Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith bresennol a’r dogfennau OlrhainCamauGweithredu.
Cynghorodd yr Hwylusydd y byddai’r adroddiadau blynyddol canlynol yn cael eu hychwanegu i’r Rhaglen Waith yn y cyfarfod:-
- Rhaglen Grant Cymorth Tai
- Digartrefedd
- Cofrestr Tai Cyffredin
Gofynnodd y Cynghorydd Helen Brown i ychwanegu’r adroddiadau canlynol i’r Rhaglen Waith er ystyriaeth y Pwyllgor yng nghyfarfodydd y dyfodol:-
- Rheoli Ystadau ac Eiddo - cynnwys cymdogaethau glân a thaclus, gwarchod ein buddsoddiad ac eiddo gwag, ac ail gyflwyno CYA ac arolygon rheoli tenantiaeth;
- NEW Homes - papur dewisiadau ar gyfer manteision ac anfanteision cadw NEW Homes fel cwmni masnachu; a
- Dewisiadau ar ailddynodi eiddo Tai Gwarchod nad oes galw mawr amdanynt
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu oedd i’w cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 18/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 11/09/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: