Manylion y penderfyniad

Council Fund Revenue Budget 2020/21

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

The report sets out the following for noting:

(1)       the latest local financial forecast for 2020/21, including cost pressures which have been reviewed and endorsed by Overview and Scrutiny Committees;

(2)       the work to date to develop and agree local solutions to meet the projected ‘gap’ in the budget requirement for 2020/21 within the forecast;

(3)       the arrangements for and expectations around the Welsh Government Budget and the Provisional Local Government Settlement which are due to be announced in tandem on 16 December;

(4)       the remaining local options to achieve a legally balanced budget for 2020/21 alongside the Settlement and

(5)       the timetable to complete budget closure by March

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2020/21 a oedd yn nodi’r canlynol:

 

·         y rhagolwg ariannol lleol diweddaraf ar gyfer 2020/21;

·         y gwaith hyd yma i ddatblygu a chytuno ar ddatrysiadau lleol i lenwi’r ‘bwlch’ a ragwelir yn y gyllideb ofynnol ar gyfer 2020/21 o fewn y rhagolwg;

·         y trefniadau ar gyfer Cyllideb Llywodraeth Cymru a Setliad Dros Dro Llywodraethau Lleol a'r disgwyliadau mewn perthynas â hynny - disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi gyda’i gilydd ar 16 Rhagfyr;

·         yr opsiynau lleol sy’n weddill i gyflawni cyllideb gytbwys gyfreithiol ar gyfer 2020/21 ochr yn ochr â’r Setliad; a

·         yr amserlen i gwblhau’r gyllideb erbyn Mawrth 2020.

 

Ers cyhoeddi’r adroddiad, roedd dau gyfarfod ymgynghori olaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi cael eu cynnal ac roedd atodiad wedi’i ddiweddaru a’i ddarparu i’r Aelodau a oedd yn cynnwys ymatebion pob un o’r chwech Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roedd pob Pwyllgor wedi derbyn crynodeb o’r pwysau o ran costau yn ôl portffolios gwasanaeth. Pwysleisiwyd nad oedd unrhyw beth gwahanol i’r argymhellionyn cael ei gyflwyno i Aelodau yn dilyn cyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. 

 

Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn darparu’r rhagolwg ariannol diweddaraf a oedd wedi cael ei adolygu i gymryd i ystyriaeth y newidiadau mewn pwysau gan gynnwys rhagolwg gwreiddiol mis Ebrill a phwysau newydd a oedd yn anhysbys neu heb gael eu deall a'u cyfrifo'n iawn cyn hynny. O ganlyniad i’r newidiadau, tyfodd y bwlch yn y gyllideb i £16.355m ym mis Rhagfyr, sef cynnydd o £0.181m.

 

Roedd yr atebion a oedd ar gael i alluogi’r Cyngor i gydbwyso cyllideb 2020/21 wedi’u dosbarthu fel a ganlyn:

 

·         Cyllid Cenedlaethol;

·         Cynlluniau Busnes Portffolios a Chyllid Corfforaethol;

·         Trethi ac Incwm Lleol; a

·         Newid Sefydliadol.

 

Wrth roi sylwadau am ddyfarniad cyflog blynyddol athrawon, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y Cyngor yn disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru yn talu’r dyfarniad cyflog yn llawn yn 2020/21.  Ar sail hynny, roedd modd tynnu £0.726m o’r rhagolwg gan roi ffigwr adolygedig o £15.629m. Byddai cadarnhad yn cael ei geisio gan LlC yngl?n â'u cynlluniau ar gyfer dyfarniadau cyflog blynyddol rhwng nawr a’r camau olaf o osod y gyllideb.

 

Darparodd fanylion llawn arbedion ac incwm o gynlluniau busnes portffolios, arbedion cyllid corfforaethol, treth ac incwm lleol a newid sefydliadol.

 

Byddai cyfuniad o arbedion ac incwm portffolios cyllid corfforaethol, incwm sy’n deillio o lefel ddangosol o gynnydd yn Nhreth y Cyngor, a’r ‘difidend’ o adolygiad actiwaraidd Cronfa Bensiynau Clwyd a grynhoir yn yr adroddiad, yn cynhyrchu cyfraniad sylweddol o £8.164m at y gyllideb.

 

Yr unig opsiynau lleol sydd ar ôl i’w hadolygu er mwyn adeiladu ar y cyfraniad, yn ddibynnol ar ganlyniad cyllideb LlC oedd (1) adolygiad pellach o gyfraniadau cyflogwyr Cronfa Bensiynau Clwyd mewn cysylltiad ag Actiwari'r Gronfa; (2) rhannu pwysau costau ysgolion gyda’r ysgolion eu hunain; (3) set gyfyngedig o ddarpariaethau cyllid corfforaethol eraill megis arenillion rhagweledig o Dreth y Cyngor a chyfraddau adfer Gostyngiad Person Sengl; (4) gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer codi ffioedd comisiynu darparwyr gofal cymdeithasol wrth i drafodaethau blynyddol barhau; a (5) lefel uwch na’r dybiaeth weithiol o 5% ar gyfer Treth y Cyngor.

 

Roedd lefel arian wrth gefn y Cyngor a oedd heb ei glustnodi yn isel ac nid oedd modd gwneud cyfraniad arall yn ddiogel i helpu i osod y gyllideb.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod arbedion effeithlonrwydd o £92M wedi’i ganfod dros y 9 mlynedd diwethaf gyda chefnogaeth Aelodau, ac roedd y targed ar gyfer 2020/21 dros £16M.  Roedd y ffigyrau’n cynnwys cynnydd enghreifftiol o 5% yn Nhreth y Cyngor.  Roedd ysgolion yn ymwybodol o’r sefyllfa o ran y posibilrwydd o orfod rhannu costau – sefyllfa oedd yn ddewis olaf. Er y disgwylir gwelliant yn y Setliad, roedd y Cyngor yn dal i orfod dod o hyd i gyllid ychwanegol i helpu i glustnodi arian yn erbyn pwysau a fyddai'n codi yn ystod y flwyddyn, ac i helpu i ddychwelyd arian wrth gefn i lefel ddiogel.

 

Pe bai’r Cyngor yn gallu dod trwy 2020/21, byddai angen canolbwyntio ar y tymor canolig wedyn. 

 

Roedd disgwyl mwy o fanylion yn y Setliad eleni o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol a byddai’r manylion hynny ar gael y dydd Llun canlynol. Byddai gwybodaeth yn cael ei hanfon at Aelodau cyn gynted ag sy’n bosibl gydag asesiad o’r goblygiadau i Sir y Fflint.

 

Ailadroddodd nad oedd modd dod o hyd i unrhyw arbedion pellach heb wneud gwasanaethau yn anniogel, sefyllfa a gefnogwyd trwy gydol yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu. 

 

Rhoddodd sylwadau am yr effaith ryfeddol ar berfformiad Cronfa Bensiynau Clwyd a’r adolygiad actiwaraidd, a gynhelir bob tair blynedd, a fyddai’n gweld o leiaf £2m yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at leihau’r bwlch yn y gyllideb. 

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i Arweinwyr Grwpiau am lofnodi'r llythyr a anfonwyd at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ym mis Hydref, a oedd yn amlinellu’r effaith ar Dreth y Cyngor pe nai bai gwell Setliad yn cael ei roi, a’r ffaith na fyddai gan y Cyngor unrhyw ddewis ond galw am ymyrraeth ariannol gan LlC pe na bai’r Cyngor yn gallu cydbwyso’r gyllideb yn ddiogel. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod disgwyl gwell Setliad ar gyfer 2020/21 ond gofynnodd a fyddai lefelau cyllid presennol i lywodraethau lleol yn codi digon i Sir y Fflint a chynghorau eraill i’w galluogi i osod cyllidebau cytbwys, diogel a chyfreithiol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd effeithiau newidiadau yn y Dosbarthiad Fformiwla blynyddol hefyd yn peri pryder. O dan y dadansoddiad dosbarthiad diweddaraf, roedd disgwyl i Sir y Fflint fod ar ei cholled net yn sylweddol. Roedd trafodaethau ar y gweill gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a LlC i osod ‘terfyn isaf’, a oedd yn ffordd o gapio lefelau colled i gynghorau gydag effaith dosbarthu negyddol, fel yn y blynyddoedd blaenorol.  

 

Amlinellwyd yr amserlen ar gyfer camau olaf y broses o osod y gyllideb flynyddol yn yr adroddiad.  

 

Rhoddodd y Cynghorydd Roberts sylwadau am yr arbedion syfrdanol o £92M a oedd wedi’u canfod dros y 9 mlynedd diwethaf. Diolchodd i Aelodau o’r Siambr am y gwaith a wnaethpwyd gan y gweithgor trawsbleidiol a ddaeth i benllanw gyda llythyr wedi'i lofnodi ar y cyd a’i anfon at LlC a oedd yn dangos y gallai'r gwaith trawsbleidiol uno'r Cyngor.  Yn ei swydd fel Arweinydd y Cyngor, roedd hefyd wedi llofnodi llythyr gan Arweinwyr chwe Chyngor gogledd Cymru, yn mynegi eu pryderon ar y cyd am sefyllfa'r gyllideb.

 

Mae wedi bod yn gyfnod heriol a diolchodd hefyd i swyddogion am y gwaith a wnaethpwyd ar y gyllideb, a’r cyngor a ddarparwyd. Diolchodd hefyd i bawb a oedd yn gweithio ar Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd a oedd wedi gwneud cyflawniadau rhyfeddol. 

 

Ar ôl y Cabinet yr wythnos nesaf, byddai gwybodaeth yn cael ei hanfon at Aelodau am oblygiadau’r Setliad. 

 

Symudodd yr argymhellion yn yr adroddiad, a chynigodd argymhelliad arall sef “diolch i'r rheiny ym Mhwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd am eu cyflawniad rhyfeddol o ddod â'r cyllid i fyny i'r lefel bresennol".   

 

Eiliodd y Cynghorydd Banks yr argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys yr argymhelliad ychwanegol fel y cynigiwyd gan y Cynghorydd Roberts. Ailadroddodd holl eiriau y Cynghorydd Roberts, yn enwedig y diolch i’r gweithgor trawsbleidiol a’r swyddogion.

 

Teimlai’r Cynghorydd Richard Jones y dylid cadw opsiynau’n agored nes bod manylion y Setliad wedi’u derbyn ar 16 Rhagfyr. Rhoddodd sylwadau am y £593m ychwanegol y byddai LlC yn ei dderbyn, a byddai disgwyl i Sir y Fflint dderbyn 2% o hwnnw. O ran disgwyliad y Cyngor i LlC dalu dyfarniad cyflog athrawon yn llawn ar gyfer 2020/21, gofynnodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol pam yr oedd yn credu bod hynny’n ddiogel, ac awgrymodd y byddai’n fwy darbodus aros am fanylion y Setliad yn gyntaf.  

 

Yn dilyn sylwadau’r Arweinwyr, gofynnodd a oedd cyfarfod wedi’i gynnal rhwng arweinwyr y chwe Cyngor yng ngogledd Cymru a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

 

Gofynnodd a fyddai modd rhoi ystyriaeth i beidio ag ad-dalu’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd eleni - byddai hynny’n ychwanegu rhywfaint o werth, ac o ran y dosbarthiad fformiwla blynyddol, a oedd amcangyfrif ar gael o’r effaith ariannol posibl yn Sir y Fflint.

 

Yn argymhelliad rhif 4, teimlai y dylid tynnu’r geiriau 'ac yn derbyn' gan y byddai hynny’n galluogi'r Cyngor i gadw ei opsiynau ar agor. 

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod WLGA hefyd o’r farn y dylai LlC ddyfarnu cyflogau athrawon yn llawn yn flynyddol. Roedd y cyngor eleni yn gydnaws â’r cyngor yn y gorffennol.

 

O ran peidio ag ad-dalu cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd eleni, yr addasiadau yn y papur oedd y cyllid o gronfeydd wrth gefn y flwyddyn flaenorol felly roedd angen dod o hyd i’r arian o rywle; dim ond o'r gronfa arian at raid neu’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd y gellid cael hwnnw. Roedd y cronfeydd arian at raid wedi cyrraedd y lefelau isaf erioed sef hanner yr hyn yr oeddent y flwyddyn flaenorol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyfarfod gydag Arweinwyr y chwe Cyngor yng ngogledd Cymru. Nid oedd llythyr wedi’i dderbyn yn ymateb i’r un a lofnodwyd ac a gyflwynwyd gan Arweinwyr Grwpiau, ond nodwyd y byddai LlC yn cyfathrebu ar y cyd trwy WLGA unwaith y byddai’r gyllideb wedi cael ei setlo. 

 

Tynnodd sylw at y cyngor a roddodd yn gynharach sef nad oedd unrhyw opsiynau diogel eraill y gellid eu harchwilio – cytunwyd ar hynny gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Hyd yn oed pe bai rhywbeth yn cael ei gyflwyno r?an, byddai unrhyw arbedion yn methu â chael eu gwneud mewn pryd ar gyfer cyllideb 2020/21.

 

O ran y fformiwla ariannu, esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei fod yn gyfuniad o boblogaeth a newidiadau i setiau data ac yn ôl y wybodaeth byddai’r elfen boblogaeth yn cael ei chyflwyno’n raddol, ond o bosibl nid yr elfen arall. Roedd y boblogaeth yn rhan fach iawn o lle byddai’r Cyngor yn methu allan – yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, y cyfanswm oedd £858k a gallai hwnnw godi. Roedd WLGA wedi gofyn i Weinidogion osod ‘terfyn isaf’ o 0.5% fel na fyddai unrhyw Gyngor yn colli mwy na 0.5% o’u Grant Cynnal Refeniw. 

 

Yn dibynnu ar y bwlch terfynol ac o dybio'r gwaethaf, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y gallai’r Cyngor fod yn edrych ar gynnydd o rhwng 11% ac 14% yn Nhreth y Cyngor. Er ei fod yn derbyn bod hynny’n annhebygol, o ystyried yr Hysbysiad o Gynnig a drafodwyd yn y Cyngor Sir ym mis Mehefin 2019, teimlai y byddai'n annoeth i Aelodau ddweud ei fod yn cael ei dderbyn, sef y pwynt a wnaeth yn gynharach yngl?n ag argymhelliad rhif 4.  Dywedodd y Prif Weithredwr mai Aelodau ddylai benderfynu ar y geiriad, ond roedd angen i’r cyngor a roddwyd gan swyddogion gael ei ddeall a byddai’n aros. 

 

Fel cynigydd ac eilydd yr argymhellion, roedd y Cynghorwyr Roberts a Banks yn derbyn y dylid tynnu’r geiriau “ac yn derbyn” fel yr awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones.

 

Diolchodd y Cynghorydd Heesom i’r Aelodau am y newid i argymhelliad rhif 4.  Roedd yn falch o weld bod swyddogion wedi dod yn agosach at y cysyniad o osod Treth Y Cyngor o dan y terfyn o 5%. O ran arbedion mewn portffolios, teimlai nad oedd y drafodaeth am wariant yn ddiwedd i’r mater a bod adegau pan fo opsiynau posibl ar gael, gan gyfeirio at enghraifft o drafodaeth a oedd wedi digwydd yn gynharach y diwrnod hwnnw yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd yngl?n â pha mor aml y caiff biniau du gwastraff cyffredinol eu casglu. Teimlai bod meysydd yng nghyllideb pob portffolio lle byddai angen i Aelodau ystyried toriadau. Ni fyddai’n cefnogi ariannu’r bwlch trwy Dreth y Cyngor a theimlai y byddai’n ddyletswydd ar Aelodau i ystyried gwneud toriadau mewn gwasanaethau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod llawer o waith moderneiddio wedi cael ei wneud ar draws y Cyngor ac y byddai unrhyw waith pellach yn gymhleth. Dywedodd eto y byddai gweithredu unrhyw ostyngiadau pellach yn arwain at lefelau anniogel, gan gynnwys dyletswyddau gorfodol y Cyngor ac nid oedd unrhyw un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi nodi unrhyw beth mawr i’w adolygu.  

 

Diolchodd y Cynghorydd Peers i’r swyddogion am eu holl waith ac eto i Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd am y gwaith ardderchog yr oedd wedi’i wneud. Dan arweiniad y Cynghorydd Roberts, dywedodd bod gwahanol bleidiau gwleidyddol ac Arweinwyr Grwpiau wedi dod at ei gilydd a bod trafodaethau am y gyllideb wedi bod yn gyfeillgar. Pe bai’r canlyniad yn un positif, roedd yn gobeithio bod hynny oherwydd cyfraniadau’r holl Gynghorwyr. Diolchodd i’r Cynghorydd Richard Jones am ei gynnig ar argymhelliad rhif 4, gan ei fod yn cadw pethau yn agored ac yn hyblyg gan nad oedd modd gwybod beth oedd sefyllfa’r Cyngor nes bo’r Setliad wedi’i dderbyn.   Roedd yn ddiolchgar bod y ffigyrau yn yr adroddiad yn gweithio ar gynnydd dros dro o 5% yn Nhreth y Cyngor. Cafodd ei galonogi gan rai o’r opsiynau yn yr adroddiad, a’r ffaith bod ystod y gwerth ariannol rhwng £1m a £2.9m, a gofynnodd a fyddai modd darparu crynodeb o’r ffigyrau hynny ar ryw bwynt a beth oedd y posibilrwydd o’u cyflawni.  I gadw’r ysbryd o gydweithio, gobeithiai y gallai’r Cyngor ganolbwyntio ar gynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor, a cheisio cydweithio er lles y Cyngor a threthdalwyr y Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y ffigyrau a geisiwyd gan y Cynghorydd Peers ar gael ac y byddent yn cael eu rhyddhau yr wythnos ganlynol ar ôl derbyn y Setliad.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Ellis sylwadau am y pump opsiwn lleol a oedd yn weddill fel y manylir yn yr adroddiad, a gofynnodd a fyddai rhif (4) “gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer codi ffioedd comisiynu darparwyr gofal cymdeithasol wrth i drafodaethau blynyddol barhau” yn cynnwys cartrefi nyrsio? Os felly, gallai arwain at golli darpariaeth. O ran y set gyfyngedig o ddarpariaethau cyllid corfforaethol arall, megis Treth y Cyngor ac arenillion a ragwelir, gofynnodd am fwy o wybodaeth am gyfraddau adfer y gostyngiad person sengl h.y. a allai gynnwys gostwng cyfradd y gostyngiad person sengl, gan y gallai hynny arwain at gynnydd mewn digartrefedd. Ni fyddai’n cefnogi cynnydd o fwy na 5% yn Nhreth y Cyngor.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y cyfeiriad at hyd at £2.9M yn yr ystod o opsiynau yn berthnasol i opsiynau 1-4 yn unig, ac nid yr opsiwn ar Dreth y Cyngor. Ni fwriedir gwneud unrhyw beth newydd o ran cyfraddau adfer gostyngiad person sengl. O ran ffioedd comisiynu, roedd yr hyn a gynigai’r Cyngor yn seiliedig ar yr asesiad a gynhaliwyd.  Pe bai'r Cyngor yn cyd-drafod yn dda â darparwyr gofal mae’n bosibl y byddai swm bach ar gael, ac na fyddai unrhyw ddarparwr mewn perygl.   

 

Yn dilyn pleidlais, cafodd yr argymhellion, gan gynnwys y newid i argymhelliad 4 a’r argymhelliad ychwanegol, eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid nodi’r rhagolwg a ddiweddarwyd ar gyfer 2020/21. Roedd y rhagolwg yn cynnwys pwysau costau a oedd wedi cael eu hadolygu a’u hardystio gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol;

 

(b)       Y dylid nodi bod y cam cyntaf o ddatrysiadau i ateb gofynion y gyllideb a oedd yn dod i gyfanswm o £8.164m wedi’i gwblhau. Roedd y datrysiadau portffolios gwasanaeth ac ariannu corfforaethol penodol wedi cael eu hadolygu a’u hardystio gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol (mae cam cyntaf y datrysiadau yn cynnwys cyfradd dros dro o 5% i Dreth y Cyngor.  Roedd lefel Treth y Cyngor yn fater a gadwyd yn ôl ar gyfer y Cyngor llawn ac ni fyddai penderfyniad yn cael ei wneud nes y cyfarfod ym mis Chwefror.  Byddai lefel Treth y Cyngor a argymhellir yn amrywio yn ôl y bwlch yn y gyllideb yng nghyfnod olaf y gyllideb);

 

(c)        Y dylid nodi’r trefniadau ar gyfer cyhoeddi Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru;

 

(d)       Bod y Cyngor yn nodi’r ystod gyfyngedig o opsiynau lleol sydd ar gael i greu cyllideb gytbwys ochr yn ochr â chanlyniad y Setliad;

 

(e)       Y dylid nodi’r amserlen ar gyfer camau olaf y broses o osod y gyllideb flynyddol; a

 

(e)       Y dylid diolch i’r rheiny sy’n gysylltiedig â Phwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd am eu cyflawniad anhygoel i ddod â'r cyllid i fyny i'r lefel bresennol.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2020

Dyddiad y penderfyniad: 10/12/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/12/2019 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: