Manylion y penderfyniad
Reports from Independent Member visits to County Council meetings
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Eglurodd y Cadeirydd fod yr Aelodau Annibynnol wedi cytuno ar rota ar gyfer mynychu ac arsylwi cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor Sir ar gyfer 2023/24, yn debyg i’r trefniant a gyflawnwyd ar gyfer y cyfarfodydd Cyngor Tref a Chymuned. Gwahoddodd yr Aelodau Annibynnol i gyflwyno eu hadroddiadau ar yr ymweliadau cyntaf a gyflawnwyd, fel a ganlyn:
· David Davies - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 10 Hydref
· Gill Murgatroyd - Y Cabinet ar 17 Hydref
· David Davies - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar 19 Hydref
· Mark Morgan - Cyngor Sir y Fflint ar 24 Hydref
Codwyd y pwyntiau allweddol canlynol o’r ymweliadau hynny:
· Yn gyffredinol roedd y cyfarfodydd wedi’u cadeirio’n dda.
· Roedd rhaglenni wedi eu paratoi’n dda ac yn cynnwys eitem ar ddatgan cysylltiad.
· Dylai swyddogion sy’n mynychu’r cyfarfodydd gael eu cyflwyno yn ôl eu rolau a dylai teitlau swydd gael eu harddangos mewn cyfarfodydd o bell er mwyn cynorthwyo’r arsylwyr.
· Mewn ymateb i’r materion a arsylwyd mewn un cyfarfod, dylid atgoffa Cynghorwyr y dylent ddewis eu geiriau yn ofalus, oherwydd er bod gwahaniaethau barn, mae’n bwysig parhau i fod yn barchus a chwrtais fel bod cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal mewn modd proffesiynol heb danseilio hyder yn y Cyngor.
Yn ystod trafodaeth ar y pwynt olaf, cyfeiriwyd at yr eitem flaenorol ar yr Addewid Cwrteisi a Pharch gan Gynghorau Lleol. Awgrymodd Gill Murgatroyd y gall Aelodau Annibynnol sy’n arsylwi cyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol, ganfod themâu parhaus er mwyn ystyried camau posibl megis codi pryderon gyda’r Arweinydd Gr?p perthnasol.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai adborth o’r ymweliadau yn cael eu rhannu mewn cyfatebiaeth gyda’r holl Aelodau. Cafodd hyn ei gynnig a’i eilio gan Gill Murgatroyd a David Davies.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r adborth llafar i’w rannu gyda’r holl Aelodau.
Dyddiad cyhoeddi: 05/02/2024
Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/11/2023 - Pwyllgor Safonau