Manylion y penderfyniad

Pooling of Pensions Investments in Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To establish a joint committee to govern pooled investment of the eight pension funds in Wales.


Penderfyniad:

(a)       Fod cynnwys fersiwn drafft y Cytundeb Rhwng Awdurdodau, sydd wedi ei atodi fel Atodiad B i’r adroddiad, yn cael ei nodi a bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Pwyllgor Pensiynau Clwyd a’r Swyddog Monitro i:

 

·         gytuno ar unrhyw fân newidiadau pellach i’r Cytundeb Rhwng Awdurdodau

·         gymeradwyo ac arwyddo fersiwn derfynol y Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

(b)       I sefydlu cyd bwyllgor (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel y Cyd Bwyllgor Llywodraethu) ar sail y cylch gorchwyl sydd wedi ei atodi i’r adroddiad o fewn y gwelliannau arfaethedig i’r Cyfansoddiad;

 

(c)       Fod gweithredu swyddogaethau penodol yn cael eu dirprwyo i’r Cyd Bwyllgor Llywodraethu fel y nodir o fewn y gwelliannau arfaethedig i’r Cyfansoddiad;

 

(d)       Fod y swyddogaethau sydd wedi eu cadw i’r Cyngor yn cael eu nodi, a’r holl faterion a gaiff eu dirprwyo i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd, ac eithrio terfynu neu wneud gwelliant sylweddol i’r Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

(e)       Cymeradwyo penodi Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd i’r Cyd Bwyllgor Llywodraethu fel cynrychiolydd Sir y Fflint ac Is-gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd fel ei Ddirprwy ef/hi.

 

(f)        Darparu dirprwyaeth i’r cynrychiolydd a enwebwyd a’i Ddirprwy ef/hi i weithredu o fewn cylch gorchwyl y Cyd Bwyllgor Llywodraethu i alluogi gweithredu unrhyw swyddogaeth ddirprwyedig;

 

(g)       Fod Cyngor Sir Caerfyrddin (Cronfa Bensiwn Dyfed) yn gweithredu fel yr awdurdod lletyol gyda'r cyfrifoldebau wedi eu nodi yn y Cytundeb Rhwng Awdurdodau; a

 

(h)       Cymeradwyo'r gwelliannau i'r Cyfansoddiad fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Philip Latham

Dyddiad cyhoeddi: 07/07/2017

Dyddiad y penderfyniad: 01/03/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/03/2017 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: