Manylion y penderfyniad

Growth Vision and Strategy for the Economy of North Wales: Governance Agreement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To note progress on the development of a Growth Deal Bid and to adopt the first stage Governance Agreement.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar ddatblygu Cais Bargen Twf Gogledd Cymru i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y trefniadau anweithredol o fewn Cytundeb Llywodraethu (GA1) yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet o’r trefniadau gweithredol yn gynharach yn y dydd.

 

Rhoddwyd eglurhad o’r ddau faes penderfynu yr oedd eu hangen i gymeradwyo cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu fel y gellid diweddaru’r Cyfansoddiad yn gyfatebol. Nod Cais y Bargen Twf oedd bod o fudd i economi’r rhanbarth a byddai’r Strategaeth Twf yn galluogi ymagwedd unedig i gael mynediad i geisiadau am gyllid, fel y Gronfa Ffyniant. Fel y gofynnwyd yn y gweithdy diweddar i Aelodau, rhannwyd gwybodaeth ar fodel Llywodraethu diwygiedig y cydbwyllgor rhanbarthol statudol a gylchredwyd yn lle’r atodiad i’r adroddiad. Roedd hwn yn egluro proses benderfynu neu gyfrifoldebau ymgynghorol bob partner. Tra bo’r GA1 yn nodi sut y byddai’r pwyllgor yn gweithredu yn y cyfnod interim, byddai ail ran y Cytundeb yn cynnwys rhagor o fanylion am yr ymrwymiadau a byddai’n destun ymgynghoriad yn 2019.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai cyflawniadau o ran Cais y Fargen Twf yn cryfhau’r achos dros well cydweithio ar lefel ranbarthol, yr ystyriwyd ei fod yn ddewis tebygol yn lle diwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Dywedodd mai’r tri maes a nodwyd ar gyfer eu gwella drwy weithio ar lefel ranbarthol yng Ngogledd Cymru oedd yr economi, iechyd a gofal cymdeithasol a diogelwch cymunedol.

 

Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth ar gynnwys y GA1, gan egluro mai penderfyniad y Cyngor oedd cytuno ar drefniadau ar gyfer Trosolwg a Chraffu. Amlinellodd y pedwar mesur diogelu fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac atgoffodd bawb y byddai’r ddogfen gynnig yn cael ei chyflwyno i’w chymeradwyo gan y Cyngor ym mis Medi.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, roedd y Cynghorydd Butler yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan rai Aelodau ond amlygodd bwysigrwydd y Fargen a chadw rheolaeth leol dros faterion Llywodraethu penodol.              

 

Cododd y Cynghorydd Peers sawl pwynt o ran y modd yr oedd y ddogfen wedi’i chyflwyno y cytunodd y Prif Swyddog fynd i’r afael â hwy wrth gwblhau’r GA1 ar ôl derbyn sylwadau pob cyngor. Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad o sawl maes o fewn y GA1 gan gynnwys cyfraniadau gan y chwe chyngor a chytunodd i ailgylchredeg y Strategaeth Twf i’r Aelodau. O ran yr awgrym i gynnwys ‘lle’n bosibl’ mewn perthynas ag ymrwymo digon o adnoddau i gyflenwi’r Fargen Twf, amlygodd y swyddogion bwysigrwydd pob cyngor yn anrhydeddu ei ran o’r ymrwymiadau fel rhan o’r cytundeb.

 

Tra bo’r Cynghorydd Heesom yn cydnabod y cyfleoedd sylweddol drwy’r Fargen Twf, nododd unwaith eto ei bryderon ynghylch graddau’r manteision.

 

Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones o blaid yr ymagwedd ranbarthol ond cwestiynodd y manteision ar gyfer y Sir gyfan. Cyfeiriodd at yr amcanion a nodwyd yn y GA1 a dywedodd y dylai’r eitemau sydd o fudd uniongyrchol i Sir y Fflint fod wedi cael eu dwyn i sylw’r Cyngor yn gynharach er mwyn egluro i’r Aelodau beth yr oedd gofyn iddynt ei gytuno. Holodd am gyfanswm costau’r Fargen Twf ynghyd â threfniadau ar gyfer penodi cynrychiolwyr i’r cydbwyllgor. Aeth ymlaen i ofyn i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ymgymryd â chraffu lleol gyda phwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol eraill ac y dylid gweddarlledu’r cyfarfodydd hynny.

 

Siaradodd y Cynghorydd Woolley o blaid y Fargen Twf ond yr oedd ganddo bryderon am ganlyniadau dywededig trefniadau tebyg yn Lloegr. O ran y GA1, mynegodd amheuon ynghylch y geiriad a ddefnyddiwyd yn yr adrannau ar dynnu’r cytundeb yn ei ôl a chanlyniadau ei derfynu.

 

Amlygodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y cynnydd da a wnaed o ran yr isadeiledd cludiant trawsffiniol ynghyd â gwneud y gorau o gyfleoedd ariannu i wella cysylltiadau ar draws y Sir.                       

 

Siaradodd y Cynghorydd Banks hefyd o blaid y cais ond rhannodd bryderon rhai Cynghorwyr ynghylch buddsoddiad teg mewn cludiant ar draws y Sir.

 

Wrth ymateb i’r pryderon a godwyd, dywedodd y Prif Swyddog bod y model hwn yn wahanol i hwnnw yn Lloegr a bod y cydbwyllgor yn cynnwys y chwe chyngor ym mhle yr oedd trefniadau craffu lleol yn berthnasol. Rhoddodd sicrwydd o ran y pwerau a ganiatawyd i is-bwyllgorau, y mesurau diogelu o ran cael cymeradwyaeth Aelodau ar adegau allweddol, ynghyd â threfniadau archwilio gan yr awdurdod cynhaliol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr ymagwedd unedig eisoes wedi helpu i ddenu rhywfaint o gyllid a bod angen i’r cytundeb fod yn gyfreithiol, yn gredadwy ac yn ymarferol i gael ei dderbyn gan y ddwy lywodraeth. Siaradodd am y nod o fuddsoddi mewn tyfu sectorau busnes ar draws y rhanbarth i gyflawni buddion uniongyrchol ac anuniongyrchol, a dywedodd y byddai’r wyth rhaglen allweddol a rannwyd yn y gweithdy i Aelodau yn cael eu blaenoriaethu gan y ddwy lywodraeth ar adeg y cais terfynol.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai’r bwrdd rhanbarthol yn cytuno ar ymagwedd tuag at rannu adroddiadau interim ar ddatblygu’r cais gyda chynghorau unigol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnydd o ran datblygu Cais y Fargen Twf yn cael ei nodi a’i groesawu;       

 

(b)       Bod y Cyngor yn cymeradwyo holl elfennau anweithredol cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu fel yr amlinellwyd yn y cyfarfod;

 

(c)        Bod drafft terfynol Cais y Fargen Twf yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ei adolygu a’i ganiatáu ym mis Medi/Hydref cyn cyfnod cyrraedd Penawdau’r Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth;

 

(d)       Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu), mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, i gwblhau telerau’r Cytundeb Llywodraethu yn unol â’r drafft a atodwyd i adroddiad y Cabinet; a            

 

(e)       Bod y trefniadau gweithredol a gynhwysir o fewn y Cytundeb Llywodraethu yn cael eu cynnwys yn y Cyfansoddiad ac y gofynnir i’r Cyngor gynnwys y trefniadau anweithredol o fewn y Cyfansoddiad.

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2018

Dyddiad y penderfyniad: 19/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/06/2018 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: