Manylion y penderfyniad

Treasury Management Annual Report 2018/19

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present to Members the draft Annual Treasury Management Report 2018/19 for approval.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2018/19 nad oedd, yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Archwilio a'r Cabinet, wedi codi unrhyw faterion penodol. Tynnodd sylw at y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad a gadarnhaodd fod y swyddogaeth Rheoli Trysorlys wedi gweithredu o fewn y cyfyngiadau a nodwyd yn y Strategaeth ar gyfer y cyfnod. Hefyd cyflwynwyd yr Adroddiad Canol Blwyddyn ar gyfer 2018/19, wedi iddo gael ei argymell gan y Cabinet ar gyfer ei gymeradwyo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a allai’r cyfanswm o incwm a ddeilliai o fuddsoddiadau gael ei ystyried fel trydydd rheswm ar gyfer buddsoddiad (a nodir yn adran 2.02) a allai wneud gwahaniaeth yn ystod y cyfnod o galedi.

 

Wrth ymateb dywedodd y Prif Weithredwr y gallai’r geiriad egluro mai’r nod oedd i greu incwm o gronfeydd o arian dros ben cyn belled â bod y ddau brif egwyddor yn cael eu diwallu.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) at ganllawiau buddsoddi Llywodraeth Cymru a oedd yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch a hylifedd, gydag arenillion yn dilyn hynny.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Peers, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod Strategaeth Rheoli’r Trysorlys yn nodi’r amrediad o ystyriaethau y tu ôl i fuddsoddiadau, gan nodi fod buddsoddiadau cronfeydd pensiwn ar wahân i rai’r Cyngor.Mewn llywodraeth leol, mae’r ymagwedd tuag at fenthyca yn golygu fod dyled heb ei thalu yn angenrheidiol i dalu am fuddsoddiadau ac asedau dros amser.  Roedd ad-dalu’r ddyled dros y tymor hirach yn cael ei ariannu drwy’r Isafswm Darpariaeth Refeniw oedd yn cynnwys Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai.Fel pwynt o gywirdeb, eglurwyd fod y ddau fenthyciad a nodir yn adran 3.03 yr Adroddiad Blynyddol wedi eu cymryd allan ar 6 Rhagfyr 2018.

 

Mewn ymateb i gwestiynau eraill eglurodd y Prif Gyfrifydd fod y benthyciad ar gyfer NEW Homes, is-gwmni y mae’r Cyngor yn berchennog llawn arno, wedi ei gymryd allan dros gyfnod o 45 mlynedd gydag ychydig wedi ei ychwanegu at y gyfradd ad-dalu dros ac uwch na’r cyfanswm a fenthycwyd.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Mackie y gwahaniaeth rhwng ffigyrau ar weithgaredd benthyca a dywedwyd wrtho fod tabl yn yr adroddiad blynyddol yn cynnwys eitemau eraill fel y portffolio dyled tymor byr.

 

Wrth drafod yr argymhellion dywedodd y Cynghorydd Banks fod yr adroddiad yn dangos y cyfnod heriol ac amodau’r farchnad.Diolchodd i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm a thalodd deyrnged i gyfraniadau ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys a’r Pwyllgor Archwilio yn ystod y broses.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio eiliodd y Cynghorydd Chris Dolphin y cynnig.O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2018/19 ac Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2018/19 yn cael eu cymeradwyo.

Awdur yr adroddiad: Richard Lloyd-Bithell

Dyddiad cyhoeddi: 06/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/10/2019 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: