Manylion y penderfyniad
Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwelliant 2016/17
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To enable Members to fulfil their scrutiny
role in relation to performance monitoring.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad diweddaru rheolaidd i ystyried cynnydd ar gyfer cyflawni’r effeithiau yng Nghynllun Gwella 2016/17, gan ganolbwyntio ar y meysydd tan berfformiad sy’n berthnasol i’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn.
Eglurodd y Prif Weithredwr ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda 100% o’r camau y cytunwyd arnynt yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 82% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Yn ogystal â hyn, mae 66% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed ar gyfer y flwyddyn. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol neu’n fân risgiau.
Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at fonitro gweithgareddau, perfformiad a risgiau. Adroddodd hefyd ar y cynnydd yn erbyn y risgiau a nodwyd yn y Cynllun y manylir amdanynt yn atodiad yr adroddiad.
Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i'r Prif Swyddog a'i dîm am fformat yr adroddiad a'r manylder oedd ynddo, sy'n llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol iawn. Cyfeiriodd at y dangosydd perfformiad ar y nifer o gartrefi gofal a oedd yn ‘Wasanaeth sy’n destun Pryder’ a nododd fod y targed yn anghywir. Cytunodd Swyddogion y dylid cywiro'r ffigwr hwn.
PENDERFYNWYD:
Nodi adroddiad canlyniad Cynllun Gwella 2016/17.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 04/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 20/07/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: