Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring 2018/19 Month 4 and Capital Programme Monitoring 2018/19 Quarter 4

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with the Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 4) and Quarter 1 of the Capital Programme Monitoring 2018/19.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg a Systemau Strategol) a’r Rheolwr Cyllid Dros Dro – Cyfrifeg Technegol adroddiad ar y cyd ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer mis 4 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai, a diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf 2018/19 yn ystod mis 4. Byddai'r ddau yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar 25 Medi 2018.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y rhagolwg gwariant net gwirioneddol yn ystod y flwyddyn yn dangos £2.680m o arian dros ben a oedd yn cynnwys effaith gadarnhaol cyfraniad o £1.400m yn deillio o newid a gymeradwywyd i bolisi cyfrifo Darpariaeth Isafswm Refeniw a derbyn £1.940m ar gyfer ad-daliad TAW.   Argymhellwyd y dylid dyrannu’r ddau swm i’r Gronfa Wrth Gefn arian at raid i gefnogi y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig fel rhan o'r opsiynau cyllidebol strategol a drafodwyd yng ngweithdy diweddar yr Aelodau.   Byddai hyn yn gadael diffyg gweithredol o £0.660m.

 

 Roedd y tabl yn nodi sefyllfa amcanol fesul portffolio, cyn trosglwyddo’r ddau swm uchod, gyda rhagolwg ar gyfer Lleoliadau y Tu allan i'r Sir wedi'u nodi ar linell ar wahân i ddarparu gwell eglurder.   Roedd cynnydd yn erbyn yr effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn yn dangos y disgwylir y byddai 98% yn cael ei gyflawni, a oedd yn uwch na'r targed.   Roedd diweddariad ar y materion eraill yn ystod y flwyddyn yn tynnu sylw at geisio swm ychwanegol o £1.084m o Gronfa Wrth Gefn Arian at raid i ddiwallu cost dyfarniad tâl a gytunwyd yn genedlaethol, yn ogystal â'r cynnydd o 1% a ddarparwyd yn y gyllideb ar gyfer 2018/19. Rhagwelwyd balans diwedd blwyddyn yn y Gronfa Wrth Gefn Arian at Raid o £8.145m er y byddai cais am £0.100m i gefnogi gwaith parhaus ar amddiffyn plant.   Byddai argymhelliad bod tanwariant yng nghyllideb Ymrwymiad Lleihau Carbon yn cael ei ragnodi i gefnogi datblygiad ffermydd solar, fel yr adroddwyd i'r Cabinet yn flaenorol.

 

Croesawodd y Prif Weithredwr y cynnydd ar yr arbedion effeithlonrwydd ac eglurodd bod rhywfaint o ansicrwydd o ran amseriad gostyngiadau cost Neuadd y Sir oherwydd amseriad y gwaith dymchwel.   Gan adlewyrchu ar drafodaeth flaenorol ar bwysigrwydd cynnal lefelau digonol yn y Gronfa Arian at Raid, cyfeiriodd at y pwysau ychwanegol ar y gyllideb o'r dyfarniad cyflog cenedlaethol a oedd yn gyfrifoldeb i'r holl gynghorau gan na chafwyd cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru hyd yn hyn.

 

Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.007m yn uwch na’r gyllideb, gan adael balans o £1.165m ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.

 

Croesawodd y Cynghorydd Jones y penderfyniad i wahanu costau Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a thynnu sylw at wall yng nghyfanswm gorwariant ar gyfer Strydwedd a Chludiant.   Mewn ymateb i gwestiynau, cafwyd eglurhad ar amseru newid polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw a hysbysiad o ad-daliad TAW, a oeddent yn symiau untro heb eu dyrannu ar gyfer 2018/19 i’w dyrannu i Gronfeydd wrth Gefn Arian at Raid.

 

Cytunodd y Rheolwr Cyllid i ddarparu manylion pellach i’r Cynghorydd Bateman ar gost ychwanegol cerbydau gwastraff ar brydles.   Cytunodd hefyd y byddai’n ymateb i gais y Cynghorydd Johnson am ragor o wybodaeth ar gostau gwasanaethau Rheoli Plâu a oedd yn anodd eu holrhain.   Nodwyd y gallai hyn fod o ganlyniad i newidiadau i’r portffolio.

 

Darparodd y Prif Weithredwr eglurhad i’r Cadeirydd ar gostau cludiant untro ychwanegol ar ôl cau Ysgol Uwchradd John Summers.

 

Holodd y Cynghorydd McGuill a oedd canolfannau chwaraeon defnydd dwbl yn diwallu’r meini prawf ar gyfer ad-daliad TAW ar rai eithriadau chwaraeon.   Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn cael ei olrhain.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Adroddwyd cynnydd net o £8.420m yn y Rhaglen ar gyfer 2018/19 a arweiniodd at gyllideb ddiwygiedig o £76.394m.   Roedd y prif newidiadau yn ystod y cyfnod yn ystyried hysbysiad o ddyraniadau cyllid nad ydynt ar gael ar adeg gosod y gyllideb, megis grant Cludiant Lleol/Diogelwch ar y Ffyrdd.   Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar newid i argaeledd grant Tai Fforddiadwy a ddisodlwyd gan gefnogaeth refeniw ar gyfer benthyca cyfwerth dros gyfnod o 29 mlynedd.

 

Roedd y wybodaeth ddiweddaraf am wariant cyfalaf o gymharu â’r gyllideb yn dangos tanwariant a ragwelir o £0.047m ar Gronfa'r Cyngor a sefyllfa o fantoli'r gyllideb ar y Cyfrif Refeniw Tai.   Ar y cam hwn, ni ragwelir unrhyw newidiadau sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn.   Tynnwyd sylw hefyd at swm sy’n cael ei ddwyn ymlaen o £0.074m ar gyfer Theatr Clwyd i 2019/20 a dyraniad cyfalaf ychwanegol o £0.500m tuag at systemau awyru yn Unity House yn Ewlo cyn symud swyddfa.   Roedd Tabl 5 yn dangos diffyg cyllid presennol o £8.719m ar gyfer cynlluniau a gymeradwywyd dros gyfnod o dair blynedd, nad oedd yn cynnwys derbyniadau cyfalaf heb eu rhyddhau.   Fel y ceisiwyd yn y Rhybudd o Gynnig i’r Cyngor, roedd dadansoddiad yn dangos buddsoddiad mewn trefi’r sir ynghyd â nodi’r gwariant ychwanegol a ddyrannwyd yn Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

Ar y mater olaf, atgoffodd y Cynghorydd Jones bod angen adrodd ar wariant refeniw a chyfalaf.   Eglurodd y swyddogion y byddai’r ddau yn cael eu hadolygu a’u hadrodd wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cadeirydd, eglurwyd mai diben y cyllid ychwanegol ar gyfer Unity House oedd i ymgymryd â gwaith hanfodol i gefnogi math gwahanol o ddefnydd ar gyfer yr adeilad.

 

Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Heesom ar y dull o fenthyca darbodus ar gyfer Unity House, eglurodd y swyddogion fod hyn yn destun adolygiad parhaus ac y byddai rhyddhau unrhyw dderbyniadau cyfalaf yn cael eu gosod yn erbyn yr angen i fenthyca ac yn cael ei adrodd drwy reolaeth y trysorlys wrth iddynt ddod i ben.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r argymhellion yn yr adroddiad Cabinet ar gyfer Monitro Mis 4 y Gyllideb Refeniw 2018/19 ac yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion eraill y mae'n dymuno eu cyflwyno i'r Cabinet; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Mis 4 y Rhaglen Gyfalaf 2018/19 a chadarnhau, ar yr achlysur hwn, nad oes unrhyw faterion i’w cyflwyno gerbron y Cabinet.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/09/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/09/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: