Manylion y penderfyniad

Webcasting Provision

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

                        Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a darparu cefndir i'r Pwyllgor ar gyllid ar gyfer darpariaeth gweddarlledu, gyda cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a'r Cyngor Llawn yn cael eu nodi ar gyfer gweddarlledu.   

 

                        Cyfeiriwyd y pwyllgor at dudalen 15 a oedd yn amlinellu’r ffigyrau gwylio.   Roedd yr aelodau’n gallu rhoi cyswllt ar eu blogiau i weddarllediadau y Cyngor Sir neu ‘r Pwyllgor Cynllunio.   Yna aeth y Swyddog ymlaen i egluro’r trefniadau cyllid.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Clive Carver at y ffigyrau gwylio a oedd yn galonogol ac at y datganiad ar dudalen 4 gan Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod gweddarlledu wedi gwella mynediad at fusnes y Cyngor.   Roedd archifo’r gweddarllediadau am gyfnod amhenodol yn ddefnyddiol iawn ond gofynnwyd am eglurhad ar y 60 awr o gynnwys wedi'i gynnal.   Cefnogodd hyn fel modd o “fuddsoddi i arbed” yn y dyfodol ac awgrymu bod y cyngor yn cytuno i 5 mlynedd.    Mewn ymateb eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd bod y 60 awr o gynnwys wedi’i gynnal yn cyfeirio at ddarllediadau o fewn blwyddyn ac nid oeddent yn cyfeirio at gynnal yr archif.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Carver at y cynnig bod cyfarfod cyllideb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei weddarlledu, a gobeithir y byddai hyn yn digwydd.    Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai'r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Siambr y Cyngor.   Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y dylai cyfarfodydd cyllideb pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill gael eu darlledu hefyd, gan ei fod yn sicr y byddai diddordeb gan y cyhoedd yn hyn.   Roedd yn credu pe na bai cyllid Llywodraeth Cymru yn parhau gallai hyn roi pwysau ar y gyllideb a cheisiodd sicrwydd o ran sut byddai’r pwysau’n cael ei ariannu a gofyn a ddylai'r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor Sir.  

 

            Nododd y Cynghorydd Heesom bod peidio â chael cofnod ysgrifenedig gyda Chynllunio yn anodd pan fo ceisiadau’n mynd i apêl.   Roedd yn ei gefnogi ond ychwanegodd na ellir hepgor cofnod ysgrifenedig.     Mewn ymateb nododd y Prif Swyddog bod ansawdd y cofnodwyr yn rhagorol ond roedd recordio yn well mewn sawl achos gan ei fod yn rhoi mwy o wybodaeth gan na ellir nodi popeth o’r cyfarfod yn y cofnodion.   

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks a oedd Llywodraeth Cymru yn nodi bod hwn yn wasanaeth gorfodol ac os mai dyma’r achos a fyddai cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer hyn.   Cadarnhawyd bod Sir y Fflint yn cydweithio gyda’n pum cymydog i gael yr un gwasanaeth gan yr un darparwr.

 

            Holodd y Cynghorydd Banks a ellir tynnu mwy o sylw at weddarlledu ar y wefan i gynorthwyo’r cyhoedd i’w ganfod ac roedd yn teimlo y byddai'n well cyflawni cytundeb 5 mlynedd.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y ddolen ar y dudalen flaen o dan Cyngor a Democratiaeth ond y gellir ystyried hyn fel rhan o'r gwaith o fewn y strategaeth ddigidol.

           

            PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi parhad y ddarpariaeth gweddarlledu, gyda hyd contract o 5 mlynedd.  

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 30/04/2019

Dyddiad y penderfyniad: 29/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/11/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: