Manylion y penderfyniad
Review of Post 16 School / College Transport Charging Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadau Aelodau Cabinet Unigol, Arweinydd y Cyngor
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review the Discretionary Transport Policy
in light of legislative changes related to Public Service Vehicle
Accessibility.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad ac esboniodd fod y Cabinet, ym mis Mehefin 2019, wedi gwneud penderfyniad i ddiwygio’r Polisi Cludiant Dewisol a dechrau codi tâl am gludiant ôl-16 o fis Medi 2020. Penderfynwyd codi tâl er mwyn gwrthbwyso rhywfaint o’r pwysau costau yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Cyhoeddwyd Rheoliadau ar gyfer Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR) ym mis Awst 2019 a daeth y goblygiadau ar ddarpariaeth cludiant i'r ysgol i’r amlwg. Ni fyddai’r rheoliadau hynny yn caniatáu codi tâl am leoedd ar goetsys a bysus nad oeddent yn cydymffurfio’n llawn o ran hygyrchedd. Roedd disgwyl i’r rheoliadau ddod i rym ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.
Gan nad oedd y fflyd a ddefnyddiwyd yn lleol i gludo dysgwyr yn bodloni’r gofynion hynny’n llawn, ac oni bai bod ‘eithriad cyffredinol’ yn cael ei gyflwyno gan yr Adran Gludiant mewn perthynas â chludiant i’r ysgol, byddai’r Cyngor yn torri’r rheoliadau hynny wrth iddynt ddod i rym pe bai’n gweithredu polisi o godi tâl ar gyfer cludiant ôl-16 dewisol.
Mae’r Cyngor wedi gorfod ail ystyried y penderfyniad cynharach yn seiliedig ar (1) ddiffyg cynaliadwyedd y polisi o godi tâl ar ddechrau Rheoliadau’r Llywodraeth; (2) y risgiau o geisio cyflwyno polisi tymor byr mewn sefyllfa argyfwng heb sicrwydd o ran pryd fydd ysgolion yn ailagor; a (3) dewisiadau ar gyfer model ariannu cludiant gwahanol gyda Choleg Cambria.
Roedd y Cyngor yn cludo 1950 o fyfyrwyr ôl-16 – 1500 i Goleg Cambria a 450 i Ysgolion Uwchradd (Chweched Dosbarth). Y gost flynyddol o ddarparu’r cludiant dewisol hwn oedd £860k. O dan gytundeb lefel gwasanaeth hir sefydlog gyda Choleg Cambria, roedd y Coleg yn cyfrannu 25% tuag at y costau cludiant hynny ac felly yn lleihau’r costau gwirioneddol i’r Cyngor i £645k y flwyddyn.Roedd cyfraniad Coleg Cambria o £215k (25%) yn gyfatebol isel o ystyried bod 77% o fyfyrwyr yn cael eu cludo i’r coleg.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Phrif Weithredwr newydd Coleg Cambria i ystyried y goblygiadau o ran y rheoliadau cludiant newydd. Roedd Corff Llywodraethu Coleg Cambria yn ystyried dewisiadau megis ad-dalu myfyrwyr yn unigol o fis Medi 2020 i wrthbwyso’r tâl am gludiant.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod angen i’r Cyngor ystyried a oedd yn briodol i gyflwyno tâl, gyda’r holl swyddogaethau gweinyddol a oedd yn ofynnol i reoli’r broses, a dod â’r tâl hwn i ben flwyddyn yn ddiweddarach. Cymhlethwyd yr ystyriaeth hon gan y cyfnod argyfwng presennol ac ansicrwydd o ran pryd a sut i ailagor ysgolion e.e. dull graddol posibl.
Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y ceisiwyd estyniad gan yr Adran Gludiant i oedi gweithrediad y rheoliadau newydd ond nad oedd wedi cael ymateb hyd yma.Byddai gwaith yn cael ei gynnal gyda gweithredwyr ond y byddai’n sawl blwyddyn nes eu bod i gyd yn cydymffurfio â’r rheoliadau.
Cefnogodd y Cynghorydd Roberts y sail resymegol y tu ôl i’r argymhellion yn yr adroddiad a phwysleisiodd mai nid tro pedol oedd hyn, sef sut yr adroddwyd hyn y wasg, ond newid o ran amgylchiadau ac ymateb y Cyngor i’r newidiadau hynny.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dave Healey, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, y sylwadau canlynol:
Rwyf wedi darllen y dogfennau yn gysylltiedig â’r Adolygiad o’r Polisi i Godi Tâl am Gludiant i’r Ysgol / Coleg Ôl-16. Roedd sawl Cynghorydd, yn cynnwys fi, yn anghyfforddus â’r penderfyniad polisi ond roeddem yn teimlo fel nad oedd gennym lawer o ddewis ar y pryd.
Nawr, yn sgil y ddeddfwriaeth PSVAR newydd, does dim dewis ond i wrthdroi’r penderfyniad a wnaed.Cysur yw gweld bod ein perthynas waith dda gyda Choleg Cambria yn sicrhau y gellir lliniaru effaith ariannol y dewis hwn i wrthdroi’r penderfyniad.
Rwy’n cefnogi’r cynnig sy’n cael ei drafod’.
Fe wnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylwadau hefyd, fel y manylir isod:
‘Mae penderfyniad y Cabinet ar 18 Mehefin 2019 yn nodi y dylid gosod y tâl ar uchafswm o £150 y tymor ond ni ddylid codi tâl ar y myfyrwyr hynny sydd â hawl i brydau ysgol am ddim.
Mae paragraff 1.13 o’r adroddiad hwnnw i’r Cabinet yn dangos yn Nhabl 1 y byddai’r incwm i’r Cyngor gan fyfyrwyr Coleg Cambria, wrth godi tâl o £150 y tymor a chaniatáu am 15% i Brydau Ysgol am Ddim, yn £574k. Mae’r adroddiad presennol yn nodi bod Coleg Cambria wedi cytuno i dalu’r swm, yr oedd wedi bwriadu ei ddefnyddio i ad-dalu myfyrwyr, i’r Cyngor, felly fe ddylai’r Cyngor barhau i dderbyn y swm hwnnw. Rwy’n tybio na fydd y £215k y mae Coleg Cambria fel arfer yn ei dalu i’r Cyngor yn cael ei dalu’n ychwanegol i hyn.
Mae tabl 2 o baragraff 1.13 yn dangos, ar lefel o £150 y tymor a gan ganiatáu ar gyfer 15% i Brydau Ysgol am Ddim, y byddai’r incwm i’r Cyngor gan fyfyrwyr Chweched Dosbarth yn £172k.
Rwyf felly o’r farn, gan gofio’r cynnig gan Goleg Cambria, y bydd goblygiadau ariannol o ran y penderfyniad i roi’r gorau i godi tâl am gludiant ôl-16 yn golygu gostyngiad o £172k i incwm y Cyngor.’
Dywedodd hefyd:
AR WAHÂN AC A WNELO DIM Â’R YSTYRIAETH YMA:
Pe bai’r adroddiad hwn
yn cael ei gyflwyno ger bron y Pwyllgor Craffu, byddwn i hefyd yn
gofyn cwestiwn yn seiliedig ar baragraff 1.07 yr adroddiad
presennol sy’n datgan, “Fodd bynnag, ni fyddai’n
rhesymol nac ychwaith yn gyson i’r Cyngor godi tâl ar
rai myfyrwyr ac nid eraill h.y. codi tâl ar fyfyrwyr
sy’n mynychu chweched dosbarth yr ysgol uwchradd ac nid ar
fyfyrwyr sy’n mynychu Coleg Cambria.”Byddwn i’n holi, nawr ein bod yn
gwybod bod Coleg Cambria yn bwriadu ad-dalu costau teithio
i’r myfyrwyr, onid yw ysgolion uwchradd yn gallu gwneud yr un
fath, neu bydd sefyllfa lle fydd rhaid i rai myfyrwyr orfod talu
ond nid eraill.
Roedd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wedi ymateb yn uniongyrchol i gwestiwn y Cynghorydd Mackie.
Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod codi tâl am gludiant ôl-16 i’r ysgol yn un o’r risgiau agored a nodwyd wrth osod y gyllideb ar gyfer 2020/21. Darparodd y gyllideb ar gyfer incwm ychwanegol disgwyliedig o £0.449m yn seiliedig ar y dybiaeth y byddai ffi yn cael ei chyflwyno o fis Medi 2020. Yr effaith oedd £0.770 mewn blwyddyn ariannol lawn o 2021/22 ymlaen. Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai’r datrysiad ariannol, drwy weithio mewn partneriaeth yn effeithiol â Choleg Cambria, yn cynorthwyo â lliniaru’r risg ariannol ar gyfer 2020/21.
Cefnogodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi goblygiadau’r Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR) ar Bolisi Cludiant Ôl-16 Dewisol y Cyngor;
(b) Gwrthdroi’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ym mis Mehefin 2019 i ddechrau codi tâl am Gludiant Ôl-16 o fis Medi 2020; a
(c) Nodi effaith ariannol y newid a argymhellwyd i’r polisi ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Awdur yr adroddiad: Claire Homard
Dyddiad cyhoeddi: 11/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 12/05/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/05/2020 - Penderfyniadau Aelodau Cabinet Unigol
Dogfennau Atodol: