Manylion y penderfyniad
Theatr Clwyd - Complimentary Ticket Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the Theatr Board’s response to the County Council notice of motion
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad Polisi Tocynnau Am Ddim Theatr Clwyd.
Ym mis Hydref, gofynnodd y Cabinet i Fwrdd y Theatr ystyried y rhybudd o gynnig a gyflwynwyd i'r Cyngor Sir ar 14 Mehefin 2016 a darparu ymateb terfynol o ran sut y dylid mynd i'r afael â'r mater. Cyfarfu’r Bwrdd ym mis Tachwedd a chytunodd i gyflwyno’r rhybudd o gynnig o’r tymor nesaf ymlaen, a ddechreuodd ym mis Ionawr 2017.
Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi bod yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Tachwedd lle rhoddwyd cefnogaeth lawn i’r penderfyniad. Yn dilyn erthygl yn y Daily Post, eglurodd y Prif Weithredwr ei fod yn croesawu’r penderfyniad i beidio â chynnig eitemau am ddim i aelodau o’r bwrdd, Cynghorwyr a swyddogion eraill ac, er gwaetha’r ffaith fod arfer o'r fath wedi'i fabwysiadu drwy'r diwydiant i ddatblygu cynulleidfaoedd ac annog noddwyr a chefnogaeth yn y cyfryngau, ac er gwaetha'r ffaith fod yr arfer yn cael effaith ariannol fach iawn, hwn oedd y penderfyniad cywir o safbwynt canfyddiad y cyhoedd. Cyfeiriodd at y sylw a wnaed gan Gadeirydd y Bwrdd, Y Cynghorydd Ron Davies gan ychwanegu ei bod yn bwysig nodi ei fod o, a sawl aelod arall o’r Bwrdd, wedi ildio’r breintiau ers sawl blwyddyn ac, yn wir, yn aml wedi rhoi rhoddion i'r Theatr.
PENDERFYNWYD:
Croesawu ymateb Bwrdd y Theatr.
Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft
Dyddiad cyhoeddi: 16/03/2017
Dyddiad y penderfyniad: 17/01/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/01/2017
Dogfennau Atodol: