Manylion y penderfyniad

Tourism Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide information on Tourism across the County.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad am y prif feysydd gwaith a gyflawnwyd gan y tîm Datblygu Busnes i helpu’r sector twristiaeth. Roedd y cyfraniad i economi Sir y Fflint yn 2018 wedi codi 6.5% ers y flwyddyn cynt, sef y cynnydd mwyaf a gofnodwyd yng Ngogledd Cymru.

 

Darperir cymorth i’r sector twristiaeth gan y tîm Datblygu Busnes, sy’n cynnwys Swyddog Twristiaeth dynodedig. Nododd yr adroddiad yr ymagwedd gydweithredol a gymerwyd ag awdurdodau eraill i hyrwyddo twristiaeth ledled Gogledd Cymru drwy amrywiol fentrau. Roedd y bartneriaeth Rheoli Cyrchfan yn cynnwys cynllun gweithredu cydgysylltiedig i gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwella profiad yr ymwelwyr.

 

Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd nifer o fannau diddordeb lleol gan y Cynghorydd Shotton, ac awgrymodd y Cynghorydd Cox archwilio cysylltiadau â digwyddiadau allanol, megis Eisteddfod Llangollen.

 

Holodd y Cynghorydd Dolphin am farchnata digwyddiadau lleol i annog ymwelwyr o du hwnt i Sir y Fflint.

 

 Wrth groesawu'r cyfraniad i’r economi, siaradodd y Cynghorydd Heesom am yr angen i fuddsoddi mewn seilwaith cludiant lleol ar hyd yr A55 a'r angen hefyd i fynd i’r afael â’r derfynell olew a nwy yn Nhalacre a Dociau Mostyn.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio bod gan y tîm bresenoldeb gweithgar ar y cyfryngau cymdeithasol a’i fod yn cyfeirio pobl at ymgyrchoedd lleol, er enghraifft, Marchnad Nadolig ddiweddar yr Wyddgrug, a gynhyrchodd ddiddordeb sylweddol ar lein. Ar bwynt y Cynghorydd Heesom, dywedodd, er bod y tîm yn canolbwyntio ar fusnesau, bod gwaith y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am welliannau.

 

Ar y mater o seilwaith, dywedodd y Cynghorydd Butler bod cysylltedd trawsffiniol yn cael ei ddatblygu drwy Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy. Wrth gydnabod y ddemograffeg yn Sir y Fflint, siaradodd am fanteision rhannu adnoddau ar draws y rhanbarth, a chanmolodd y mentrau oedd yn cael eu cynnal gydag adnoddau cyfyngedig.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Palmer, dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod yna hanes maith o hyrwyddo Treffynnon fel cyrchfan hanesyddol bwysig.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hutchinson at effaith negyddol cyflwr y trenau a’r oedi yn y gwasanaethau yng ngorsaf Bidston. Rhoddodd y Cynghorydd Butler sicrwydd bod sylwadau wedi’u gwneud ar wella’r daith i ac o Lerpwl a fyddai o fudd i’r economi.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Shotton ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Cox.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed gyda chefnogi’r sector twristiaeth yn Sir y Fflint.

Awdur yr adroddiad: Niall Waller

Dyddiad cyhoeddi: 21/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 18/12/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: