Manylion y penderfyniad

Officers Code of Conduct

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) a eglurodd bod y ddogfen yn cael ei hadolygu gan y Pwyllgor Safonau am yr un rhesymau â’r Cod Ymarfer Cynllunio.   Roedd y prif adolygiad yn ymwneud â’r ffordd y caiff cysylltiadau eu datgan a'r angen i ddarparu cyfres gyson o ffurflenni a chanllawiau i swyddogion.   Edrychodd yr adolygiad ar ffyrdd ymarferol o ymdrin â gwrthdaro.  Roedd y ddogfen hon wedi cael ei rhoi i’r Pwyllgor Safonau a’r undebau a oedd yn gefnogol i’r ffurflen newydd a’r canllawiau.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Bithell bod hwn yn adroddiad defnyddiol ac yna darparodd senario lle’r oedd swyddog cynllunio yn gweithio’n breifat y tu allan i’r cyngor yn creu cynlluniau ac ati ar gyfer cais cynllunio a gofynnodd sut y byddai'r gwrthdaro hwn yn cael ei nodi?   Cyfeiriodd wedyn at Ddatgan Cysylltiadau Aelodau ac awgrymodd y dylid atgoffa Aelodau i wirio eu ffurflenni a'u diweddaru yn ôl yr angen. Cyfeiriodd hefyd at y rhodd o £10 yr anogir Aelodau i’w gyfrannu at elusen y Cadeirydd a gofynnodd a oedd y rhoddion hynny’n cael eu cofnodi.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Heesom bod hwn yn adroddiad defnyddiol a chyfeiriodd at gwestiwn a oedd yn arfer bod ar y ffurflen yn gofyn i aelod a oedd yn aelod o gymdeithas neu borthdy a gofynnodd a oedd datganiad tebyg ar gyfer Swyddogion y Cyngor.

 

            Mewn ymateb i hyn cyfeiriodd y Prif Swyddog at gwestiwn y Cynghorydd Bithell a dywedodd y byddai’n amhriodol i swyddog cynllunio greu cynlluniau a fyddai’n cael eu cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo yn enwedig os yw’r swyddog hwnnw yn gysylltiedig â’r broses gymeradwyo, byddai hynny’n amlwg yn gwrthdaro. Pe bai pensaer sy’n gweithio i’r Cyngor yn creu cynlluniau ni fyddai hynny’n achosi gwrthdaro.Yn yr un modd gallai swyddogion trwyddedu neu gyfreithwyr ddod yn rhan o wrthdaro uniongyrchol.  O ran ail-gylchredeg Datganiadau Cysylltiadau Aelodau, cytunodd y gellid anfon nodyn atgoffa at bob Aelod

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog wedyn at roddion a dderbyniwyd gan weithwyr a bod y rhain gan gynnwys rhoddion o werth tybiannol yn cael eu cofnodi fel ‘gwrthodwyd’ neu ‘derbyniwyd a rhoddwyd i elusen y Cadeirydd’ er mwyn darparu trywydd archwilio.    O ran aelodaeth o sefydliadau allanol, roedd gofyn i uwch swyddogion neu deiliaid swyddi a gyfyngir yn wleidyddol i gofrestru eu cysylltiadau ond cofrestr wirfoddol oedd hon, nid un orfodol, oherwydd hawliau preifatrwydd o dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Roedd yn orfodol fodd bynnag i ddatgan cysylltiad pe bai modd profi bod gwrthdaro yn bodoli. Roedd deddfwriaeth yn ei gwneud yn orfodol i swyddogion wneud hynny a oedd yn wahanol i’r un a ddilynir gan Aelodau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks a oedd hyn wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod hynny wedi digwydd ym mis Ionawr a'u bod wedi ei gymeradwyo cyn belled a bo’r undebau yn cefnogi hynny. Roedd y newidiadau wedi cael eu cefnogi gan yr Undebau ym mis Mawrth er mwyn gallu rhoi’r adroddiad i’r Pwyllgor hwn

 

            Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Aelodau at y wefan lle roedd fersiwn electronig o ffurflen ddatgan Cynghorwyr a gallai Aelodau ei gweld a gwneud cais am ddiweddariad. Cytunwyd y dylid anfon nodyn atgoffa gydag ymateb gofynnol “oes mae angen i mi ddiweddaru’r ffurflen” neu “na mae’r ffurflen yn gywir”

           

            PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r canllawiau esboniadol yng Nghod Ymddygiad y Swyddogion

 

Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Governance) (Tracey Cunnew)

Dyddiad cyhoeddi: 24/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 11/04/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/04/2019 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: