Manylion y penderfyniad

The Review of Garden Waste Charges in Flintshire

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review and receive an update following the introduction of charges for Garden Waste collection services.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y Swyddog Ailgylchu a Gorfodi i'r Pwyllgor.  Cyflwynodd yr adroddiad oedd yn alinio model gwastraff ac ailgylchu'r Cyngor gyda Glasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru.  Cafodd hwn ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Ionawr ac roedd cofrestriadau ar gyfer y gwasanaeth yma'n well na'r disgwyl ar 40% a chynigwyd cadw’r ffi'r un fath ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dywedodd bod 30% o’r rheiny oedd yn derbyn y gwasanaeth ar fudd-daliadau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at faint y biniau ac roedd yn teimlo nad oeddynt yn ddigon mawr ac y dylai ail fin fod am ddim a chynigiodd roi hyn ymlaen fel Opsiwn 6 (£30 am y bin cyntaf, ail fin am ddim). Ychwanegodd bod awdurdodau eraill yn defnyddio biniau mwy ac awgrymodd ohirio’r defnydd o dechnoleg i gofrestru bin i eiddo hyd nes roedd ystyriaeth bellach wedi ei roi i ddarparu biniau mwy. Cyfeiriodd wedyn at e-bost roedd wedi ei anfon yn gofyn am Ostyngiadau i elusennau ond nid oedd dim byd wedi ei symud ymlaen o safbwynt hyn.

 

Atebodd Rheolwr y Rhaglen Gwastraff a Gwasanaethau Ategol drwy ddweud bod y bin 140 litr yn faint safonol ar draws Cymru. Treialwyd y biniau 240 litr a 140 litr yn 2003 ond bu problemau gweithredol yn ogystal â thoriadau a phroblemau gyda phwysau o safbwynt yr offer codi, a phenderfynwyd mai’r bin 140 litr oedd fwyaf addas. 

 

Fe wnaeth Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant gydnabod sylwadau'r Cynghorydd Dolphin y dylai ail fin fod am ddim.

 

Nododd y Cynghorydd Mike Peers y sylwadau am finiau mwy a chyfeiriodd at gyfarfod yr Amgylchedd ar 16 Ionawr 2018 pan ddywedodd y Prif Swyddog y byddent yn edrych ar ddarparu biniau mwy a gofynnodd beth fu canlyniad hynny.

 

Roedd y Cynghorydd Peers yn falch bod y Cyngor wedi talu cost adfer ar gyfer y gwasanaeth hwn o £166.000 ond awgrymodd y gellid gweld hyn fel y Cyngor yn elwa a holodd a ddylid symleiddio taliadau cyn 2020. Os taw £30,000 yw'r gost am dechnoleg pad PIN, beth am ddefnyddio'r arian dros ben o'r flwyddyn gyfredol. Yn 1.16 ystyriwyd y potensial o gynnig cyfraddau is i bobl h?n ac agored i niwed yn ystod y flwyddyn gyntaf ac ystyriwyd y byddai adolygiad yn cael ei gynnal ynl?n â'r canlyniad. Cytunodd gyda sylwadau’r Cynghorydd Dolphin nad oedd y bin yn ddigon mawr.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod y biniau mawr yn rhy drwm i’r peiriannau eu codi. Gallai’r gostyngiad ffi am ail fin effeithio ar y gyllideb a allai olygu codi mwy am y bin cyntaf. O safbwynt Gostyngiadau – nododd archwiliad o bobl ar y Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor bod 30% wedi cofrestru ar y cynllun. Dyma oedd y rhesymau am beidio gostwng na chynyddu'r cyfraddau eleni. Canmolodd y tîm bach sy’n llwyddo i anfon 30,000 o sticeri allan a delio gydag ymholiadau ffôn. Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod hwn yn fater dadleuol a bod y 40% o gofrestriadau yn galonogol ac y byddai Taliadau Uniongyrchol yn ei gwneud yn haws i’r tîm.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson sut roedd taliadau yn cael eu gwneud.  Cadarnhawyd bod 95% dros y ffôn gyda’r tîm yn annog taliadau ar-lein at y dyfodol. 

 

            Dywedodd y Cadeirydd fod yr opsiwn gan drigolion o gompostio eu gwastraff gardd os nad oeddynt am dalu am y gwasanaeth.

 

            Roedd y Cynghorydd Richard Jones yn cefnogi sylwadau’r Cynghorydd Dolphin bod y biniau yn rhy fach ac y dylai trigolion dderbyn biniau mwy, 240 litr. Dywedodd mai cost y gwasanaeth oedd mynd a chasglu a gwaredu’r gwastraff gardd.  Dywedodd nad cynhyrchu incwm oedd menter LlG ond gostwng ôl troed carbon safleoedd HRC. Ychwanegodd bod Sir y Fflint, o’u cymharu ag awdurdodau cyfagos, yn ddrytach gan bod y biniau 240 litr gan yr awdurdodau eraill.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Owen Thomas y dylai'r arian gael ei ddefnyddio i hyrwyddo biniau compost.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin na ddylai Sir y Fflint gywilyddio o wneud elw ond y dylid ail-fuddsoddi’r arian.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai’r costau yn cynyddu y flwyddyn nesaf.  Ychwanegodd y byddai’n costio £600,000 i gael 30,000 o finiau newydd am £20 yr un.

 

Pan gafwyd pleidlais ar Opsiwn 6 £30 cost am y bin cyntaf ac ail fin am ddim, collwyd y bleidlais.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi parhad y polisi codi ffi ar gyfer Gwasanaeth Gwastraff Gardd ar gyfer 2019  a blynyddoedd dilynol;

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo parhad y peirianwaith codi tâl cyfradd safonol, heb ostyngiadau ac y bydd tâl o £30 yn parhau i fod yn berthnasol am bob casgliad bin a wneir yn ystod tymor 2019;

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo y dylid o 2019 ymlaen, cynnwys adolygiad blynyddol o'r tâl Gwastraff Gardd yn adolygiad blynyddol y portffolio o ffioedd a chostau; a

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cais i’r Cabinet i’r gwasanaeth archwilio system amgen, yn seiliedig ar dechnoleg i fonitro taliadau a rhoi gwybod i gasglwyr gwastraff o    danysgrifiad a dalwyd, yn barod ar gyfer tymor 2020 a bod £30,000 o’r        cyllid a godwyd ym mlwyddyn ariannol 2018-19 yn cael eu rhoi o’r neilltu   i ariannu’r trefniant newydd.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 11/04/2019

Dyddiad y penderfyniad: 11/12/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: