Manylion y penderfyniad
NEWydd Catering and Cleaning Limited: Covid-19 Recovery and Future Proofing the Business
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To advise of the current situational position of NEWydd Catering and Cleaning Limited in light of the impact of Covid-19 and to seek approval for the changes required to the business to secure the long term future of the company.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad ac eglurodd, ers trosglwyddo i Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol yn 2017, bod Arlwyo a Glanhau Cyfyngedig NEWydd wedi ymdrechu i greu model o weithrediadau mwy modern a chystadleuol a oedd yn nodwedd allweddol o'i Gynllun Busnes cyn Covid-19 ar gyfer 2020/21.
Rhoddodd Rheolwr Gyfarwyddwr NEWydd gyflwyniad cynhwysfawr a oedd yn nodi’r cynigion yn llawn ar gyfer newid sefydliadol a datblygiad model gweithredu newydd i ddiogelu hirhoedledd Arlwyo a Glanhau Cyfyngedig NEWydd.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau yngl?n â chyfleoedd gan Aelodau ac ymatebwyd iddynt, gyda'r pwyslais ar y busnes yn datblygu. Gofynnwyd cwestiynau hefyd yngl?n â’r gweithlu a’r gwaith a wnaed gyda'r Undebau Llafur.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol, gwnaeth y Cynghorydd Mackie y sylw canlynol:
“Teimlaf y dylai’r adroddiad fod wedi dechrau gyda manylion o baragraff 2.08 sy’n egluro fod y busnes wedi cronni arian wrth gefn yn llwyddiannus yn eu 3 mlynedd gyntaf.Rwyf hefyd wedi clywed eu bod wedi ymdrin â heriau sylweddol yn ystod yr argyfwng a gyda’i gilydd byddai'r pwyntiau hyn wedi dangos eu bod yn fusnes llwyddiannus a hyblyg sydd angen newid yn yr hinsawdd gyfredol”.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi sefyllfa bresennol Arlwyo a Glanhau Cyfyngedig NEWydd yng ngoleuni effaith yr argyfwng Covid-19 a’r gyrwyr ar gyfer newid sefydliadol o fewn y cwmni;
(b) Cymeradwyo cychwyn cyfnod o ymgynghori gyda’r Undebau Llafur, staff a chleientiaid ar y model gweithredu newydd arfaethedig a fydd yn diogelu dyfodol hirdymor y cwmni; a
(c) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol ac Asedau a’i ddefnyddio gyda chyngor y Rheolwr Gyfarwyddwr, i awdurdodi a gweithredu'r model gweithredu newydd.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 10/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 28/07/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/07/2020 - Cabinet