Manylion y penderfyniad

Digital Strategy Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update Members on progress to define and deliver the Digital Strategy, with a summary of discussion in the recent Digital Strategy workshop with Members.

Penderfyniadau:

                        Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd i ddiffinio a chyflawni’r Strategaeth Ddigidol gyda chrynodeb o drafodaeth yn y gweithdy Strategaeth Ddigidol diweddar gydag Aelodau.    Cyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ac eglurodd er mwyn sicrhau bod y safonau yn gyson yn y modd yr oedd prosiectau’n cael eu dylunio a gwasanaethau’n cael eu moderneiddio, cytunwyd ar nifer o egwyddorion cynllunio.  Byddai pob prosiect yn cael ei werthuso yn ystod cam cynllunio i sicrhau y byddent yn helpu’r Awdurdod i symud ymlaen yn gyson yn erbyn yr egwyddorion craidd a fanylwyd yn yr adroddiad. 

 

                        Dywedodd y Prif Weithredwr, wrth weithio gyda’r portffolios, roedd y Rheolwr Rhaglen Cwsmer Digidol hefyd yn creu cynllun rhaglen ddigidol gyfunol fel y llinell sylfaen ar gyfer darparu; gan gyfuno nifer o gynlluniau oedd gynt yn annibynnol.  Roedd y rhaglen ddigidol hon yn cynnwys y gwaith hanfodol oedd angen adnoddau cyn y gall yr Awdurdod ystyried gwneud dewisiadau pellach o ran blaenoriaethau.  Roedd fframwaith llywodraethu hefyd wedi’i ddatblygu a ddefnyddir i reoli ceisiadau a gyflwynwyd ar gyfer newidiadau i’r rhaglen.  Fel y trafodwyd yn y briffio gydag Aelodau ar 16 Ionawr, byddai’r rhaglen a’r fframwaith yn trosi i ystod o alluoedd penodol fyddai’n caniatáu i gwsmeriaid gael mynediad i ystod cynyddol o wasanaethau a gwybodaeth ar-lein.

 

 Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones i ystyriaeth gael ei rhoi i gwsmeriaid h?n ac agored i niwed nad oedd ganddynt fynediad i wasanaethau ar-lein neu heb y sgiliau neu hyder i ddefnyddio’r hunanwasanaeth ar-lein.   Mynegodd bryderon oherwydd y cynnydd yn y tueddiad o ddarparu gwasanaethau ar-lein, gall pobl gael eu heithrio neu eu bywydau’n anodd os ydynt yn cael problemau yn defnyddio gwasanaethau ar-lein yn y dyfodol.  Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd y byddai mynediad dros y ffôn a wyneb i wyneb yn parhau i gwsmeriaid a chytunodd i archwilio’r opsiynau ar gyfer ymweliadau â’r cartref mewn amgylchiadau personol eithriadol.

 

Cynigiodd y Prif Weithredwr weithdy rhyngweithiol i Aelodau ar y porthol gwybodaeth ar ward Aelodau, pan ar gael, a groesawyd gan y Pwyllgor.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid rhoi ystyriaeth i ddarparu ystod o gyfeiriadau cyswllt e-bost cyffredinol ar gyfer gwasanaethau’r Awdurdod ar y we fel na fyddai cwsmeriaid angen chwilio am gyfeiriadau e-bost swyddogion unigol ar gyfer cysylltu.  

 

Yn ystod trafodaeth, ymatebodd y Prif Weithredwr i’r cwestiynau pellach gan Aelodau ar y cynnig i gasglu llofnodion electronig yn defnyddio dyfeisiau symudol i allu cwblhau gwasanaethau ar y pwynt cyswllt cyntaf, a chyflwyno egwyddorion meistroli data i gynnig gwell hyblygrwydd i ddylunio prosesau busnes ar draws portffolios a phartneriaid. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y prif bwyntiau oedd yn codi o’r briffio mis Ionawr i Aelodau Etholedig ar ddatblygu swyddogaeth ar-lein i gwsmeriaid yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod yr egwyddorion cynllunio a’r rhaglen ar gyfer darparu’r Strategaeth Ddigidol yn cael eu cymeradwyo.

Awdur yr adroddiad: Cher Lewney

Dyddiad cyhoeddi: 25/06/2019

Dyddiad y penderfyniad: 18/03/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol

Accompanying Documents: