Manylion y penderfyniad

Annual Performance Report 2018/19

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To adopt the Annual Performance Report 2018/19.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ardystio Adroddiad Gwella Perfformiad 2018/19 er mwyn ei gyhoeddi cyn y dyddiad cau.Adroddiad statudol oedd hwn yn darparu trosolwg ôl-weithredol o berfformiad yn erbyn y blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor 2018/19 ac asesiad o amcanion y Cyngor yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Rhoddodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol gyflwyniad yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Fformat a chynnwys

·         Trosolwg o Berfformiad 2018/19

·         Trosolwg o Gynnydd

·         Uchafbwyntiau

·         Meysydd i’w Gwella

·         Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

·         Trosolwg o Berfformiad

·         Trosolwg o’r Grynodeb

·         Y Camau Nesaf

 

Ymhlith yr amrediad o lwyddiannau o dan bob thema roedd rhaglen adeiladu tai y Cyngor; cydnabyddiaeth genedlaethol i’r prosiect Cynnydd i Ddarparwr , cyfraddau ailgylchu gwastraff uchel a llwyddiannau arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd.Roedd meysydd a nodwyd ar gyfer gwelliant yn cael eu hymgorffori i Gynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 gan gynnwys gostwng y nifer o ddyddiau i gwblhau Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ac mae cynnydd eisoes yn cael ei wneud ar hyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r gostyngiad bach mewn perfformiad yn erbyn y safle cenedlaethol yn parhau i gael ei fonitro ac y dylai'r gefnogaeth gref gan y tri chorff rheoleiddio statudol ers amseru'r adroddiad ddarparu sicrwydd.Siaradodd am newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol a oedd yn darparu ar gyfer mwy o hyblygrwydd mewn adrodd am berfformiad ac atgoffodd Aelodau y dylai materion cylchol o ddiddordeb penodol yng Nghynllun y Cyngor gael eu cyflwyno i Rhaglenni Gwaith i'r Dyfodol Trosolwg a Chraffu.

 

O ran y llwyddiannau yn Nhreffynnon, siaradodd y Cynghorydd Palmer am y cydweithio cadarnhaol gyda busnesau yn ymwneud ag ail agor y Stryd Fawr a llwyddiannau Canolfan Hamdden Treffynnon a diolchodd i’r Cynghorydd Tudor Jones am hynny.

 

Cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) i ddarparu ymateb ar wahân i gwestiwn y Cynghorydd Carver ar y nifer o landlordiaid / asiantaethau gosod tai nad oeddent yn cydymffurfio gyda rheoliadau Rhentu Doeth Cymru.Cytunodd i siarad ag ef y tu allan i’r cyfarfod yn ymwneud â phryderon yngl?n â Th? Amlfeddiannaeth a dywedodd mai prif flaenoriaeth y tîm Iechyd Amgylcheddol oedd i orfodi deddfwriaeth amodau tai a chynllunio i sicrhau amodau byw digonol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis eglurwyd fod y meysydd ar gyfer gwelliant yn ymwneud â pherfformiad ac y byddai ardaloedd risg uchel yn parhau i gael eu monitro.Fe allai peth risg barhau yn ymwneud â darpariaeth gofal preswyl yn dilyn cwblhau’r gwaith ar Marleyfield House, yn dibynnu ar lefelau’r galw. Roedd oedi wrth drosglwyddo gofal yn risg oedd yn parhau ac roedd yn annhebygol o wella i Wyrdd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a ddylid gostwng y statws risg ar lefelau dyledion o ganlyniad i Gredyd Cynhwysol yng ngoleuni’r sylwadau. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y dylai hwn barhau yn risg Coch i ganiatáu amser i fesurau lliniaru gael effaith ac y dylid parhau i’w adolygu. O ran buddsoddiad seilwaith gofynnodd y Cynghorydd Jones sut roedd Cynllun Glannau Dyfrdwy yn effeithio ar y strategaeth gludiant ar gyfer Sir y Fflint.Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod cwmpas cychwynnol Cynllun Glannau Dyfrdwy wedi ei ehangu i ddod yn Strategaeth Gludiant Integredig Sir y Fflint sy'n cysylltu'r holl fodelau cludiant ar draws y Sir.Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ym mis Rhagfyr.

 

Wrth ganmol yr adroddiad fe dalodd y Cynghorydd Tudor Jones deyrnged i ymagwedd y Cyngor wrth fynd i’r afael â digartrefedd a gofynnodd am gyfranogiad yr Aelodau Lleol.Siaradodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) am waith y Gweithiwr Estyn Allan ymroddedig a oedd yn ymgysylltu gyda phobl ddigartref ar draws Sir y Fflint.Dywedodd y dylid cydnabod mai dewis yr unigolion oedd p’run ai i dderbyn y cymorth hwnnw ac y byddai ymdrechion i ymgysylltu yn parhau.Cafodd Aelodau eu hannog i lawrlwytho’r ap ‘Streetlink’ i’w ffonau symudol i geisio adnabod unigolion oedd yn cysgu allan a chynorthwyo gyda thargedu adnoddau yn unol â hynny. Gofynnodd y Cadeirydd am i fanylion yr ap gael eu rhannu gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson fod meysydd ar gyfer gwella yn anochel a thalodd deyrnged i’r gweithlu am eu cyfraniadau ar berfformiad.

 

Wrth groesawu’r adroddiad dywedodd y Cynghorydd Peers y dylai’r risg o ran y cyflenwad tai fforddiadwy ymgorffori darpariaeth sector preifat drwy’r broses gynllunio. Gofynnodd am i ddata (a gaiff ei ddangos yn ddiweddarach yn yr adroddiad) fod gyda’r siartiau yn dangos perfformiad yn erbyn Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus.Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai dolen yn cael ei hychwanegu i'r ddogfen sydd wedi ei chyhoeddi.Mewn ymateb i gwestiynau pellach, byddai’r risg i gyfraddau casglu Treth y Cyngor yn parhau yn bwysau yn arbennig o ganlyniad i newidiadau i bwerau cyfreithiol. O ran y rhaglen goleuadau stryd newydd, dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod yna oleuadau LED wedi eu gosod yn lle nifer helaeth ohonynt ar hyn o bryd, gan sicrhau arbedion sylweddol ar gostau ynni ac atgyweirio.  Byddai adroddiad ar y polisi newydd yn cael ei rannu gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd.

 

Canmolodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y Cyngor a’r swyddogion am y llwyddiannau er gwaetha'r toriadau ariannol parhaus a’r arbedion effeithlonrwydd ac fe amlygodd y gwelliannau oedd wedi eu gwneud i’r priffyrdd gydag arian gan Lywodraeth Cymru.

 

Wrth drafod yr argymhelliad yn yr adroddiad dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod rhai o’r meysydd a nodwyd ar gyfer gwella yn heriol o ganlyniad i ffactorau allanol.Canmolodd y nod o wella cyfraddau ailgylchu ymhellach, maes lle roedd Sir y Fflint eisoes yn perfformio’n uchel a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i aelodau’r cyhoedd oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg diweddar.Dywedodd wrth gydnabod yr angen i wella perfformiad o ran y Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, fod y polisi diwygiedig wedi ei gytuno gan y Cabinet yn gynharach yn y diwrnod. Diolchodd i’r swyddog a’i thîm am yr adroddiad a chefnogodd y sylwadau a wnaed ar gyfraniadau gweithwyr.

 

Eiliodd y Cynghorydd Mullin y cynnig.O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19 yn cael ei gymeradwyo fel yr argymhellwyd gan y Cabinet, gan gynnwys dolen i’r grynodeb data perfformiad.

Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong

Dyddiad cyhoeddi: 06/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/10/2019 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: