Manylion y penderfyniad
Social Services Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive the Social Services Annual Report
2019/2020.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad blynyddol statudol yn crynhoi ei farn ar berfformiad swyddogaethau gofal cymdeithasol y Cyngor a blaenoriaethau ar gyfer gwella. Byddai’r adroddiad – a gynhyrchwyd mewn arddull electronig gan Double Click Design & Print – yn helpu i hwyluso gwerthusiad perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Cymdeithasol.
Cafodd Aelodau eu cyflwyno i Emma Murphy, y Swyddog Cynllunio a Datblygu, Comisiynu a Pherfformiad, oedd yn disgrifio’r dull i werthuso deilliannau o flaenoriaethau y llynedd a nodi blaenoriaethau ar gyfer 2020/21. Wrth fanylu’r heriau a chyflawniadau, roedd yr adroddiad yn amlygu ymrwymiad a gwerthoedd y sawl oedd yn gweithio o fewn gofal cymdeithasol i wneud gwahaniaeth i bobl yn Sir y Fflint.
Roedd y Cadeirydd yn canmol swyddogion a Double Click am yr adroddiad.
Rhoddodd y Prif Swyddog drosolwg o brif gyflawniadau gan gynnwys agor canolfan gofal dydd Hwb Cyfle oedd ar y rhestr fer mewn tri chategori Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) 2020. Roedd hefyd yn amlygu llwyddiant parhaus gyda’r rhaglen Cynnydd i Ddarparwyr ac estyniad parhaus cartref gofal T? Marleyfield. Lansio’r tîm Therapi Amlsystematig – menter newydd mewn partneriaeth gyda Wrecsam a’r model cyntaf o’r math yma yng Nghymru – byddai’n helpu i wella bywydau pobl ifanc.
Fel Aelod o'r Cabinet, cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at yr heriau sy’n codi o’r pandemig COVID-19 ac roedd yn canmol cyflawniadau ac ymroddiad timau o fewn y gwasanaeth i gefnogi oedolion a phobl ifanc. Aeth ymlaen i ddiolch i Double Click oedd yn paratoi i ailagor eu busnes.
Fel Aelod o'r Bwrdd Double Click, roedd y Cynghorydd Cunningham yn datgan ei falchder yn y busnes ac yn diolch i’r Cyngor am ei gefnogaeth.
Wrth groesawu canfyddiadau’r adroddiad, roedd y Cynghorydd Mackie yn codi materion ar fformatio a chyflwyniad y ddogfen yr oedd swyddogion yn dweud oedd yn derbyn sylw. Roedd swyddogion yn nodi cais y Cynghorydd Mackie y dylai adroddiadau fod yn hygyrch ar bob math o ddyfeisiau electronig cludadwy, gan gynnwys ffonau symudol a byddai dangos data y tu ôl i ganrannau a chymhariaeth gyda pherfformiad blaenorol neu genedlaethol yn helpu i ddarparu cyd-destun.
Dywedodd y Cynghorydd Ellis bod diffyg gwybodaeth ar gefnogaeth i unigolion gydag awtistiaeth yn yr adroddiad ac roedd yn mynegi pryderon am achos penodol yn ymwneud â thynnu gwasanaethau arbenigol y tu allan i’r sir.
Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch-Reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion) y byddai’r ddogfen yn cael ei hadolygu i ddarparu mwy o eglurder ar wasanaethau awtistiaeth. Rhoddodd sicrwydd bod y mater yngl?n â’r cyfleuster arbenigol yn derbyn sylw a bod swyddogion yn ymgysylltu gyda theuluoedd yr effeithiwyd arnynt.
Mynegodd y Cynghorydd Hinds ei gwerthfawrogiad i’r tîm am eu gwaith yn ystod y cyfnod heriol diweddar. Byddai’r Prif Swyddog yn cyfleu hyn i’r timau.
Cynigiodd y Cynghorydd White gymeradwyo’r argymhelliad, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Adroddiad Blynyddol.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 09/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/07/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: