Manylion y penderfyniad

Pooling Investments in Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Mr Latham ar yr eitem hon ar yr agenda oedd yn cynnwys pedair prif adran; buddsoddi cyfrifol, benthyg stoc, canllawiau statudol a diweddariad cyffredinol ar gyfuno:

 

·         Buddsoddi cyfrifol – ar hyn o bryd mae polisi cynaliadwyedd gan y Gronfa o fewn yr ISS. Mae sesiwn hyfforddi ar gyfer y Pwyllgor ar 20 Mawrth i drafod beth mae’r Gronfa yn ei wneud ar hyn o bryd o ran buddsoddi cyfrifol a hefyd pa arferion gorau oedd yn y maes hwn. Bydd hefyd yn cynnwys sesiwn ar beth mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ei wneud yn y maes hwn.

 

Cyfeiriodd Mr Latham y Pwyllgor at dudalen 117 a nododd y disgwylir mwy o ganllawiau ar lefel genedlaethol gan y SAB ar fuddsoddi cyfrifol. Y prif bwrpas yw darparu canllawiau ar beth ddylai’r cronfeydd fod yn ei wneud gan y dylent allu darparu polisïau buddsoddi cyfrifol yr holl gronfeydd. Gall hyn fod yn anodd gan y gallai pob cronfa fod a’i bolisi ei hun a gallant fod yn dra gwahanol.

 

Mae’r Bartneriaeth yn datblygu polisi buddsoddi cyfrifol i'r Gronfa sy'n cael ei ddrafftio gyda Hymans fel yr ymgynghorydd. Mae Hymans wedi cynhyrchu holiadur i gasglu credoau buddsoddi'r Gronfa o fewn y gronfa ar fuddsoddi cyfrifol. Mae Hymans eisiau cael dau ymateb, un o safbwynt swyddogion ac un gan Gadeirydd y Pwyllgor yn seiliedig ar farn y Pwyllgor.

Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai’n well ganddo petai’r Swyddogion yn ymateb erbyn y dyddiad cau gan eu bod yn deall buddsoddi cyfrifol yn well, fodd bynnag awgrymodd y dylai’r Pwyllgor ymateb ar ôl sesiwn hyfforddi 20 Mawrth pan fydd ganddynt well dealltwriaeth. Roedd Mr Everett a’r Pwyllgor yn cytuno gyda’r cynnig hwn.

 

·         Benthyg Stoc  - Trafododd Mr Latham yr argymhelliad i ganiatáu’r Bartneriaeth i gymryd rhan mewn benthyg stoc. Mae’n rhaid i’r wyth cronfa o fewn y Bartneriaeth gytuno iddo neu ni fydd modd ei symud ymlaen. Mae chwech o'r cronfeydd eisoes wedi bod drwy eu Pwyllgorau, sydd wedi cytuno i’w ganiatáu. Mae gan y cronfeydd eraill lawer o ecwiti a bydd benthyg stoc felly yn cael mwy o effaith. Mae hyn yn fach ei effaith ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd gan mai dim ond dyraniad 4% sydd ganddynt o ran ecwitïau byd-eang, sy’n golygu mai’r incwm disgwyliedig fydd £25,000 y flwyddyn o fenthyg stoc.

 

Dywedodd Mr Latham wrth y pwyllgor mai benthyg stoc yw pan fydd buddsoddwr yn benthyg stoc i drydydd parti fel eu bod yn cael perchnogaeth dros gyfnod o amser ac am hynny maent yn talu ffi i’r rhoddwr benthyciadau.  Mae’r rhoddwr benthyciadau yn derbyn sicrwydd cyfochrog pe bai'r rhoddwr benthyciadau yn methu.  Yn gyffredinol bydd y Bartneriaeth yn cael tua £1 miliwn o ran incwm. Fodd bynnag, mae'r buddsoddwr yn colli eu hawliau pleidleisio. I liniaru hyn yn rhannol gall y Bartneriaeth ddal 5% o gyfranddaliadau yn ôl ym mhob stoc er mwyn cadw’r bleidlais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mullin a oes unrhyw risgiau gwirioneddol i'r Pwyllgor boeni yn eu cylch. Dywedodd Mr Latham bod rhai risgiau mewn amgylchiadau eithriadol.  Er enghraifft yn ystod argyfwng ariannol neu ddigwyddiadau hynod gan ei fod yn anodd adennill y stoc yn gyflym. Fodd bynnag, ni wnaeth y rheiny a ddewisodd alw’r stoc yn ôl weld llawer o golledion. Cadarnhaodd Mr Latham nad yw’n ymwybodol o broblemau gwirioneddol eraill gyda benthyg stoc.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman beth fyddai'r sicrwydd cyfochrog. Cadarnhaodd Mr Latham mai asedau arian parod neu asedau incwm sefydlog yw’r rhain fel arfer, sy’n cael eu talu os ydynt yn methu rhoi'r stoc yn ôl.

 

Gofynnodd Mr Hibbert a fyddai hyn yn fach ei effaith ar gyfer y Gronfa. Mynegodd Mr Hibbert bryderon am yr amrywiadau posib mewn asedau oherwydd bod buddsoddwyr yn symud stociau ar bwrpas drwy fenthyg stoc, a allai gostio mwy na’r budd posib o £25,000 o gymryd rhan mewn benthyg stoc o fewn y gronfa. Cytunodd y gellid cael enillion cadarnhaol yn yr hir dymor ond mynegodd bryderon am yr effaith ar y Gronfa yn y tymor byr - canolig. Amlygodd Mr Latham nad oes unrhyw dystiolaeth y byddai cymryd rhan yn gyrru gwerth stociau i lawr.

 

Cytunodd Mr Harkin gyda’r ddau bwynt a nododd y dylai fod gan y gronfa bolisi ysgrifenedig ar sut bydd benthyg stoc yn gweithio i leihau'r posibilrwydd o'r hyn a nododd Mr Hibbert.

 

·         Ymgynghori anffurfiol ar ganllawiau statudol – cadarnhaodd Mr Latham bod ymateb wedi ei ddrafftio i’r ymgynghoriad, gan ystyried barn ymgynghorwyr a Mr Everett. Y dôn gyffredinol yw bod y Pwyllgor yn cytuno gyda chyfuno ac yr hoffent elwa o’r buddion ond efallai nad cyfuno yw’r ateb bob amser. Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 28 Mawrth 2019 ond gofynnodd Mr Latham i’r Pwyllgor gytuno i ymateb yr ymgynghoriad yn y cyfarfod heddiw.

 

·         Diweddariad cyffredinol ar y Bartneriaeth – Cadarnhaodd Mr Latham eu bod bellach wedi trawsnewid yr asedau byd-eang i’r gronfa a gallant bellach fesur y gost neu arbediad o ddefnyddio hwn gan ddefnyddio ffigyrau gan y rheolwr trawsnewid. Nododd Mr Latham bod y cyfarfod JGC diwethaf wedi ei ohirio oherwydd tywydd garw a bydd y cyfarfod nesaf ar 27 Mawrth 2019. Felly, ni fydd yr argymhelliad incwm sefydlog yn cael ei gynnwys nes cyfarfod mis Mehefin bellach. Bydd y trawsnewid bellach ar ôl Mehefin 2019.

 

·         Amlygodd Mrs McWilliam y bydd angen i’r Gronfa sicrhau bod adrodd priodol yn cael ei dderbyn o’r gronfa o ran unrhyw asedau sy’n cael eu trawsnewid ac mae’n bwysig bod hyn yn darparu’r lefel o fanylion sydd ei angen ar y swyddogion a’r Pwyllgor, yr hyn maent wedi arfer ei dderbyn ar hyn o bryd gan JLT.

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad ac yn trafod y cynnydd sy’n cael ei wneud gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

(b)  Cytunodd y Pwyllgor y gall y Bartneriaeth gymryd rhan mewn Benthyg Stoc wedi pleidlais lle'r oedd pump o saith aelod yn cytuno gyda'r argymhelliad.  Hefyd penderfynwyd y byddai pryderon y Pwyllgor yn cael eu hadrodd yn ôl at y Bartneriaeth gyda’r gofyniad y dylid monitro benthyg stoc yn ofalus. 

 

(c)  Trafododd y Pwyllgor yr ymateb i’r ymgynghoriad anffurfiol a dirprwywyd newidiadau a gytunwyd arnynt i Reolwr Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 01/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: