Manylion y penderfyniad
Regional Carers Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Members with an Overview of the
strategy and approve Flintshire County council signing up to this
North Wales strategy
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr – Diogelu a Chomisiynu’r adroddiad i ddarparu trosolwg o Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru ac i gefnogi Cyngor Sir y Fflint wrth iddo ymuno â’r strategaeth.
Darparodd yr Uwch-Reolwr wybodaeth gefndir ac eglurodd fod tair rhan i’r strategaeth, sef:
· Gweledigaeth gogledd Cymru ar gyfer gwasanaethau gofalwyr
· Safonau gwasanaeth
· Cynllun gweithredu
Adroddodd yr Uwch-Reolwr ar y prif benderfyniadau a gweithgareddau sydd wedi’u gwneud i ddatblygu Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, fel y crynhoir yn yr adroddiad.Eglurodd bod y strategaeth yn gofyn i waith comisiynu lleol, is-ranbarthol a rhanbarthol roi llais i ofalwyr yn y broses o wneud penderfyniadau lleol a sicrhau bod yr holl wasanaethau yn yr ardal yn dod yn fwy ymwybodol o ofalwyr ac yn gyfeillgar i ofalwyr. Mae hefyd yn ddyletswydd ar y rheiny sy’n comisiynu i sicrhau y cynllunnir gwasanaethau i ganfod gofalwyr a’u helpu i nodi anghenion ac i gomisiynu gwasanaethau cymorth i ofalwyr gydag anghenion cefnogi a/neu hawliau penodol.Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru - strategaeth i ofalwyr o bob oed, sydd wedi’i atodi i'r adroddiad.
Gofynnodd y Cyng. Kevin Hughes sut caiff gofalwyr ifanc yn Sir y Fflint eu hadnabod a’u cefnogi. Eglurodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu nad yw’r awdurdod yn gwybod am bob gofalwr ifanc a dywedodd bod gwaith yn mynd rhagddo gydag asiantaethau, ysgolion a phobl ifanc i adnabod a chysylltu â gofalwyr ifanc i gynnig cefnogaeth a gwybodaeth a’u cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill. Cyfeiriodd at y llwybrau atgyfeirio a gytunwyd arnynt gyda Barnardo's a dywedodd y byddai’n gofyn i Barnardo's ddarparu data i ddangos i’r Pwyllgor beth yw eu barn am bobl ifanc.
Awgrymodd y Prif Swyddog y dylid gwahodd cynrychiolwyr o NEWCIS A Barnardo's i gyfarfod o’r Pwyllgor.Cynigiodd y Cyng. Hilary McGuill y dylid cynnwys hyn fel eitem ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Gwnaeth y Cyng. McGuill sylwadau ar anghenion gofalwyr oedrannus a mynegodd bryder ynghylch methu eu cyfeirio at yr wybodaeth a’r gwasanaethau priodol sydd ar gael i’w cynorthwyo.
Soniodd yr Uwch-Reolwr – Diogelu a Chomisiynu am bwysigrwydd adnabod cynnar ac asesu a deall anghenion gofalwyr o bob oed.Cyfeiriodd at effaith gofalu ar unigolion a nod Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru i roi llais i ofalwyr pan wneir penderfyniadau ac i’w helpu i nodi eu hanghenion a’u hawliau.
Gwnaeth y Cyng. Andy Dunbobbin sylw ar yr angen i godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Tynnodd yr Uwch-Reolwr sylw at y cynlluniau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y strategaeth ar gyfer partneriaid allweddol ac ategodd yr angen i adnabod gofalwyr yn gynnar a darparu cefnogaeth gynnar. Dywedodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu y cynhelir Wythnos Genedlaethol y Gofalwyr ym mis Mehefin 2019 ac awgrymodd y dylai'r Pwyllgor ystyried hyrwyddo’r wybodaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi gofalwyr.
Siaradodd y Cyng. Gladys Healey am anghenion gofalwyr ifanc, yn arbennig gofalwyr ifanc sy’n dal mewn addysg lawn amser.Dywedodd hefyd am yr arbedion ariannol a wneir yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol oherwydd y gofal a ddarperir gan bobl ifanc.
Diolchodd y Prif Swyddog i'r Cyng. Healey am ei sylwadau a sicrhaodd bod yr Awdurdod yn gweithio’n ddiwyd i adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc yn Sir y Fflint.Fodd bynnag, nid yw'r Awdurdod yn fodlonus ac mae gwaith manwl yn mynd rhagddo i wella’r sefyllfa ymhellach.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cyngor Sir y Fflint wrth iddo ddod yn rhan o Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru; a
(b) Gwahodd cynrychiolwyr o NEWCIS a Barnardo's i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Jane Davies
Dyddiad cyhoeddi: 13/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: