Manylion y penderfyniad
Audit Wales report (Use of Performance Information: Service User Perspective and Outcomes)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
Adolygu’r Argymhellion ar gyfer Gwella ynghyd ag ymateb y Cyngor.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad a oedd yn rhoi manylion am yr archwiliad Defnyddio Gwybodaeth am Berfformiad: Safbwynt a Chanlyniadau Defnyddwyr Gwasanaeth.
Roedd yn astudiaeth genedlaethol a bu i Archwilio Cymru gynnal y gwaith hwn yng Nghyngor Sir y Fflint yn ystod mis Gorffennaf a mis Medi 2023. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Rhagfyr 2023.
Roedd yr archwiliad yn ceisio:
- cael sicrwydd bod yr wybodaeth am berfformiad y mae’r Cyngor yn ei darparu i uwch-swyddogion ac aelodau etholedig yn eu galluogi i ddeall safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a chanlyniad ei weithgareddau;
- cael sicrwydd bod yr wybodaeth hon yn ffurfio rhan o drefniadau sicrhau gwerth am arian y Cyngor wrth iddo ddefnyddio ei adnoddau ac wrth iddo gymhwyso’r
egwyddor datblygu cynaliadwy; ac
- adnabod cyfleoedd i’r Cyngor gryfhau ei drefniadau.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu)nad oedd unrhyw argymhellion ffurfiol wedi cael eu nodi a bod tri argymhelliad ar gyfer gwella wedi codi o’r archwiliad hwn, gyda’r Cyngor yn darparu camau gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion ar gyfer gwella. Ychwanegodd fod y Cyngor eisoes wedi dechrau gweithio ar yr hyn a oedd wedi cael ei argymell yn y cynllun gweithredu a chyfeiriodd at enghreifftiau o adborth gan fudd-ddeiliaid a chwsmeriaid yn cael ei gynnwys yn yr adroddiadau Cabinet.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a oedd wedi awgrymu “Mewn perthynas â phenderfyniadau gwasanaeth a pholisi allweddol, yn cynnwys unrhyw newidiadau i wasanaethau, bod adroddiadau’n cynnwys Safbwyntiau Defnyddwyr Gwasanaeth ar y canlyniadau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd.” A, “Bod y Cabinet yn ystyried y dylid cynnal arolwg blynyddol o ddefnyddwyr gwasanaeth wrth gyflwyno biliau Treth y Cyngor.”
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y camau gweithredu a gynlluniwyd gan y Cyngor mewn ymateb i’r argymhellion ar gyfer gwella yn cael eu cefnogi;
(b) Mewn perthynas â phenderfyniadau gwasanaeth a pholisi allweddol, yn cynnwys unrhyw newidiadau i wasanaethau, bod adroddiadau’n cynnwys Safbwyntiau Defnyddwyr Gwasanaeth ar y canlyniadau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd; a
(c) Bod yr argymhelliad bod arolwg blynyddol o’r preswylwyr yn cael ei gynnal yn cael ei ystyried yr un pryd ag adroddiad ar arolwg cenedlaethol o breswylwyr sy’n cael ei gynnig gan CLlLC.
Awdur yr adroddiad: Emma Heath
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/06/2024
Dogfennau Atodol:
- Audit Wales report (Use of Performance Information: Service User Perspective and Outcomes) PDF 100 KB
- Enc. 1 for Audit Wales report (Use of Performance Information: Service User Perspective and Outcomes) PDF 261 KB
- Enc. 2 for Audit Wales report (Use of Performance Information: Service User Perspective and Outcomes) PDF 612 KB
- Enc. 3 for Audit Wales report (Use of Performance Information: Service User Perspective and Outcomes) PDF 98 KB