Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) ar gyfer ystyried y Rhaglen Waith bresennol a’r cynnydd o ran Olrhain Camau Gweithredu.
Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Peers, cytunwyd bod adolygiad ar ôl gweithredu’r model casglu gwastraff ymyl y palmant bob tair wythnos yn cael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith ar gyfer mis Ionawr 2026.
Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Peers, cytunwyd y byddai eitem ar Wasanaethau Bws yn cael ei hychwanegu at y Rhaglen Waith gan gynnwys y sefyllfa genedlaethol ac yn lleol, diweddariad ar y gwasanaeth bws Fflecsi a dibynadwyedd y gwasanaethau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Wakelam cytunwyd y byddai adroddiad ar Adolygiad Rhwystrau Mynediad yn aros ar y Rhaglen Waith.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd i’w cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 03/02/2025
Dyddiad y penderfyniad: 10/12/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/12/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Dogfennau Atodol: