Manylion y penderfyniad
The role of a Councillor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
In response to a Member request, to provide information on what constitutes work/activities outside the role of a Councillor.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad oedd yn manylu ar rôl Cynghorydd Sir a’r disgwyliadau posibl ganddynt.
Gyda’i gilydd, y 70 o Gynghorwyr ydi Cyngor Sir y Fflint, felly mae Cynghorydd yn rhan annatod o’r Cyngor.
Roedd disgrifiad o rôl Cynghorydd Cyngor Sir y Fflint wedi’i gyhoeddi ar y wefan, ac roedd yn ymdrin ag atebolrwydd, rôl, pwrpas a gweithgarwch.
Fel canllaw, roedd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn credu fod rôl Cynghorydd ‘meinciau cefn’ yn debygol o fod gyfwerth â gweithio tri diwrnod yr wythnos. Roedd Aelod Cabinet yn debygol o weithio yr hyn oedd gyfwerth â 37 awr yr wythnos.
Roedd gan Gynghorwyr Tref a Chymuned rôl ar wahân eu hunain i’w chwarae. Roedd hi’n bwysig fod Cynghorau Sir a Chynghorau Tref a Chymuned yn cydweithio i gynrychioli eu cymunedau ac fel arall, roedd Cynghorau Sir a Chynghorau Tref a Chymuned yn cael eu hannog i weithio’n agos â’u gilydd a chynnal cyfarfodydd rheolaidd – dyma oedd pwrpas Fforwm Sir y Fflint.
Cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ‘Canllaw i Gynghorwyr Newydd yng Nghymru’ sydd yn nodi rôl Cynghorydd, ac roedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Roedd canllaw cymdeithas Llywodraeth Leol i weithio mewn amgylchedd gwleidyddol ynghlwm wrth yr adroddiad hefyd. Croesawodd y pwyllgor yr adroddiad, yn enwedig canllaw CLlLC gan ofyn bod y canllaw’n cael ei anfon at bob Cynghorydd Sir a Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned.
Dywedodd Ken Molyneux fod yr wybodaeth am gyfryngau cymdeithasol o fewn y ddogfen yn brin. Fe eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod gan CLlLC brotocol ar wahân ar gyfer cyfryngau cymdeithasol; eglurodd y Swyddog Monitro fod hyn wedi cael ei adrodd i’r Pwyllgor Safonau o’r blaen, ac roedd modd dod o hyd iddo ar wefan CLlLC. Fe ychwanegodd y byddai rhagor o wybodaeth ar gael gan Glercod Cynghorau Tref a Chymuned oedd â mynediad at Un Llais Cymru neu Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad; a
(b) Anfon copi o ganllaw CLlLC ‘Canllaw i Gynghorwyr Newydd yng Nghymru’, oedd yn nodi rôl Cynghorwyr, at Gynghorau Sir a Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 17/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 30/09/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/09/2019 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Atodol: