y penderfyniad
Support provided to Flintshire Care Homes during the COVID-19 Pandemic
Statws y Penderfyniad: Deleted
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To support the approach of Social Services in
their provision of support to the local care home sector.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion) adroddiad ar y camau a gymerir gan Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu cefnogaeth hanfodol i’r sector cartref gofal lleol.
Cyn yr achosion COVID-19, profwyd pwysau cenedlaethol ar gyllid a recriwtio yn y sector gofal yn Sir y Fflint. Yn ystod y pandemig, roedd y Cyngor wedi cryfhau partneriaethau ymhellach gyda darparwyr drwy lefel digynsail o gefnogaeth i’w 27 o gartrefi gofal i gefnogi rhai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn. Roedd y trefniadau cadarn a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig yn cynnwys Swyddog Monitro Contract i gysylltu gyda phob cartref gofal a’r system ‘pwynt rhannu’ i rannu gwybodaeth gyda rhanddeiliaid allweddol. Roedd cyfarfodydd telegynhadledd amlasiantaeth gyda darparwyr gofal i godi materion a rhannu canllawiau cenedlaethol newidiol wedi derbyn ymateb da a byddent yn parhau.
Ar y dulliau profi, roedd holl weithwyr a phreswylwyr cartrefi gofal wedi eu profi rhwng Mai a Mehefin boed yn symptomataidd ai peidio. Ers hynny, roedd gweithwyr yn holl leoliadau cartref gofal, gan gynnwys gofal ychwanegol wedi eu profi bob wythnos; byddent yn cael eu profi yn llai aml os byddai’r gyfradd ‘R’ yn gwella. Roedd y drefn os byddai yna brawf positif mewn cartref gofal angen i’r sefydliad cyfan gael prawf a dechrau cyfnod ynysu. Er bod 16 o gartrefi gofal yn Sir y Fflint mewn sefyllfa ‘coch’ (achosion positif) pan oedd y pandemig ar ei waethaf, roedd y nifer wedi gostwng nawr i dri. Pan oedd y pandemig ar ei waethaf roedd timau o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol wedi eu trefnu i ddarparu cefnogaeth ychwanegol mewn cartrefi gofal ac roedd trefniadau ‘ar alwad’ ar benwythnos wedi ymestyn i gynnwys uwch swyddogion.
Cytunodd yr Uwch-Reolwr i rannu sleidiau cyflwyniad ar ddarpariaeth cyfarpar diogelu personol yn dilyn y cyfarfod. Roedd cyflenwadau yn cael eu dosbarthu dwywaith yr wythnos i’r 27 sefydliad cartref gofal gan y gr?p o wirfoddolwyr a hyfforddwyd mewn safonau Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd effeithiolrwydd y dull hwn drwy Wasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru wedi’i gydnabod fel arfer orau mewn adroddiad cenedlaethol a rhannwyd gyda gwasanaethau ar draws Cymru.
Defnyddiwyd cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi taliad 10% i gartrefi gofal o ganol mis Mawrth hyd at ddiwedd Mehefin, ar gyfer costau ychwanegol sy’n codi o’r pandemig fel cryfhau dulliau glanhau, goruchwylio gweithwyr ac ati.
Roedd y Cadeirydd yn croesawu parhad cyfarfodydd o bell wythnosol a dychwelyd canlyniadau profion yn amserol. Mewn ymateb i gwestiwn ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr cartref gofal, dywedodd yr Uwch-Reolwr fod Gr?p Tasg a Gorffen yn adolygu canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddyraniad.
Roedd y Cynghorydd White yn canmol safbwynt y Cyngor ar gau cartrefi gofal yn gynnar yn y Sir oedd wedi helpu i leihau lledaeniad yr haint.
Yn ystod y drafodaeth, roedd aelodau wedi mynegi eu gwerthfawrogiad i’r timau o fewn y Cyngor a chartrefi gofal am eu hymdrechion i gadw preswylwyr yn ddiogel. Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey i’w diolch gael ei drosglwyddo i’r Uwch Reolwyr Diogelu a Chomisiynu a Phlant a Gweithlu am helpu preswylwyr yn ei ward.
Fel yr awgrymwyd gan y Cynghorydd Cunningham, cytunwyd y byddai llythyr yn cael ei anfon gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor at wirfoddolwyr oedd wedi helpu i ddosbarthu cyfarpar diogelu personol i gartrefi gofal.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Smith, eglurodd yr Uwch-Reolwr bod cyfarpar diogelu personol wedi dechrau cael ei ddosbarthu i gartrefi ar 16 Mawrth.
Canmolodd y Cynghorydd Elis y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog am gynnal eu barn ar yr angen i brofi mewn ysbytai cyn rhyddhau i gartrefi gofal.
Dywedodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi safbwynt Sir y Fflint i helpu i leihau lledaeniad haint. Talodd deyrnged i’w uwch reolwyr a thimau am gwrdd â holl ddisgwyliadau yn eu cefnogaeth i gartrefi gofal yn ystod y pandemig.
Fel Aelod o'r Cabinet, mynegodd y Cynghorydd Jones ei balchder yn y sector gofal cymdeithasol gan gynnwys rheolwyr cartref gofal a gweithwyr gofal cymdeithasol, ynghyd ag uwch dîm rheoli’r Cyngor. Dywedodd fod y gefnogaeth a ddarparwyd i gartrefi gofal yn Sir y Fflint wedi bod yn dda iawn.
Cynigiodd y Cynghorydd Dunbobbin gymeradwyo’r argymhelliad, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Hinds.
PENDERFYNWYD:
Bod camau’r Cyngor i gefnogi’r Sector Cartref Gofal yn cael ei gymeradwyo.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 09/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/07/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: