Manylion y penderfyniad

Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the Housing Revenue Account (HRA) Budget for 2020/21, the HRA Business Plan and the summary 30 year Financial Business Plan for approval.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Cyllid Strategol – Masnachol a Thai, Gynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai, a oedd yn cynnwys cynnydd arfaethedig i rhent, a ystyriwyd yng Nghabinet ar 21 Ionawr, 2020.

 

            Rhoddwyd cyflwyniad a oedd yn trafod:

 

·         Cynllun Busnes 30 mlynedd;

·         Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru 2020/21;

·         Cynnydd Arfaethedig i Rent 2020/21;

·         Incwm Arall;

·         Taliadau Gwasanaeth 2020/21;

·         Arbedion Effeithlonrwydd Refeniw;

·         Pwysau ar Refeniw;

·         Darparu’r Rhaglen Gyfalaf;

·         Rhaglen Gyfalaf Ddrafft 2020/21;

·         Cyllid Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21;

·         Y Cyfrif Refeniw Tai – Ystyried Gwerth am Arian; a

·         Cronfeydd Wrth Gefn

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Attridge yr argymhellion.Darparodd fanylion o sylw a wnaeth yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter ar effaith gronnol cynyddu rhent a taliadau gwasanaeth eraill.I denantiaid sy’n gweld hi’n anodd, gan gynnwys preswylwyr mewn tai gwarchod, rhoddwyd sicrwydd gan y Prif Swyddog y byddai’r ffioedd hynny’n cael eu talu gan fudd-daliadau tai. Gwnaed llawer o waith dros y blynyddoedd i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwerth am arian, a oedd yn braf gweld.

 

Eiliodd y Cynghorydd Dave Hughes yr argymhelliad a dywedodd ei fod yn falch o beth sydd wedi cael ei gyflawni a byddai swyddogion yn parhau i adeiladu ar lefelau presennol yr uchelgais. Gosodwyd y polisi rhenti gan LC am 5 mlynedd, a dyma oedd yr uchafswm a ellir ei godi, a byddai landlordiaid yn ystyried gwerth am arian ynghyd â fforddiadwyedd i denantiaid, gan ystyried costau byw mewn eiddo yn llawn fel rhan o’r rhesymeg dros osod cynnydd mewn ffioedd rhenti. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Peers sylw ar  Grynodeb y Cynllun Busnes 30 Blynedd a oedd wedi ei atodi i’r adroddiad a dywedodd, yn 2020/21, roedd gwariant yn 65% o’r incwm, gan gynyddu ym mlwyddyn 10 i 67% o’r incwm. Gofynnodd sut oedd hyn yn cymharu â chyfartaledd Cymru. Dywedodd y Prif Swyddog pan fydd y wybodaeth honno ar gael, byddai’n cael ei rhannu gydag Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carver, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid mai’r cynnydd trosiannol i denantiaid a oedd o dan rhent targed ar hyn o bryd oedd £2 yr wythnos, fel yr oedd wedi bod yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Jones sylw ar y sawl oedd yn gweld hi’n anodd parcio ceir mewn llety gwarchod, oherwydd nid y preswylwyr h?n oedd o hyd yn defnyddio’r fath lety. Awgrymodd y dylid ystyried buddsoddiad mewn meysydd parcio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod adolygiad o llety gwarchod yn cael ei gynnal, gan gynnwys yn y cyd-destun ehangach.Roedd parcio ceir hefyd yn cael ei drin dan Safon Ansawdd Tai Cymru, a matrics gwerthusiad manwl wedi cael ei gymeradwyo yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter i’r hyn oedd ei angen a sut y gellir ei ddarparu mewn mannau amrywiol.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Hinds ar ffioedd d?r nawr yn cael eu codi’n uniongyrchol ar breswylwyr, esboniodd y Prif Weithredwr bod hyn wedi bod yn ofyniad penodol gan y cwmni d?r a'i fod allan o reolaeth y Cynghorau. Dywedodd y Cynghorydd Gay ei bod wedi mynd i sesiwn galw heibio, ac wedi cael ei hysbysu gan y cwmni d?r; drwy filio tenantiaid yn uniongyrchol, y byddai’n galluogi i breswylwyr gael cymorth mynediad gan nifer o gynlluniau; petai’r bilio yn cael ei barhau drwy'r awdurdod lleol, ni fyddai'r dewisiadau hyn ar gael i denantiaid.

 

Croesawodd y Cynghorwyr Palmer a Rosetta Dolphin y gwaith sy'n cael ei gynnal ar eiddo'r Cyngor fel rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

O ran parcio ceir, gofynnodd y Cynghorydd Ellis a oedd cydweithwyr yn yr adran Tai a Phriffyrdd wedi cydweithio, gan gyfeirio at enghraifft lle dywedwyd wrthi nad oedd cynllun wedi sgorio ddigon uchel ar gyfer mannau parcio preswylwyr yn unig pan roedd y ffordd dan sylw gyferbyn ag ysgol ac yn achosi problem bob dydd. 

 

Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd Y Cyfrif Refeniw Tai (HRA).

Awdur yr adroddiad: Rachael Corbelli

Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2020

Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/01/2020 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: