Manylion y penderfyniad
Holywell Leisure Centre Community Asset Transfer
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide the Committee with an
update
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yr adroddiad i ystyried cynnydd Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon yn ystod tri mis cyntaf gweithredu ers trosglwyddo ar 31 Mawrth 2017.
Trosglwyddwyd yr adeilad a gweithwyr ac adleoliwyd y llyfrgell i’r ganolfan hamdden gan mai dyma’r trosglwyddiad ased mwyaf gan y Cyngor. Tynnodd y Prif Swyddog sylw at y dogfennau a oedd ar gael oedd yn dangos y broses gadarn ar ddiwydrwydd cynlluniau busnes hyd at bwynt trosglwyddo. Rhannodd fanylion y gefnogaeth refeniw a ddarparwyd gan y Cyngor ac arian cyfalaf a ddyrannwyd i ddelio gyda materion yn y dyfodol.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Tudor Jones (yn siarad fel Cadeirydd Ymddiriedolwyr y ganolfan hamdden) a Mr Chris Travers (Rheolwr y ganolfan hamdden) i roi eu safbwynt ar y cynnydd a wnaed ers y trosglwyddo.
Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r Prif Swyddogion Newid Sefydliadol ac amrywiol adrannau’r Cyngor am eu gwaith i gefnogi’r trosglwyddiad. Rhoddodd drosolwg byr o’i gyfraniad at y prosiect a chanmolodd y Cyngor am ymgysylltu gyda’r cyhoedd yn fuan. Eglurodd bod yr oedi byr cyn trosglwyddo yn angenrheidiol i ddatrys materion a bod y ganolfan hamdden wedi aros yn agored yn ystod y trawsnewid. Soniodd am sefydlu’r Bwrdd Ymddiriedolwyr aml-fedrus i gefnogi datblygiad y cynllun busnes a chanmolodd frwdfrydedd y gweithwyr a gyfrannodd at sefyllfa bresennol y ganolfan hamdden.
Canmolodd y Cynghorydd Ian Dunbar fenter y Cyngor ar Drosglwyddo Ased Cymunedol i helpu’r prosiect a chynnal asedau angenrheidiol ar draws holl ardaloedd y sir. Cytunodd â’r farn mai llif arian a chynllunio busnes oedd y ddau brif ffactor.
Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Paul Shotton, cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at ddysgu o fodel Trosglwyddo Ased Cymunedol Pwll Nofio Cei Connah. Soniodd am yr ymgysylltu gyda Chynghorau Tref a Chymuned ac y croesawyd y gefnogaeth ariannol a gynigiwyd gan rai ohonynt. Hefyd canmolodd y gymuned am eu hewyllys da i gefnogi’r cyfleusterau fyddai o fudd i’r gymuned ehangach. Aeth ymlaen i roi gwybodaeth am y cae bob tywydd a thelerau’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth.
Fel Rheolwr Canolfan Hamdden Treffynnon, rhoddodd Mr Chris Travers fanylion amrywiol brosiectau cyfalaf ar y gweill a chrynhodd y perfformiad ariannol hyd at 30 Mehefin 2017 a oedd yn dangos sefyllfa gyfforddus.
Soniodd y Prif Swyddog am y buddion ar gael drwy drosglwyddo’r cyfleusterau cymunedol drwy gynnig oriau agor hyblyg a mynediad i arbedion fel rhyddhad trethi. Talodd deyrnged i ymdrechion gweithwyr, y Bwrdd a chydweithwyr Undebau Llafur drwy ddod o hyd i atebion gwaith.
Croesawodd y Cynghorydd Billy Mullin yr agwedd ‘gallu gwneud’ a ddangoswyd gan bawb oedd yn rhan o’r prosiect.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Reece i’r wybodaeth a anfonwyd at Gynghorau Tref a Chymuned gael ei hanfon at Gyngor Cymuned Bagillt fel y ward gyfagos. Awgrymodd bod y Pwyllgor yn ymweld â Chanolfan Hamdden Treffynnon mewn cyfarfod yn y dyfodol i weld y gwaith a wnaed yno.
Croesawodd y Cynghorydd David Wisinger yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a’r syniad o rentu gofod i wneud defnydd llawn o’r adeilad. Yngl?n â darparu ystafell gyfarfod newydd, awgrymodd y gellid gwneud ymholiadau yngl?n ag argaeledd dodrefn swyddfa nad oedd yn cael ei ddefnyddio mwyach yn Neuadd y Sir.
Diolchodd y Cadeirydd i’r cyfranwyr am y wybodaeth a rannwyd gyda'r Pwyllgor.
Ar ôl datgan cysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Jones yr ystafell gyda Mr Travers. Ar ôl cynnal y bleidlais, dychwelodd y Cynghorydd Jones i gymryd rhan fel aelod o’r Pwyllgor ar gyfer gweddill yr eitemau.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith a wnaed mewn perthynas â Throsglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon ac yn gwerthfawrogi’r gwaith gan swyddogion y Cyngor a Bwrdd a gweithwyr Canolfan Hamdden Treffynnon.
Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft
Dyddiad cyhoeddi: 24/10/2017
Dyddiad y penderfyniad: 17/07/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol