Manylion y penderfyniad

Year-end Council Plan Monitoring Report 2017/18

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities, performance levels and current risk levels as identified in the Council Plan 2017/18.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad cynnydd diwedd blwyddyn 2017/18 ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017-23 gan ddarparu dadansoddiad o feysydd sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Tynnwyd sylw at yr adran am lefelau perfformiad presennol gan ddangos nad oedd 58% o ddangosyddion perfformiad wedi cael eu cyflawni neu eu rhagori.  Fel yr adroddwyd yn y gweithdy diweddar i Aelodau, roedd targedau perfformiad yng Nghynllun y llynedd a oedd heb eu cyflawni a’u dwyn ymlaen i’r flwyddyn bresennol yn cael eu monitro gan Brif Swyddogion trwy gynlluniau gweithredu a gytunwyd.  Byddai’r rhain yn cael eu cynnwys fel rhan o adroddiadau perfformiad i’r Pwyllgor a’r Cabinet.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y ddogfen ar fesurau atebolrwydd cyhoeddus a oedd wedi cael ei rhannu â’r gweithdy a thynnodd sylw at nifer o anghysonderau yn yr adroddiad - roedd rhai eitemau ar goll o Gynllun y Cyngor ac eraill â chanlyniadau gwahaniaethol.  Cytunodd y byddai’n rhannu rhestr o bryderon gyda’r Prif Swyddog fel bo modd ymchwilio i’r rhain.

 

Dywedodd bod perfformiad ar Grantiau Cyfleusterau I'r Anabl yn hunan-ysgogol ac y dylid rhoi sgôr risg coch iddynt yn hytrach na melyn.  Er ei fod yn cydnabod bod esboniadau wedi’u rhoi o gamau gweithredu i wella canran yr arfarniadau blynyddol i weithwyr, teimlai y dylid rhoi sgôr risg coch i hynny hefyd.  Ar gamau gweithredu Cyngor Gwyrdd, gofynnodd am fwy o wybodaeth am ‘seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a chaffael cerbydau yng Nglannau Dyfrdwy’ er mwyn cael mynediad at waith, gwasanaethau iechyd, hamdden ac addysg.

 

Esboniodd y Prif Swyddog mai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru (LlC) oedd y mesurau atebolrwydd cyhoeddus ac felly nid oedd pob un yn cael eu cynnwys ym mlaenoriaethau'r Cyngor yng Nghynllun y Cyngor.  Oherwydd yr heriau mewn cysylltiad â Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, roedd y Cyngor wedi cytuno i gynyddu cyllideb 2018/19.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at drafodaeth am yr adroddiad Archwilio Mewnol ar Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn y Pwyllgor Archwilio.  Darparodd y Cynghorydd Attridge wybodaeth am y bwrdd arolygu proffesiynol a oedd wedi cael ei sefydlu i symud materion ymlaen ac roedd y Prif Weithredwr wedi awgrymu y byddai model tebyg yn cael ei fabwysiadu pe bai materion arwyddocaol yn cael eu nodi mewn unrhyw faes gwasanaeth arall.

 

O ran lefelau dyledion tenantiaid, gofynnodd y Cynghorydd Jones beth oedd yn cael ei wneud i ostwng ôl-ddyledion rhent.  Rhoddodd y Cynghorydd Attridge sicrwydd bod cynllun gweithredu mewn lle a bod cynnydd yn cael ei fonitro yn dilyn yr adroddiad Archwilio Mewnol.  Rhoddodd drosolwg cryno o’r diweddariad a roddwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter, a dywedodd bod dull dim goddefgarwch yn cael ei ddefnyddio i ddatrys y broblem hirfaith hon.

 

Mewn ymateb i ymholiad am ganran y ffyrdd sydd mewn cyflwr gwael cyffredinol, tynnodd y Prif Swyddog sylw at y ffaith nad oes unrhyw beth o’i le o reidrwydd ar ostwng y targedau gan fod nifer o ffactorau i’w hystyried.  O ran defnyddio’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, esboniodd y cynlluniau i ddileu’r targed ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau bod trefniadau prynu’n cyflawni gwerth am arian.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at y dadansoddiad o lefelau risg presennol ar gyfer risgiau strategol yng Nghynllun y Cyngor a materion atebolrwydd, gan godi pryderon na fyddai Cynllun y Cyngor yn darparu canlyniadau mewn meysydd anghenus megis y rheiny sydd o fudd i bobl ifanc, yr A548 a Dociau Mostyn.  Mewn ymateb i sylwadau am Gynnig Twf Gogledd Cymru, esboniodd y Cynghorydd Attridge a’r Prif Swyddog y mesurau diogelu a oedd mewn lle i gynnwys Aelodau mewn penderfyniadau allweddol ar y cytundeb llywodraethu, ac roedd disgwyl i’r cam cyntaf gael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor yn fuan.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mullin at farn Swyddfa Archwilio Cymru sef bod Cyngor Sir y Fflint yn perfformio ar lefel uchel.

 

Roedd y Cynghorydd Johnson yn croesawu’r gwelliant sylweddol yng nghanran gwariant y Cyngor gyda busnesau o Gymru a Sir y Fflint ac awgrymodd y gellid ymestyn hyn i gynnwys gwariant a fydd yn codi o Gynnig Twf Gogledd Cymru.

 

Mewn ymateb i eglurhad a geisiwyd gan y Cynghorydd Woolley o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) mewn perthynas â graffiau yn yr adroddiad, esboniodd y Prif Swyddog strwythur y Cynllun a oedd yn cynnwys 58 o weithgareddau lefel uchel o dan yr wyth blaenoriaeth.  Ar y ffigwr o 4% ‘dim data’ ar Statws Coch Melyn Gwyrdd perfformiad DPA, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd data ynghylch tueddiadau yn berthnasol i bob un DPA ond byddai’n gwirio hyn gyda swyddogion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â thalu anfonebau contractwyr, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd hyn wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gan fod y perfformiad yn cyd-fynd â thelerau’r contract.

 

Roedd y Cynghorydd Bateman yn falch o nodi y rhagorwyd ar y targed ar gyfer nifer yr ymweliadau â Theatr Clwyd.  Holodd y Cynghorydd McGuill yngl?n ag atebolrwydd mewn cysylltiad â’r maes parcio a oedd angen ei drwsio a dywedwyd wrtho mai ased y Cyngor yw’r maes parcio ac yr eir i’r afael ag ef drwy’r Rhaglen Gyfalaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi a chefnogi’r perfformiad cadarnhaol cyffredinol;

 

(b)       Nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn aros i’r cynllun gweithredu gael ei gyhoeddi gan y Cabinet i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd o danberfformiad sydd â statws Coch neu Felyn, gyda dirywiad mewn tueddiadau perfformiad; a

 

(d)       Rhoi gwybod i’r Cabinet y dylid israddio perfformiad o ran ôl-ddyledion rhent ac arfarniadau i risgiau Coch.

Awdur yr adroddiad: Robert Robins

Dyddiad cyhoeddi: 02/08/2018

Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: