Manylion y penderfyniad

Clwyd Pension Fund Governance

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide assurance on the governance arrangements of the Clwyd Pension Fund and the value for money of fund manager fees.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr Cronfa Bensiynau Clwyd adroddiad i roi sicrwydd ynghylch trefniadau llywodraethol Cronfa Bensiwn Clwyd (CBC) a gwerth am arian o ran ffioedd rheolwr y gronfa, fel y gofynnwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Roedd y diagram yn yr adroddiad yn dangos y strwythur llywodraethu presennol a oedd wedi’i ehangu dros amser er mwyn cyflawni’r gofynion. Eglurwyd bod ffioedd a bennwyd gan yr ymgynghorydd buddsoddi ar y Panel Ymgynghorol yna’n destun cytundeb gan Bwyllgor CBC, o dan oruchwyliaeth y Bwrdd Pensiynau Statudol. Tra bo pob awdurdod yn pennu ei strategaeth ei hun, byddai’n cael ei weithredu drwy Bartneriaeth Pensiynau Cymru a oedd yn darparu’r platfform ar gyfer cronni buddsoddiadau ar draws yr 8 cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) yng Nghymru.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd y byddai ef a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cefnogi trefniadau llywodraethu a bod gwerthusiad allanol o lywodraethu a pherfformiad. Oherwydd cymhlethdodau’r testun, rhoddwyd lefel uchel o hyfforddiant a chymorth i Bwyllgor CBC ymgymryd â’i rôl o ran y rhan fwyaf o’r penderfyniadau ynghylch rheoli’r Gronfa. Adroddodd y Prif Weithredwr bod ochr fuddsoddi rheoli trysorlys CBC yn perfformio’n dda a bod gwelliant cyson ar yr ochr weinyddol.                                  

 

O ran yr ymagwedd tuag at reoli ffioedd, siaradodd Rheolwr CBC am lefel y sgiliau a fynnir gan ymgynghorwyr buddsoddi ynghyd â phenderfyniadau allweddol ar amryw ffactorau er mwyn cyflawni’r cydbwysedd iawn o ran risg ac er mwyn diwallu anghenion i’r dyfodol. Roedd adolygiad yr Actiwari yn pennu’r gost yr oedd angen i gyflogwyr ei thalu ar gyfer buddion aelodau i’r dyfodol ac unrhyw daliadau diffyg ar gyfer gwasanaeth yn y gorffennol, yr oedd yr ymgynghorydd buddsoddi yn ystyried wedyn sut i’w gyflawni orau.

Dywedodd y Prif Weithredwr bod CBC wedi mabwysiadu awydd i gymryd risg uchel gyda llwyddiant oedd wedi’i brofi, ac roedd yn gobeithio y byddai pwysau o ran cost ar gyfraniadau cyflogwr yn cael ei reoli.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad, gofynnodd Sally Elis sut y gallai’r Pwyllgor Archwilio ychwanegu gwerth a ph’un a fyddai hyfforddiant o gymorth. Dywedodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog mai rôl y Pwyllgor oedd bodloni ei hun â lefel y wybodaeth a’r gefnogaeth a roddir i Bwyllgor CBC a’r herio gan y Bwrdd Pensiynau.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Johnson ynghylch y rhestr o ymgynghorwyr buddsoddi, cytunodd y swyddogion i gylchredeg copi o’r adroddiad blynyddol a oedd yn cynnwys y wybodaeth hon. Rhoddwyd eglurhad hefyd ynghylch y trefniadau ar gyfer contractau.

 

O ran y rhestr o ffioedd rheoli cronfeydd, cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at y gyfradd ddychwelyd ar gyfer asedau credyd a oedd yn is na’r targed. Eglurodd y swyddogion y nod i arallgyfeirio ar draws gwahanol ddosbarthiadau asedau ynghyd â rôl y tri is-gr?p arbenigol o ran cefnogi’r Panel Ymgynghorol.

 

Yn dilyn trafodaeth gynharach, dywedodd Sally Ellis, er mwyn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor, y byddai angen gwybodaeth am lefel yr hyder/gwybodaeth ar Bwyllgor CBC a ph’un a oedd yr oruchwyliaeth gan y Bwrdd Pensiynau’n gweithio’n dda.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Pensiynau bod yr adroddiadau manwl rheolaidd i Bwyllgor CBC sy’n cynnwys gwybodaeth o ran llywodraethu, cofnodion, cynlluniau hyfforddi ac ati, ar gael i gyd ar wefan y Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog y byddai swyddogion yn ystyried amlder adroddiadau a’r posibilrwydd o gyflwyniad yn y dyfodol ar drefniadau llywodraethu er mwyn rhoi rhagor o sicrwydd i’r Pwyllgor, heb ddyblygu gwaith y Bwrdd Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a darparu adborth i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd.

Awdur yr adroddiad: Debbie Fielder

Dyddiad cyhoeddi: 18/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/11/2018 - Pwyllgor Archwilio

Accompanying Documents: