Manylion y penderfyniad
Homelessness Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide a monthly update to the Committee on homelessness statistics across the County.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Tai ac Atal yr adroddiad misol ar ddigartrefedd (eitem rhif 6 ar y rhaglen) a oedd yn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor ar y galw presennol gyda data ar gyfer llety digartrefedd a’r rhai sy’n datgan eu bod yn ddigartref.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Ted Palmer at y trosolwg o lety digartrefedd fesul mis yn Nhabl 8, a holodd faint o’r rhai a oedd mewn llety brys, y ganolfan ddigartrefedd a llety dros dro ym mis Ebrill 2024, sy’n parhau i fod yn y llety uchod ym mis Chwefror 2025. Eglurodd Uwch Reolwr Atal a Thai - Tai ac Asedau y byddai’n ymchwilio’r data ac yn darparu dadansoddiad o’r wybodaeth yn dilyn y cyfarfod.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Ted Palmer at y lleoliadau y tu allan i’r sir fesul mis, yn Nhabl 10, a holodd faint o’r rhai a oedd mewn lleoliadau y tu allan i’r sir ym mis Ebrill 2024 a oedd yn parhau i fod yn yr un lleoliad ym mis Chwefror 2025. Eglurodd Uwch Reolwr Atal a Thai - Tai ac Asedau y byddai’n ymchwilio’r data er mwyn darparu dadansoddiad yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2025
Dyddiad y penderfyniad: 12/03/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/03/2025 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: