Manylion y penderfyniad

Schedule of Meetings 2024/25

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar Gyfer 2024/25.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2024/25 yn dilyn ymgynghoriad.  Roedd nifer o gonfensiynau wedi’u mabwysiadu er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng cyfarfodydd a bodloni dymuniadau’r Aelodau lle bo hynny’n bosibl.  Byddai argymhelliad ychwanegol ar gyfer newid dyddiadau / amseroedd mewn amgylchiadau eithriadol yn ôl disgresiwn y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn helpu i adeiladu hyblygrwydd.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, gofynnodd y Cynghorydd Richard Lloyd i’r ymweliadau safle a drefnwyd ar gyfer 27 Awst a’r cyfarfod ar 28 Awst gael eu symud i 2 Medi a 4 Medi yn y drefn honno.  Gofynnodd hefyd a fyddai modd dychwelyd at gynnal cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio am 1pm ar ddyddiau le nad oedd cyfarfodydd wedi’u trefnu yn y boreau.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mike Peers.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones am gael symud cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 16 Ionawr a 13 Chwefror 2025 i'r diwrnodau canlynol (boreau Gwener) oherwydd bod cyfarfodydd eraill wedi’u trefnu ar gyfer y prynhawniau.  Awgrymodd efallai y byddai Aelodau'r Pwyllgor hwnnw'n dymuno ystyried slotiau rheolaidd ar ddydd Gwener er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng cyfarfodydd.

 

Siaradodd Aelodau eraill o blaid cael gwared ar y confensiwn i gynnal cyfarfodydd pwyllgor ar ddiwrnodau penodedig a fyddai'n caniatáu hyblygrwydd i'r dyddiadur.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y newidiadau arfaethedig a fyddai'n cael eu symud ymlaen gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a'r tîm.

 

Ar y sail honno, cafodd y newidiadau eu rhoi i bleidlais a chawsant eu cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2024/25, yn amodol ar y newidiadau canlynol:

·         Dileu'r gofyniad i gyfarfodydd pwyllgor gael eu cynnal ar ddiwrnodau penodedig.

·         Symud dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio ym mis Awst i'r wythnos ganlynol.

·         Newid amser cychwyn cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio i 1pm pan nad oes cyfarfodydd wedi’u trefnu yn y boreau.

·         Symud dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym misoedd Ionawr a Chwefror 2025 i foreau Gwener.

 

(b)       Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cael awdurdod dirprwyedig, ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor perthnasol, i ddiwygio'r Rhestr Cyfarfodydd mewn amgylchiadau eithriadol.

Awdur yr adroddiad: Steven Goodrum

Dyddiad cyhoeddi: 15/08/2024

Dyddiad y penderfyniad: 14/05/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/05/2024 - Cyngor Sir y Fflint

Dogfennau Atodol: