Manylion y penderfyniad
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Education & Youth Overview & Scrutiny Committee
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ei hystyried. Dywedodd bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 21 Rhagfyr 2017 wedi'i ganslo ac y bydd yr eitemau yn cael eu cynnwys ar raglen y cyfarfod nesaf ar 1 Chwefror 2018. Eglurodd y bydd y sesiwn friffio ar ddiogelu corfforaethol, a oedd i fod i gael ei chynnal cyn y cyfarfod ym mis Rhagfyr, yn cael ei chynnal cyn cyfarfod o’r Cyngor Sir.
Yn ystod y drafodaeth, cynigiwyd y diwygiadau canlynol i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
- Cynnwys adroddiad ar y Gwasanaeth Ieuenctid
- Gwneud diogelwch cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd yn eitem reolaidd ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor
- Cynnwys adroddiad ar sut mae rhaglen band B Ysgolion yr 21ain yn cyd-fynd â’r grant maint dosbarthiadau gan Lywodraeth Cymru
- Cyflwyno adroddiad cynnydd ar weithredu’r ddarpariaeth gofal plant am ddim i gyd-gyfarfod o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Cyflwyno adroddiad ar y Ganolfan Hawl Bore Oes i gyd-gyfarfod o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Tynnodd yr Hwylusydd sylw at baragraff 1.03 yr adroddiad a dywedodd, yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2017, y penderfynwyd holi barn bob Pwyllgor am amseroedd y cyfarfodydd fel rhan o’u rhaglen gwaith i'r dyfodol.Cyfeiriodd at y dewisiadau, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, a gofynnodd i’r Pwyllgor am eu barn ynghylch patrwm cyfarfodydd.Byddai’r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl wrth Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.
Awgrymodd y Cyng. Patrick Heesom y dylai’r Pwyllgor gadw at y trefniadau presennol a chyfarfod ar brynhawn ddydd Iau am 2.00pm.Eiliwyd hyn gan y Cyng. Dave Mackie a chafodd ei gymeradwyo pan gynhaliwyd pleidlais ar y mater.
PENDERFYNWYD:
(a) Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;
(c) Rhoi gwybod i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd bod y Pwyllgor yn ffafrio cwrdd am 2pm ddydd Iau.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 03/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 23/11/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Dogfennau Atodol: