Manylion y penderfyniad

Quarter 3 Council Plan 2019/20 Monitoring Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities, performance levels and current risk levels as identified in the Council Plan 2019/20.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr grynodeb o gynnydd ar berfformiad yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer Chwarter 3 2019/20 (Hydref-Rhagfyr 2019). At ei gilydd, roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol gyda 89% o weithgareddau wedi’u hasesu fel gwneud cynnydd da ac 89% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunir. Roedd 81% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu fynd y tu hwnt i’w targed. Roedd y risgiau mawr (coch) yn ymwneud â her ariannol yn bennaf ac nid rheolaeth ariannol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod fformat diwygiedig Cynllun y Cyngor angen ei wella i helpu gyda chraffu a bod angen mwy o eglurhad ar gysylltu Trosolwg a Chraffu gyda meysydd risg.  Cwestiynodd yr hepgoriad o’r risg fawr gyda ffioedd a thaliadau a dywedodd y dylai meysydd risg o dan gylch gwaith pwyllgorau eraill sy’n cynnwys risgiau ariannol fod yn destun goruchwyliaeth.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adolygiad o Gynllun y Cyngor yn ystyried pwyntiau o’r fath i gynorthwyo pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i ganolbwyntio ar feysydd penodol o fewn eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol.  Dywedodd y byddai unrhyw risgiau gwasanaeth gyda gwerth ariannol mawr hefyd yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor hwn.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Jones statws coch y dangosydd perfformiad ar ganran gweithwyr sy’n gadael yn eu blwyddyn gyntaf, o ystyried sylwadau’r Prif Weithredwr nad oedd unrhyw risg i barhad busnes yn codi o’r tuedd hwn. Dywedodd y Cynghorydd Jones hefyd y dylai’r effaith ar y duedd genedlaethol o nifer y diwrnodau gwaith a gollir oherwydd absenoldeb salwch fod yn fwy clir yn y sylwebaeth. Cytunodd i rannu nifer o ymholiadau eraill ar ddangosyddion perfformiad gyda swyddogion ar wahân.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Jones am ehangu ar y rhesymau dros risgiau a adroddwyd i bwyllgorau eraill, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn cael sylw drwy adolygu’r fframwaith rheoli risg.  Mewn ymateb i ragor o gwestiynau, roedd gweithdy Aelodau ar Werth Cymdeithasol yn cael ei drefnu a byddai’r eitem Bargen Dwf yn rhoi cyfle i Aelodau nodi blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau sy’n effeithio cymunedau. Am yr angen i gynlluniau busnes nodi amcanion a gwariant cysylltiedig o fewn meysydd gwasanaeth, siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am waith parhaus i gyflawni cynnwys mwy cyson ac adborth dwyffordd gyda Chynllun y Cyngor, a fyddai’n helpu i lywio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Wrth ddiolch i Aelodau am eu sylwadau, rhoddodd y Cynghorydd Mullin sicrwydd, tra bod cynnydd yn cael ei wneud, nid oedd hunanfoddhad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Woolley y dylai’r adroddiad ganolbwyntio’n fwy ar dueddiadau, yn hytrach na chiplun ar gyfnod. Cytunodd i rannu nifer o anghysondebau gyda swyddogion o ran data yn yr adroddiad, o’i gymharu â’r diweddariad canol blwyddyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom y teimlai y gallai Cynllun y Cyngor gyflawni mwy drwy gynllunio ymlaen llaw, er enghraifft, gyda’r cam gweithredu ‘ymyriadau allweddol i gael gafael ar gyfleusterau cyflogaeth, iechyd, hamdden ac addysg’.  Dywedodd y dylai ymyriadau o’r fath, fel y rhai sydd eu hangen yn Nociau Mostyn, gael eu hadlewyrchu yng Nghynllun y Cyngor o dan y flaenoriaeth Cyngor Uchelgeisiol.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod Cynllun y Cyngor, fel y cytunwyd gan y Cyngor, yn cynnwys gwaith y Cyngor a beth oedd wedi’i gynllunio i’w gyflawni yn ystod y flwyddyn ac yn y tymor hwy.  Gallai Swyddogion ond adrodd ar berfformiad y Cyngor yn erbyn cynnwys y Cynllun y cytunwyd arnynt ymlaen llaw, ac nid ar unrhyw faterion polisi neu wasanaeth a oedd y tu allan i’r Cynllun, neu yn wir, gwaith a pherfformiad ar wahân y Llywodraeth a sefydliadau partner. Yn dilyn ymholiad ynghylch campws Neuadd y Sir, rhoddodd grynodeb byr ar gynnydd a dywedodd nad oedd cynlluniau wedi’u datblygu eto ar gyfer gweddill y safle.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, a oedd yn bresennol yn y galeri cyhoeddus, fod Dociau Mostyn wedi’u cynnwys yn y cynllun cludiant. Mewn ymateb i sylwadau eraill, cyfeiriodd at rai amcanion yng Nghynllun y Cyngor yn rhychwantu nifer o feysydd gwasanaeth a’r effaith ar y gyllideb o ganlyniad i gyllid grant hwyr neu gyfalaf yn gysylltiedig â chynlluniau penodol.

 

Holodd y Cynghorydd Collett a allai’r risgiau/dangosyddion coch a oedd y tu allan i reolaeth y Cyngor gael eu nodi’n fwy clir. Rhoddodd y Prif Weithredwr esiamplau o le gallai’r Cyngor ddylanwadu, er enghraifft, yr achos tystiolaethol ar y setliad dros dro.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Jones eitem cyn gweithdy Cynllun y Cyngor i’r Pwyllgor ddeall y risgiau ariannol ar draws gwasanaethau. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai swyddogion yn gweithio ar ddal sut roedd y Cynllun yn gweithio, gan ystyried y sylwadau a godwyd ar gynllunio ar gyfer y dyfodol, alinio â phwyllgorau Trosolwg a Chraffu a dylanwadu ar feysydd drwy bartner arall.

 

Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig gan y Cynghorydd Jones a’u heilio gan y Cynghorydd Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cymeradwyo:

 

  • Lefelau cynnydd a hyder cyffredinol o ran cyflawni gweithgareddau o fewn Cynllun y Cyngor;
  • Y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor;
  • Y lefelau risg presennol o fewn Cynllun y Cyngor.

 

(b)       Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r broses o ddarparu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20;

 

(c)       Yn y dyfodol, y bydd pob risg gwerth ariannol uchel yng Nghynllun y Cyngor yn dod gerbron y Pwyllgor, yn ogystal â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gweithredol; a

 

(d)       Chyn gweithdy Cynllun y Cyngor, bod swyddogion yn gwneud gwaith i ganolbwyntio ar alinio â’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, cynllunio ar gyfer y dyfodol a lliniaru risg ar faterion y tu allan i reolaeth y Cyngor.

Awdur yr adroddiad: Robert Robins

Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2020

Dyddiad y penderfyniad: 13/02/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/02/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: