Manylion y penderfyniad
Budget 2019/20 Stage 2 Proposals
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the stage 2 budget proposals for
the Housing Portfolio and parts of the Planning, Environment &
Economy Portfolio for 2019/20
Penderfyniadau:
Cyn cyflwyno'r adroddiad, gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am eglurhad ar y gwasanaethau sydd bellach wedi’u cynnwys yn y portffolio a gofynnodd at le y dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch cyllid ar gyfer Cymunedau am Waith a Chartrefi Cynnes. Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod y meysydd gwasanaeth o fewn portffolio'r Prif Swyddog blaenorol wedi'u rhannu ar ôl iddi ymadael. Bellach, roedd meysydd gwasanaeth y Ganolfan Gyswllt a Sir y Fflint yn Cysylltu yn eistedd ym mhortffolio’r Prif Swyddog (Llywodraethu) a byddent yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor hwn a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Trefniadol.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a'r Economi) bod y meysydd gwasanaeth o dan Economi ac Adfywio wedi bod o fewn ei bortffolio a dywedodd y gallai ddarparu'r Cynghorydd Heesom â dadansoddiad o sut y dosbarthwyd cyllid ar gyfer Cymunedau am Waith a Chartrefi Cynnes ar draws y Sir, ar ôl y cyfarfod.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd nad oedd Cymunedau yn Gyntaf yn bodoli ac roedd bellach yn rhan o Gymunedau am Waith a ariannwyd trwy Lywodraeth Cymru (LlC). Byddai'r rhaglen waith ar gyfer hyn yn cael ei adrodd i gyfarfod pwyllgor yn y dyfodol.
Cyflwynodd y Prif
Swyddog (Tai ac Asedau) a Phrif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd
a'r Economi) adroddiad i gynghori am y pwysau ariannol a'r arbedion
effeithlonrwydd a nodwyd ar gyfer y portffolio Tai a rhannau o'r
portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi ar gyfer cyllideb
2019/20 . Hysbyswyd y Pwyllgor y cynhaliwyd gweithdai Aelodau ar 13
a 23 Gorffennaf a 18 Medi, 2018, lle darparwyd gwybodaeth am y
rhagolygon ariannol lleol diweddaraf yng nghyd-destun y sefyllfa
genedlaethol gyffredinol. Cynhaliwyd gweithdy ychwanegol yn benodol
ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter ar 12
Hydref, 2018 a roddodd y cyfle i'r Aelodau ddeall y cyllidebau
portffolio yn fwy manwl ac ystyried lefelau risg a gwytnwch pob
maes gwasanaeth.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a'r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) esboniad manwl am bwysau’r portffolio a buddsoddiadau, ynghyd â'r arbedion cynllunio busnes portffolio a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Darparodd y Rheolwr
Cyllid Gwasanaethau Cymunedol yr wybodaeth ddiweddaraf am y setliad
dros dro gan Lywodraeth Cymru (LlC) a oedd wedi cynyddu’r
bwlch cyllidebol o £1.9m. Ar hyn o bryd roedd swyddogion yn
gweithio trwy fanylion cyhoeddiadau cyllideb Llywodraeth Prydain a
pha gyllid ychwanegol y gallai LlC ei dderbyn o
ganlyniad.
Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a ellid dangos cyfanswm cyllidebau cyfredol y meysydd gwasanaeth wrth ymyl yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig fel y gallai’r Aelodau ddyfarnu a oedd yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn dderbyniol. Mynegodd bryderon ynghylch yr effeithlonrwydd na ellir ei gyrraedd yn y Ganolfan Gyswllt a'r diffyg darpariaeth i drigolion ymweld â'r canolfannau hyn i'r gorllewin o Sir y Fflint. Hefyd, mynegodd bryderon ynghylch y cynnydd mawr yn Nhreth y Cyngor a fyddai ei angen i ddiwallu’r diffyg ariannol.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) a'r
Prif Swyddog (Tai ac Asedau) wybodaeth am y cyllidebau cyfredol ar
gyfer pob un o'r meysydd gwasanaeth gyda’r effeithlonrwydd
arfaethedig. Cynhyrchwyd datganiadau dulliau a datganiadau gwytnwch
yn cefnogi’r pwysau ar gyllideb 2019/20 a chynigion
effeithlonrwydd fel dogfennau cefndir gyda chopïau ar gael ar
gais. Eglurodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Dai fod
gwasanaeth y Ganolfan Gyswllt a amlinellwyd yn yr adroddiad yn
cyfeirio at y canolfannau galw sydd wedi'u lleoli ar hyn o bryd yn
Nepo Alltami, Swyddfeydd y Fflint a Neuadd y Sir a'r cynnig i'w uno
mewn un Ganolfan Gyswllt. Fel eglurhad pellach, nid oedd hyn yn
gyfeiriad at Sir y Fflint yn Cysylltu fel yr awgrymodd y Cynghorydd
Heesom.
Gwnaed nifer o
sylwadau o gwmpas y nifer fechan o arbedion sydd ar gael a'r
gobaith y byddai cyllid ychwanegol ar gael oddi wrth LlC yn dilyn
cyhoeddiad cyllideb y Llywodraeth Genedlaethol. Cymeradwyodd yr
Aelodau’r Swyddogion am y gwaith yr oeddent wedi'i wneud yn
ystod yr heriau ariannol dros y blynyddoedd
diwethaf.
Cydnabu'r Cynghorydd Patrick Heesom yr heriau ariannol y mae'r
Cyngor yn eu hwynebu ond dywedodd fod angen mwy o wybodaeth ar
gyfer Aelodau. Croesawodd y sylwadau blaenorol gan yr Aelod Cabinet
dros Ddatblygu Economaidd ynghylch cyflwyno gwybodaeth bellach am
Gartrefi Cynnes a Chymunedau yn Gyntaf i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y
dyfodol.
Amlinellodd y Prif Swyddog yr amserlen oedd ar y gweill ar gyfer y Gyllideb Genedlaethol a'r amserlen ar gyfer y Gyllideb Leol, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Byddai'r gyllideb derfynol yn cael ei chyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor ar 19 Chwefror, 2019.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r opsiynau effeithlonrwydd portffolio, fel y dangoswyd yn yr adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Neal Cockerton (old)
Dyddiad cyhoeddi: 18/02/2019
Dyddiad y penderfyniad: 30/10/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/10/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Dogfennau Atodol: