Manylion y penderfyniad
Welsh in Education Strategic Plan (WESP)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To update Members on progress of the
WESP
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad ar gynnydd y Cyngor o ran y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i gyrraedd y targedau a chyflawni’r amcanion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac i wella safonau cyrhaeddiad disgyblion Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith.
Mae fforwm amlasiantaethol yn gyfrifol am fonitro a gweithredu’r cynllun hwn, ac mae Sian Hilton yn darparu capasiti ychwanegol dros dro yn y Cyngor. Mae’r fforwm yn adolygu cynnydd tri is-gr?p sy’n canolbwyntio ar safonau, y ddarpariaeth a’r gweithlu. Fel rhan o’r adroddiad, tynnwyd sylw at lwyddiant y Cyngor wrth ddenu buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfradd ymyrraeth o 100% i gynyddu capasiti Ysgol Glanrafon a darparu gwasanaeth blynyddoedd cynnar cofleidiol. Amlygwyd nifer o lwyddiannau allweddol wrth gyrraedd targedau Llywodraethu Cymru ar gyfer 2018-19.
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd y cynnydd hyd yma.
Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Fforwm, siaradodd y Cyng. Roberts am ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo addysg plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac i ddatblygu dwyieithrwydd mewn ysgolion Saesneg. Cyfeiriodd at effaith gadarnhaol yr Urdd o ran annog pobl ifanc i gystadlu drwy gyfrwng y Gymraeg a phwysleisiodd bwysigrwydd datblygu’r iaith y tu allan i’r ysgol/gweithle. Dywedodd y byddai’n rhaid cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd fel Sir y Fflint er mwyn cyrraedd targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Aeth ymlaen i ganmol Ysgol Gwenffrwd yn Nhreffynnon am ganlyniadau ei harolwg Estyn diweddar.
Yn dilyn pryderon Rebecca Stark ynghylch y seilwaith ffordd o gwmpas Ysgol Glanrafon, cynghorodd y Prif Swyddog fod swyddogion yn ymwybodol o’r problemau ac y bydd asesiad o effaith traffig yn ystyried rheoli llif y traffig a diogelwch disgyblion.
Mewn ymateb i sylwadau’r Cyng. Smith, dywedodd y Cyng. Roberts a’r Prif Swyddog fod sylwadau wedi’u gwneud ar yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer twf a datblygiad ysgolion Cymraeg llai wrth iddynt gael eu sefydlu.
Tra bod David Hÿtch yn croesawu canlyniadau cadarnhaol dysgwyr ail iaith mewn ysgolion Saesneg, roedd yn pryderu ynghylch effaith y newidiadau pellach yn y cwricwlwm ar ysgolion uwchradd Saesneg.
Roedd Rebecca Stark hefyd yn teimlo y gall y lleihad mewn dewisiadau Cymraeg yn yr ysgol uwchradd arwain at ddisgyblion yn dewis peidio ag astudio iaith arall.
Galwodd y Cyng. Gladys Healey ar ddiwydiannau i wneud mwy i gynnwys y Gymraeg yn y gweithle.
Dyfynnodd y Cyng. Mackie o adroddiad a oedd yn amlygu’r anawsterau a brofir gan ysgolion uwchradd wrth recriwtio athrawon sy’n medru’r Gymraeg.
Roedd y Cyng. Jones yn croesawu’r cynnydd wrth weithredu’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a soniodd am dwf y Gymraeg mewn ardaloedd trefol. Diolchodd i’r Aelodau am gymryd rhan yn yr arolwg diweddar a gynhaliwyd ar draws y Cyngor, a oedd yn dangos cynnydd o ran y Gymraeg.
Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod pryderon megis effaith llai o ddewisiadau ar gyfer disgyblion a’r buddsoddiad sydd ei angen i hyfforddi athrawon. Mae’r is-grwpiau yn nodi ffactorau allweddol fel y rhain ac yn adrodd yn ôl i'r fforwm er mwyn cyfrannu at y cynllun gweithredu e.e. gweithio gyda Choleg Cambria i greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau Cymraeg.
Yn dilyn y drafodaeth, awgrymodd y Cyng. Roberts y dylai’r Pwyllgor ysgrifennu at y Gweinidog i fynegi’r pryderon a godwyd. Cytunwyd ar gyfres ddiwygiedig o argymhellion i adlewyrchu'r drafodaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn canmol y cynnydd sydd wedi’i wneud gan y Cyngor yn erbyn targedau’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg;
(b) Nodi’r gwaith partneriaeth amlasiantaeth effeithiol o fewn Fforwm Strategol y Gymraeg mewn Addysg, sydd wedi creu ac yn monitro’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg; a
(c) Bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn amlinellu’r pryderon canlynol:-
· Yr angen i sicrhau bod digon o athrawon sy’n medru’r Gymraeg ymhob pwnc
· Y costau refeniw sy’n gysylltiedig â sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd
· Pryderon ynghylch y dewisiadau cyfyngedig fydd ar gael i ddisgyblion pe bai TGAU Iaith Gymraeg yn orfodol
· Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yna byddai hynny ond yn bosibl drwy gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd fel Sir y Fflint
Awdur yr adroddiad: Amanda Davidson
Dyddiad cyhoeddi: 08/04/2019
Dyddiad y penderfyniad: 31/01/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 31/01/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Dogfennau Atodol: