Manylion y penderfyniad

Review of Investment Strategy Review Including Responsible Investment Policy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Mynegodd Mr Latham bwysigrwydd Dyrannu Asedau Strategol gan y bydd canlyniadau’r Prisiad Actiwaraidd nesaf yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau a wneir heddiw.  Yn ffodus, mae'r Gronfa yn dechrau gyda strategaeth amrywiol iawn felly mae'r addasiadau yn fwy o brosesau bychan nag un newid mawr.Amlinellodd y gofynnir i’r Pwyllgor gytuno ar y newidiadau arfaethedig i’r strategaeth yn y cyfarfod hwn ac yna byddai Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror.

Cyflwynodd Mr Harkin y diwygiadau arfaethedig i’r Dyraniad Asedau Strategol gan fynegi’r pwyntiau allweddol canlynol;

-       Mae’r Gronfa wedi’i hariannu’n well heddiw ond mae’r Gronfa yn parhau i fod mewn diffyg felly mae angen i ni fuddsoddi i gyflawni’r lefel ofynnol o elw.

-       Mae'r dull integredig yn golygu cael y balans cywir o Fuddsoddiadau, Cyllid a Chyfamod.  Mae’r Gronfa ar y blaen o gymharu â chronfeydd eraill gan fod strategaeth Llwybr Cyrraedd Targed eisoes ar waith, lle bo cronfeydd eraill yn dechrau meddwl am reoli risg yn awr.

-       Yr hyn sy'n allweddol yw canolbwyntio ar elw hir dymor, drwy osod dyraniad asedau yn seiliedig ar ragolygon marchnad 10 mlynedd Mercer.

-       Mae marchnadoedd preifat wedi bod yn hynod lwyddiannus ar gyfer y Gronfa; yr her yw sicrhau y gallwn barhau gyda’r hyn sydd gennym.

-       Mae’r elw a ddisgwylir yn cael ei gynhyrchu drwy ddatganiad ystadegol gan Mercer.  Bydd gan Mercer ragolygon nad ydynt yn cael eu gwireddu bob tro ond mae’n sicrhau bod dyraniad asedau yn effeithiol.

Eglurodd Mr Harkin y disgwyliwyd i’r strategaeth fuddsoddi bresennol a osodwyd yn 2016 ddarparu 6.1% y flwyddyn yn seiliedig ar ragolygon y farchnad ar y pryd.  Ond, yn seiliedig ar ragolygon y farchnad yn 2019 byddai’r elw a ddisgwylir yn gostwng i 5.4% y flwyddyn.  Y neges yw y dylid disgwyl llai o elw yn y dyfodol.  Felly, bydd yn hanfodol sicrhau bod dyraniad asedau yn gallu cyflawni elw sy’n fwy na chyfradd ddisgownt yr Actiwari h.y.  CPI a 3.2% sydd wedi’i gynnig.  Mynegodd Mr Harkin fod yr hinsawdd bresennol mewn perthynas â buddsoddiadau yn ansicr felly mae’n bwysig canolbwyntio ar y llwybr tymor hir, ond bydd hyn yn anoddach yn y dyfodol.

            Eglurodd Mr Harkin fod y cynigion allweddol wedi’u nodi yn yr adroddiad eglurhaol a’r cyflwyniad ond fe’u crynhodd yn fras fel;

  1. Buddsoddi mwy mewn marchnadoedd sydd yn dod i’r amlwg.
  2. Dadfuddsoddi’n llwyr o Gronfeydd Twf Amrywiol.
  3. Ailstrwythuro mandad Cronfeydd Mantoli.
  4.  Ail-gategoreiddio Marchnadoedd Preifat; 
  5. Creu portffolio buddsoddi lleol / effaith
  6. Adolygu Fframwaith Arian Parod a Rheoli Risg (CRMF).

            Gofynnodd y Cynghorydd Bateman beth yw Buddsoddiadau Effaith.  Nododd Mr Buckland bod y buddsoddiadau hyn yn ceisio gwneud cyfraniadau cadarnhaol i gymdeithas yn ogystal â diwallu gofynion risg / elw buddsoddiad.  Mae buddsoddiad cyfrifol yn ymwneud â sicrhau cynaliadwyedd hirdymor, ond, Buddsoddiadau Effaith yw’r cam nesaf, lle byddant yn canolbwyntio ar wneud effaith gadarnhaol a chynhyrchu elw ar gyfer y Gronfa.

            Holodd Mr Hibbert sut mae’r Gronfa yn mynd i gofnodi ac adrodd yr effaith.  Nododd Mr Buckland eu bod yn ystyried sut y gellir gwneud hyn orau, a bydd yn cael ei nodi yn y Polisi Buddsoddi Cyfrifol, ar ôl trafodaethau pellach gyda swyddogion.  

            Holodd y Cadeirydd pa fuddsoddiadau presennol fydd yn symud i'r portffolio newydd hwn.  Nododd Mr Buckland bod ystod o bethau i’w hystyried, gyda 17 nod yn y maes hwn.  Mae nifer o fuddsoddiadau presennol y gellir eu symud i’r portffolio newydd ac, er nad yw hyn wedi'i gytuno gyda'r swyddogion eto, roedd yn debygol y byddai oddeutu 4% o'r dyraniad targed yn cael ei gyflawni drwy fuddsoddiadau presennol.  

            Nododd Mr Everett y bu mewn cyfarfod yn ddiweddar ac fe nodwyd bod nifer sylweddol o gyfleoedd buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.  Eglurodd Mr Everett y gallai’r rhain fod yn gyfleoedd priodol ar gyfer y Gronfa a gofynnodd sut y gellir sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn cael eu hystyried gan y Gronfa ar gyfer y dyfodol.  Cytunwyd y bydd Mr Harkin a Mr Everett yn cael trafodaeth ffurfiol ar yr agwedd hon fel rhan o gyfarfodydd Panel Ymgynghorol y Gronfa Bensiynau a bydd y canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor fel y bo'n briodol.  

             Nododd Mr Buckland ar sleid 21 y cyflwyniad, yr elw a ddisgwylir ar gyfer y Gronfa ar y strategaeth arfaethedig newydd yw 5.6% y flwyddyn sy'n gynnydd o 0.2% yn seiliedig ar strategaeth bresennol 2016.

            Eglurodd Mr Campbell wrth asesu risg y strategaeth fuddsoddi mae’n bwysig mesur hyn mewn modd cyson, a defnyddiodd Mercer ymagwedd VaR.  VaR yw Gwerth ar Risg ac mae’n cynrychioli risg y golled ar gyfer buddsoddiadau.  Mae’n rhagweld faint y gall cyfres o fuddsoddiadau ei golli gyda thebygolrwydd penodol, o fewn cyfnod amser penodol.  Po uchaf y VaR, yr uchaf yw’r risg.  Nododd Mr Campbell fod angen i’r Gronfa gymryd y risg er mwyn ennill lefel briodol o elw yn uwch na'r gyfradd ddisgownt, sef CPI a 2.25% ar gyfer croniad gwasanaeth yn y dyfodol ym mhrisiad 2019.

            Eglurodd Mr Campbell bod sleid 25 yn adlewyrchu’r risgiau allweddol y mae’r Gronfa yn eu hwynebu o fewn Dyraniad Asedau.  Mae’r risgiau y mae'r Gronfa yn eu hwynebu'n cael eu cymell, yn bennaf, gan chwyddiant ynghyd â chyfraddau llog i'r graddau lle y gellir cyflawni gwir elw pendant.  Mae risg ecwiti yn risg sylweddol arall.Eglurodd bod y bariau llwyd ar y siart yn nodi gostyngiad mewn risg, ac mae’r bariau du yn nodi cyfanswm y risg.  Mae cynnydd mewn risg o £7m ac mae’r siart ar y dde yn dangos beth sy’n cymell hynny.  Cadarnhaodd Mercer eu bod yn gyfforddus gyda hyn a derbyn bod cymryd risg pan y disgwylir derbyn enillion yn briodol.

            Nododd y Cynghorydd Bateman yn ei safbwynt ef mai dim ond cynyddu y gall y risg o ran cyfraddau llog hir dymor a chwyddiant.  Gofynnodd beth yw’r gyfradd llog ar hyn o bryd.  Cytunodd Mr Campbell gyda’r Cynghorydd Bateman h.y. bod risg, ac fe gadarnhaodd ar arenillion gilt 10 mlynedd, mae’r gyfradd llog yn llai na 1%.  Pwysleisiodd Mr Campbell pa mor anodd yw rhagweld cyfraddau llog, ac mai dyna pam fod gan y Gronfa fframwaith rheoli risg ar waith sy’n ceisio rheoli cryn dipyn o’r risg.

            Cadarnhaodd Mr Harkin fod gan Mercer ofod ar gyfer y risg nad yw pethau'n mynd fel y disgwylir a gwnaed hyn hefyd wrth osod Dyraniad Asedau Strategol 2016.  

            Eglurodd Mr Campbell bod sleid 29 yn dangos y dadfuddsoddiad arfaethedig o Gronfeydd Twf Amrywiol.  Nid yw’r dadfuddsoddiad yn seiliedig ar berfformiad gwael y dosbarth hwn yn unig, ond oherwydd bod Mercer yn credu y gall y Gronfa feddu ar bortffolio amrywiol heb DGF a thrwy'r portffolio Syniadau Gorau ar gyfer buddsoddi tactegol sy’n perfformio’n well.

            Holodd Mr Hibbert am y cyfnod pontio arfaethedig i’r strategaeth newydd, a mynegi pryderon o ran yr amser a gymerir a chostau gweithredu.  Cytunodd Mr Harkin ei bod yn hanfodol osgoi oedi, felly bydd Mercer yn gweithredu’r dyraniad cyn gynted ag y bo modd.

            Parhaodd Mr Harkin i drafod ailstrwythuro arfaethedig y portffolio Cronfeydd Mantoli.  Nododd y cynigir y byddai’n cynnwys cynnyrch Man Group Solutions yn unig sydd â nifer o gynnyrch sy’n arwain y farchnad.  Cadarnhaodd Mr Harkin mai’r cynnig yw ailstrwythuro’r portffolio presennol er mwyn i’r Gronfa wneud arbedion ffioedd sylweddol, gan gynnwys netio ffioedd perfformiad.  Os yw’r portffolio newydd yn perfformio ar lefel gyffredinol, bydd y Gronfa yn talu ffi berfformio; ond os nad yw, ni fyddent yn talu'r ffi.

            Holodd Mr Hibbert a fydd y ffioedd yn uwch os yw perfformiad y Gronfa yn uwch.  Nododd Mr Harkin y ddau beth y bydd y Gronfa yn talu amdanynt; ffi i Man Group i reoli’r asedau a ffi ar gyfer mandad y Cronfeydd Mantoli.  Nes bo’r Gronfa yn derbyn yr isafswm o ran elw sy'n ofynnol, ni fydd y Gronfa yn talu'r ffi berfformio.  Gelwir hyn yn netio ffi berfformio ac mae'n arbediad sylweddol iawn o gymharu â'r sefyllfa bresennol lle y telir y rheolwyr hyd yn oed os nad yw'r targedau perfformiad yn cael eu diwallu.

            Holodd Mrs McWilliam am y strwythur newydd ac a yw Mercer yn disgwyl newid mewn elw.  Nododd bod yr arbediad o ran ffi yn wych os yw’r elw yn mynd i fod yn debyg neu'n fwy.  Cadarnhaodd Mr Harkin y dyluniwyd y strwythur newydd i gyflawni elw sy’n uwch na’r disgwyl ynghyd ag arbed ffioedd.

            Parhaodd Mr Buckland drwy'r cyflwyniad a thynnu sylw at bedair ymagwedd allweddol ar gyfer buddsoddi cyfrifol; integreiddio, stiwardiaeth, buddsoddi a sgrinio.  Gwnaeth sylwadau ar y gwaith y mae'r Gronfa eisoes wedi'i wneud yn y maes allweddol hwn, gan gynnwys bod yn Lofnodwr Haen Un i God Stiwardiaeth FRS y DU, ac nid oes llawer o Gronfeydd LGPS wedi cyflawni hyn.

            Aeth ymlaen i drafod y broses y bu’r Gronfa drwyddi yn ystod y flwyddyn i gyflawni’r polisi arfaethedig a oedd yn yr Atodiad i’r adroddiad Pwyllgor.

            Cynigodd Mr Hibbert y gellir newid yr ymadrodd ‘risg ariannol hir dymor’ i 'risgiau ariannol’ drwy'r polisi cyfan, ac yn benodol ar dudalen 33 a 34, gan ei fod yn dadlau bod risgiau byr dymor hefyd.  Cytunwyd ar y newid hwn a bydd y polisi’n cael ei ddiwygio i adlewyrchu hyn.

            Daeth y cyflwyniad i ben drwy edrych ar y potensial ar gyfer arbedion o ran ffioedd o fewn y Strategaeth arfaethedig a lle bo'r arbedion hynny'n cael eu cynhyrchu.  Yn olaf, nododd yr amserlen weithredu o ran sut y byddai’r Gronfa yn symud i'r Strategaeth newydd ac a fyddai'n cael ei gweithredu drwy WPP.  Ni fydd Cronfeydd Mantoli a CRMF yn cael eu gweithredu drwy’r WPP ar hyn o bryd.

            Roedd y Pwyllgor yn gyfforddus â’r Dyraniad Asedau Strategol arfaethedig a'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol.

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Cymeradwyodd y Pwyllgor y Dyraniad Asedau Strategol (fel y nodwyd ym mharagraff 3.02) y Gronfa fel sail ar gyfer ymgynghoriad gyda Chyflogwyr y Gronfa.

(b)  Ystyriodd y Pwyllgor a chymeradwyo'r Polisi Buddsoddi Cyfrifol fel sail ar gyfer ymgynghoriad gyda Chyflogwyr y Gronfa.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 03/03/2020

Dyddiad y penderfyniad: 28/11/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/11/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: