Manylion y penderfyniad

Mold to Broughton Cycleway

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To seek recommendation to Cabinet for the submission of funding bids to construct the cycleway linking from Mold to Broughton under the Welsh Government Active Travel funding.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn ceisio argymhelliad i’r Cabinet i gyflwyno cynllun llwybr beicio'r Wyddgrug i Frychdyn ar gyfer cyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.   Yn ystod yr ymgynghoriad statudol, roedd y llwybr cyswllt wedi’i nodi fel coridor strategol allweddol ar Fap Rhwydwaith Integredig y Cyngor a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.   Roedd y cyllid a gafwyd yn 2018/19 wedi galluogi’r Cyngor i gomisiynu gwaith ar werthusiad o ddewisiadau llwybr a gwblhawyd yn awr, ac roedd dyluniad manwl y cynllun bron â’i orffen.

 

Roedd y cynllun yn rhan o Strategaeth Trafnidiaeth Integredig y Cyngor - a oedd yn ceisio hwyluso integreiddio'r holl ddulliau o deithio (cerdded, beicio, bws a rheilffordd) i wella mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau hanfodol.   Byddai diweddariad ar y Strategaeth yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf.   Roedd cyhoeddiadau diweddar ar gyllid grant trafnidiaeth lleol LlC yn cynnwys £5.4m ar gyfer Sir y Fflint (un o’r setliadau uchaf yng Nghymru) i’w fuddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth lleol ynghyd â darparu buddion hir dymor a chyfleoedd cyflogaeth.

 

 Eglurodd y Rheolwr Cludiant mai nod y cynllun llwybr beicio oedd cysylltu cymunedau'r Wyddgrug, Bwcle, Penyffordd, Brychdyn, Saltney a Sandycroft wrth ddarparu cysylltiadau i orsafoedd rheilffordd presennol Bwcle a Phenyffordd i ddarparu mynediad cynaliadwy at brif safleoedd cyflogaeth.

 

Darparodd y Swyddog Polisi Priffyrdd drosolwg o’r llwybr beicio arfaethedig gan gynnwys y dewisiadau sydd ar gael a'r datrysiadau rheoli traffig lle bo'n briodol.   Roedd y llwybr hefyd yn darparu cyswllt da gyda Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a rheilffordd Wrecsam – Bidston.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y gwnaed cynnydd da i gwblhau llwybr beicio Saltney a oedd yn un o'r cysylltiadau ar y llwybr.   Byddai rhannu manylion y llwybr yn gymorth i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun arloesol i gysylltu cymunedau a darparu datrysiad cludiant cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Wrth drafod llwyddiant y Cyngor i sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau o dan Deithio Llesol a Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau, canmolodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y swyddogion a nodi y gallai’r llwybr beicio fod yn gynllun blaenllaw ar gyfer y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton o blaid y cynllun a fyddai o fudd i’r nifer cynyddol o feicwyr.   Croesawodd y cysylltiadau gyda rheilffordd Wrecsam - Bidston a nododd bod y Prif Swyddog yn aelod o'r gr?p llywio hwnnw.   O ran cyllid, eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod y cyllid ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb wedi’i dderbyn a gellir defnyddio rhywfaint o'r cyllid eleni ar gyfer darnau o'r llwybr.   Byddai ceisiadau pellach yn cael eu cyflwyno ar ôl cwblhau’r dyluniad manwl.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Chris Dolphin y ddau Brif Swyddog ar y cynnydd a wnaed hyd yma.   Tynnodd sylw at bwysigrwydd cysylltedd gyda phentrefi gwledig, er enghraifft Gorsedd i Bantasaph.   Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod cyllid grant yn amodol ar feini prawf.   Wrth gydnabod anghenion cymunedau gwledig, eglurodd bod ffrydiau cyllid gwahanol yn cael eu harchwilio i ddarparu cysylltiadau bws i ardaloedd gwledig.

 

Croesawodd y Cynghorwyr Joe Johnson a Bob Connah y dewisiadau i fynd i'r afael â phryderon diogelwch yn Sandycroft.   Eglurodd y Cynghorydd Connah bod y darn rhwng y Bridge Inn a'r gylchfan ger ffatri'r A380 yn fater penodol sydd angen ei ystyried yn ofalus.   Eglurodd Swyddog Polisi Priffyrdd bod dewisiadau ar gyfer cyfleuster oddi ar y ffordd yn cael ei drafod ac fod y darn yma yn un o'r ardaloedd lle nad oedd modd osgoi trafodaethau perchnogaeth tir.

 

Ar ran Fforwm Mynediad Lleol ar y  Cyd Sir y Fflint a Wrecsam, gofynnodd y Cynghorydd David Evans bod cyfleoedd ar gyfer llwybrau ceffyl yn cael eu hystyried lle bo modd.   Nododd hefyd bod y gylchfan dros yr A55 rhwng Penyffordd a Brychdyn yn ardal broblemus a gofynnodd am y posibilrwydd o ddarparu pont droed i gerddwyr/.   Yn absenoldeb cysylltiad rhwng Saltney Ferry a Sandycroft, eglurodd Swyddog Polisi Priffyrdd er nad oedd yn rhan o’r cynllun llwybr beicio, roedd wedi’i gynnwys ar Fap Rhwydwaith Integredig fel rhan o gynllun 15 mlynedd y Cyngor ar gyfer yr ardal ehangach.   Byddai cyfleoedd yn y dyfodol i ymgeisio am gyllid i ddod â’r llwybrau hynny i ddefnydd.   Cytunodd y swyddogion y byddent yn ystyried y potensial ar gyfer llwybr troed / llwybr beicio ar River Lane.   Wrth drafod llwybrau ceffyl, siaradodd y swyddog am gyfyngiadau megis perchnogaeth tir ac arwyneb.

 

Siaradodd y Cynghorydd Haydn Bateman o blaid argymell y cynllun, yn enwedig llwybr A5118. Mewn ymateb i geisiadau am ragor o wybodaeth ar ardaloedd penodol, nododd Swyddog Polisi Priffyrdd y byddai’r dyluniad manwl yn unol â chanllaw dylunio Teithio Llesol a byddai’n cael ei rannu gyda'r Pwyllgor ar ôl ei gwblhau.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad, siaradodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin am y cysylltiadau gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ynghyd â'r amgylchedd a newid hinsawdd.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Chris Bithell bod mwy o alw am lwybrau beicio ar draws y Sir drwy ddull graddol.   Croesawodd ymdrechion y swyddogion i oresgyn problemau i gyflawni cynllun creadigol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Owen Thomas bryderon am ffordd B5129 Sandycroft i Airbus a nododd y gellir cynnwys y llwybr troed ar hyd yr afon yn y llwybr.

 

Croesawodd y Cynghorydd Derek Butler y mentrau sy'n cynorthwyo i oresgyn y rhwystrau sy'n atal cyflogaeth a chynyddu cyfleoedd cymudo gyda chysylltiadau rheilffordd.   Cyfeiriodd at y problemau sy'n deillio o lwybrau amlddefnydd a'r angen ar gyfer addysg a pherswâd.

 

Nododd y Cynghorydd Mike Allport nad oes cyswllt diogel rhwng Higher Kinnerton a ffatri Airbus, sef y prif gyflogwr agosaf.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Evans, cytunodd y swyddog y byddai’n gwirio’r ddolen i wefan Teithio Llesol a oedd yn cynnwys dolenni at ddogfennau a chanllawiau dylunio.   Roedd y terfynau amser ar  y Map Rhwydwaith Integredig yn uchelgeisiol gan fod angen eu cyflwyno bob tair blynedd i ystyried cysylltiadau pellach.   Byddai’r cynllun yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2020 gyda chyllid LlC ar gael o fis Ebrill, yn cael ei ddarparu fesul tipyn o bosib.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Evans a'u heilio gan y Cynghorydd Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynigion yn yr astudiaeth ac yn nodi'r cyfle i ddarparu cynllun cyffrous ac arloesol; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell cyflwyno Cynllun Beicio’r Wyddgrug i Frychdyn fel cais strategol y Cyngor  o dan gyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 07/08/2019

Dyddiad y penderfyniad: 21/05/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: