Manylion y penderfyniad

School Transport – Concessionary Fares

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To seek a recommendation from Scrutiny for the rate to be charged for school transport concessionary seats.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Rheolwr ITU - Strydwedd a Chludiant - adroddiad a ofynnai am argymhelliad ynghylch y gyfradd i'w chodi am seddau consesiwn ar gyfer cludiant ysgolion.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac esboniodd fod y Pwyllgor wedi argymell yn y gorffennol y dylid mabwysiadu Opsiwn 2 (hy, £100.00 y tymor) fel y strwythur prisio yr oedd yn ei ffafrio ar gyfer pas bws consesiwn ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol (2018/19), ac  dylid cynnal adolygiad o effaith y cynnydd mewn costau, er mwyn gallu pennu lefel ar gyfer y blynyddoedd nesaf.  Dywedodd fod y gyfradd yn llai na 50% o'r gost lawn o ddarparu'r seddau consesiwn, a bod hynny'n creu pwysau ariannol i'r Awdurdod.

 

            Adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, a dywedodd fod yr opsiynau ar gyfer prisiau seddau consesiwn yn y dyfodol wedi'u hatodi i'r adroddiad.   Er mai'r nod yn y tymor hir fyddai adennill cost lawn y gwasanaeth, ystyriwyd ei bod hi'n annheg codi'r prisiau i'r lefel honno mewn cyfnod mor fyr o amser, felly nid oedd opsiynau 1 na 3 yn cael eu hargymell ar hyn o bryd.  Argymhellwyd Opsiwn 2 (£450 y flwyddyn - £150 y tymor) ar gyfer 2019/20 gan ei fod yn taro cydbwysedd rhwng yr angen i adennill y gost yn llawn a fforddiadwyedd y cynllun i rieni (yn enwedig i rieni a chanddynt fwy nag un plentyn yn teithio i'r ysgol). 

 

            Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Owen Thomas, dywedodd y Rheolwr ITU - Strydwedd a Chludiant - nad oedd gan yr Awdurdod gyfrifoldeb cyfreithiol dros ddisgyblion a ddefnyddiai fysys ysgol gan mai dewis rhieni oedd defnyddio'r cludiant hwnnw. Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Thomas ynghylch y gost o gymorthdalu mannau gwag ar fysus ysgol, dywedodd y Prif Swyddog fod adolygiad o'r ddarpariaeth cludiant ysgolion wedi cael ei chynnal er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben. 

 

            Mewn ymateb i sylwadau'r Cadeirydd ynghylch apelau ysgolion, cyfeiriodd y Cynghorydd Carolyn Tomas at y polisi cludiant ysgolion a dywedodd na fyddai plant ond yn cael cludiant am ddim i'w hysgol agosaf o fis Medi 2019.  

 

                        Cynigiodd y Cynghorydd Chris Dolphin y dylid cymeradwyo Opsiwn 2 - £450 y flwyddyn (£250 y tymor) fel y gyfradd a ffafrir ar gyfer seddau consesiwn yn 2019/20 ac, yn dilyn pleidlais, cefnogwyd hynny.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            (a)       Nodi'r wybodaeth am amcanestyniadau refeniw ar gyfer opsiynau amrywiol y prisiau teithio consesiwn; a

 

            (b)       Y dylid argymell Opsiwn 2 - £450 y flwyddyn (£150 y tymor) fel cyfradd       a oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer seddau consesiwn yn 2019/20, i'w        gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 27/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: